Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyhoeddi llyfrau'r Brifwyl yn hwb i'r byd cyhoeddi
- Awdur, Sara Down-Roberts
- Swydd, 大象传媒 Cymru Fyw
Dywed Cyngor Llyfrau Cymru eu bod yn hynod o falch y bydd tair o gyfrolau arferol y Brifwyl yn cael eu cyhoeddi eleni.
Ym mis Chwefror dywedodd y Cyngor bod colli cyfrolau'r Eisteddfod - Y Rhaglen, Y Cyfansoddiadau, Y Fedal a'r Daniel Owen - wedi costio oddeutu 拢100,000 i'r diwydiant llyfrau yn ei gyfanrwydd y llynedd.
Eleni fe fydd cyfrolau buddugol Y Fedal Ryddiaith a Gwobr Goffa Daniel Owen, os oes teilyngdod, ynghyd 芒'r Cyfansoddiadau yn cael eu cyhoeddi.
Mae'r rhai sy'n ymgeisio am y fedal a Gwobr Daniel Owen wedi cyflwyno eu gwaith ers 2019 yn barod ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2020, ond mae'r cyfansoddiadau eraill yn newydd ar gyfer eleni gyda gweddill y cyfansoddiadau a gyflwynwyd ar gyfer eisteddfod wreiddiol Tregaron o dan glo.
"Ry'n yn hynod o falch bod tair cyfrol yn cael eu cyhoeddi eleni," meddai Arwel Jones, Pennaeth Datblygu Cyhoeddi Cyngor Llyfrau Cymru wrth siarad 芒 Cymru Fyw.
"Roedd llynedd yn golled o oddeutu can mil i'r diwydiant llyfrau ond rwy' hefyd yn falch o ddweud bod cyhoeddwyr a siopau llyfrau wedi ymdopi yn rhyfeddol yn sgil y pandemig ac wedi addasu.
"Mae rhywun yn ymwybodol, wrth gwrs, na fydd modd gwerthu'r cyfrolau yma ar faes y Brifwyl ond rwy'n hyderus y bydd y llyfrau yn boblogaidd a bod cryn ddisgwyl amdanynt.
"Does gynnon ni ddim ffigyrau swyddogol ond yr argraff gyffredinol yw bod nifer wedi troi at ddarllen yn y cyfnod clo ac ar 么l y cyfnod cychwynnol bod siopau wedi dod o hyd i ffyrdd newydd i gyrraedd cwsmeriaid - ac hefyd, wrth gwrs, mae'r cyhoeddwyr wedi bod yn ddyfeisgar a chanfod ffyrdd newydd o weithredu."
Fe fydd enillwyr y Fedal Ddrama a Gwobr Goffa Daniel Owen yn cael eu cyhoeddi nos Lun a Mawrth ac yn ystod gweddill yr wythnos bydd dirprwyaeth o'r Orsedd, dan arweiniad yr Archdderwydd, yn cynnal seremon茂au cyflwyno y Goron, y Gadair a'r Fedal Ryddiaith.
Yn ystod yr wythnos hefyd bydd enillwyr categor茂au Llyfr y Flwyddyn yn cael eu cyhoeddi gydag enw y prif enillydd ac enillydd Gwobr y Bobl yn cael eu datgelu nos Fercher.
"Dwi'n credu bod y dull yma o gyhoeddi enillwyr Llyfr y Flwyddyn yn gweithio'n dda iawn - mae'r cyfan yn cael mwy o sylw rywsut gan y cyfryngau ac y mae yna fwy o drafod. Mae hynny'n holl bwysig," ychwanegodd Arwel Jones.
Un datblygiad ers y llynedd yw bod lle amlwg i gystadlu eleni ac fe fydd Radio Cymru ac S4C yn darlledu oriau o gystadlaethau bob dydd. Yn ogystal bydd y canlyniadau llawn a blas o'r cystadlu yn ymddangos ar wefan ac ap 大象传媒 Cymru Fyw.
Bydd sesiynau'r holl is-bafiliynau, fel y Babell L锚n, T欧 Gwerin, Cymdeithasau ayb i'w gweld ar ac ar sianel YouTube yr Eisteddfod.