Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Rodon yn 么l ond Ramsey dal allan yn erbyn Estonia
Mae Cymru wedi ychwanegu amddiffynnwr Tottenham, Joe Rodon i'r garfan ar gyfer g锚m yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022.
Roedd Rodon yn absennol o'r fuddugoliaeth yn erbyn Belarws yn Rwsia brynhawn Sul, yn dilyn anaf sydd wedi ei atal rhag chwarae i'w glwb na'i wlad y tymor hwn.
Ond ni fydd Aaron Ramsey yn rhan o'r garfan pan fydd Cymru'n wynebu Estonia yng Nghaerdydd nos Fercher, gan fod chwaraewr canol cae Juventus heb wella o anaf i'r glun.
Bydd pedwar yn rhagor o'r 13 o chwaraewyr oedd yn absennol dros y penwythnos yn rhan o'r garfan.
Bu'n rhaid i Ethan Ampadu, Tyler Roberts a Brandon Cooper golli'r g锚m yn Kazan ddydd Sul oherwydd trafferthion fisa.
Mae Harry Wilson ar gael unwaith yn rhagor ar 么l iddo gael ei wahardd am un g锚m yn dilyn ei gerdyn coch yn erbyn Denmarc yn Euro 2020.