Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Problemau alcohol ar gynnydd yn sgil y pandemig
- Awdur, Luned Phillips a George Herd
- Swydd, Newyddion ´óÏó´«Ã½ Cymru
"Heb y lle yma, 'swn i ddim yn fyw, a ma' hynna'n ffaith."
Mae Nerys Edwards yn sobor ers pum mis bellach ar ôl cael cymorth i adfer o'i phroblemau alcohol - ac i ganolfan Tŷ Penrhyn ym Mangor y mae'r diolch, meddai.
Ar ei gwaethaf roedd Nerys, sy'n 36 oed ac yn fam i ddau, yn yfed litr o fodca neu fwy y dydd.
Mae'r weithwraig gofal yn y cartref yn dweud ei bod hi wastad wedi yfed gyda'r nos, ond i'r yfed waethygu ddechrau'r pandemig.
"Nes i sylwi o'n i yn dechra' yfad mwy, ond o'dd o'n esgus - o'n i 'di cael 'diwrnod caled heddiw', ti'n gw'bod efo'r PPE a bob dim fel'na.
"Oedd, mi oedd o'n anodd, fedra' i'm deud clwydda', o'dd o'n ofnadwy o anodd, yn enwedig pan o'ddach chi'n gofalu am bobol yn y gymuned, a do'dd y teulu na neb ddim yn cael mynd i weld nhw - dim ond y ni o'dd yn mynd i weld nhw.
"O'n i'n sylwi 'mod i'n yfed mwy, ond ddim yn gweld o fel problam. O'n i jest yn meddwl union r'un peth â rhywun yn cael glasiad o win. Ond o'dd Nerys yn cael glasiad neu ddau o fodca.
"O'n i in denial… ma'r stigma alcoholic yn dod allan fel 'da chi'n yfad bore, dydd a nos, so do'n i byth yn meddwl bod 'na broblam fel hynna yn fy yfad i 'lly."
'Dim lle i fynd' yn sgil Covid
Roedd Carol Hardy, hefyd yn gweld yr un math o brofiadau yn ystod y cyfnod clo, tra'n gweithio i ganolfan adferiad Stafell Fyw yng Nghaerdydd.
"Roedd e'n amlwg iawn i ni yn Y Stafell Fyw, bod pobl o'dd ar ein llyfrau ac wedi cael cyfnodau o atal yfed, bod lot o bobl wedi disgyn ac wedi gorfod ffeindio ei hunan yn ôl yng nghrafangau alcoholiaeth," meddai.
Mae Carol Hardy wedi siarad yn agored ar raglenni radio a theledu am fod yn alcoholig. Mae hi'n credu bod alcoholiaeth yn ynysu person - a bod hynny wedi bod yn broblem i bobl yn ystod y pandemig.
"Roedd Covid yn rhoi'r fraint yna, i'r person oedd yn mynd i fod â phroblemau alcohol. Roedd unigrwydd a'r ffaith bod pobl yn ddi-arweiniad… a'r ffaith doedd ganddyn nhw ddim lle i fynd o ddydd i ddydd."
Roedd yna gynnydd o 19% yn 2020 yn nifer y marwolaethau yng Nghymru sydd ynghlwm ag alcohol - y lefel uchaf mewn 20 mlynedd.
Cofnodwyd 438 o farwolaethau bryd hynny, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, o'i gymharu â 368 yn 2019, ac mae yna ofnau y bydd y nifer yr uwch fyth eleni.
Yn ôl elusen adferiad Barod, mae nifer y rhai sy'n cael eu cyfeirio at eu gwasanaethau oherwydd problemau alcohol wedi cynyddu 41% o'i gymharu â lefelau cyn y pandemig.
Pobl oedd eisoes yn yfed yn rhy drwm oedd y bobl oedd yn dueddol o yfed i lefelau mwy peryglus, yn ôl Andrew Misell o'r elusen Alcohol Change.
"Roedd y gwasanaethau wedi gwneud eu gorau glas iawn i gyrraedd pobl… ar-lein a drwy'r ffôn," meddai. "Ond mi oedd 'na bobl oedd yn methu cael cymorth am wahanol resymau, yn rhannol am fod pobl angen cael cymorth wyneb yn wyneb.
"Felly dwi ddim yn synnu nawr bod mwy o bobl yn dod ymlaen, ac os rhywbeth mae 'na le i ddiolch bod pobl yn teimlo bo' nhw'n gallu cyflwyno ei hunan i wasanaethau i ofyn am gymorth."
Ychwanegodd: "Yr her i ni nawr yw i weld faint o bobl gallwn ni weld, be allwn ni neud i helpu pobl nôl ar eu traed… yn sicr mae digon o waith gan wasanaethau nawr i helpu pobl falle oedd heb gael y cymorth oedden nhw eisiau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf."
'Peidiwch bod ofn - mynnwch gymorth'
Mae gan Carol Hardy neges glir i unrhyw un sy'n dioddef.
"Mae alcoholiaeth yn rhemp yn ein cymdeithas ni, ac mae Covid wedi cyfrannu at hynny yn anffodus.
"Ma' 'na deuluoedd ym mhobman yn gyson ar ein strydoedd ni… sydd yn dioddef oherwydd alcoholiaeth. Peidiwch bod ofn - mynnwch gymorth."
Dyna wnaeth Nerys Edwards ym mis Chwefror 2022. Roedd hi ar y pwynt hwnnw, meddai, yn teimlo fel nad oedd hi eisiau deffro yn y bore.
Mi ffoniodd llinell gymorth, ac mae'n dweud mai dyma'r tro cyntaf iddi fod yn onest am ei phroblemau. Cafodd gyngor i gysylltu â chanolfan adferiad Tŷ Penrhyn ym Mangor, ac mae'r penderfyniad hwnnw wedi newid ei bywyd.
"Dwi ddim yn cofio bod mor hapus yn fy mywyd," meddai. "Dwi'n perthyn i rywbeth.
"Dwi fod yma, dwi fod i fod yn fam… heb y lle yma, 'swn i ddim yn fyw, a ma' hynna'n ffaith."
Erbyn hyn, mae'r dyfodol yn edrych yn fwy gobeithiol.
"Just for today, dwi'n sobor a dwi'n hapus. Da chi'm yn gw'bod be sy' rownd y gornel a be' sy'n mynd i ddigwydd fory ond dwi'n hapus byw o ddydd i ddydd a bod yn prowd o ddweud 'dwi ddim 'di yfed heddiw'."
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn gwario £64m ar gynllun sy'n mynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau.
Mae'r cynllun, meddai'r llefarydd, yn codi ymwybyddiaeth ynghylch effaith goryfed ac yn sicrhau bod pobl yn cael asesiad, triniaeth a gwasanaethau adferiad.
Ychwanegodd bod y llywodraeth hefyd yn mynd i'r afael â'r sefyllfa trwy osod isafswm ar bris alcohol.