Angen 'adolygiad brys' i safle tirlenwi dadleuol

Ffynhonnell y llun, Colin Barnett

Disgrifiad o'r llun, Mae pobl wedi bod yn cwyno am arogleuon gwael o safle Withyhedge ers mis Hydref 2023
  • Awdur, Rhodri Lewis
  • Swydd, Gohebydd Gwleidyddol 大象传媒 Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn galw ar Gyfoeth Naturiol Cymru i 鈥渁dolygu ar frys鈥 sut y gwnaethon nhw ymateb i gwynion am safle tirlenwi dadleuol.

Mae trigolion wedi cwyno am yr arogl o safle Withyhedge ger Hwlffordd yn Sir Benfro.

Dywed CNC eu bod yn gweithio i ddelio 芒'r sefyllfa, tra bod y gwrthbleidiau yn dweud y dylai gweinidogion fod wedi gweithredu'n gynt.

Mae'r cwmni sy'n berchen ar y safle wedi ymddiheuro wrth drigolion yr ardal am yr arogl.

Disgrifiad o'r llun, Mae David Neal wedi鈥檌 ddyfarnu鈥檔 euog ddwywaith o droseddau amgylcheddol

Cafodd Withyhedge sylw ar raglen 鈥淒ispatches鈥 ar Channel 4 nos Wener, lle bu trigolion yn cwyno am yr arogl o鈥檙 safle.

Mae David Neal, cyfarwyddwr y cwmni sy鈥檔 berchen arno, wedi鈥檌 ddyfarnu鈥檔 euog ddwywaith o droseddau amgylcheddol.

Cafodd ddedfryd o garchar wedi'i gohirio yn 2013 am gael gwared 芒 gwastraff yn anghyfreithlon ar safle cadwraeth.

Bedair blynedd yn ddiweddarach cafodd ei erlyn eto am beidio 芒 chael gwared arno.

Mae Mr Neal hefyd wedi bod yng nghanol ffrae yn ymwneud 芒 rhodd o 拢200,000 gan ei gwmni i ymgyrch arweinyddiaeth y Prif Weinidog, Vaughan Gething.

Mae Mr Gething bob amser wedi dweud bod y rheolau'n ymwneud 芒'r rhodd wedi cael eu dilyn.

Disgrifiad o'r llun, Mae Vaughan Gething bob amser wedi dweud bod聽y rheolau'n ymwneud 芒'r rhodd wedi cael eu dilyn

Fe glywodd rhaglen Channel 4 honiadau mai sylffid hydrogen sy'n creu'r "drewdod" ar y safle.

Mae cyn-weithwyr yn honni ar y rhaglen bod gwastraff anaddas fel plastrfwrdd a chyflenwadau meddygol, gan gynnwys costreli o waed, wedi cael eu gadael ar y safle.

Dywedodd gweithiwr arall bod hylif llygredig sy'n dod o ardal claddu sbwriel yn cael ei roi yn y tir, yn hytrach na chael gwared ohono yn briodol.

Fe glywodd y rhaglen honiadau bod yr hylif yn gallu creu "drewdod" ac effeithio ar yr amgylchedd os yw'n gollwng.

Ddydd Mawrth, dywedodd Iechyd Cymru eu bod nhw'n monitro'r safle a bod hynny wedi dangos lefelau o nwy hydrogen sylffid ym mis Mawrth ac Ebrill, oedd ar adegau, yn uwch na chanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd.

Dywedodd swyddogion eu bod nhw'n dal i gynghori pobl i gadw drysau a ffenestri ynghau pan mae arogl, ac i gael cyngor meddygol os ydyn nhw'n teimlo'n s芒l.

'Angen ymchwiliad llawn'

Mewn datganiad yn dilyn y rhaglen, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: 鈥淐yfoeth Naturiol Cymru sy鈥檔 gyfrifol am sicrhau bod gweithredwyr tirlenwi yn cydymffurfio鈥檔 llawn 芒 gofynion amgylcheddol a chyfreithiol llym.

鈥淥 ystyried natur ddifrifol y materion a godwyd gan y rhaglen, rydym wedi gofyn i CNC adolygu ar fyrder pa gamau a gymerodd i ymchwilio a mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 cwynion a godwyd yn uniongyrchol ag ef ers 2020.鈥

Ond dywedodd Andrew RT Davies AS, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig: 鈥淣i ellir anwybyddu鈥檙 dystiolaeth a鈥檙 honiadau a gyflwynwyd neithiwr ar raglen Channel 4 yngl欧n 芒 chwmni nath roi rhodd i鈥檙 Prif Weinidog, a nawr rhaid gweithredu ar frys.

鈥淩ydyn ni鈥檔 gwybod bod perchennog y cwmni wedi bod yn creu drewdod ofnadwy yn Withyhedge yn Sir Benfro鈥 ac wedi cyfrannu鈥檙 swm mwyaf yn hanes datganoli, at ymgyrch arweinyddiaeth Vaughan Gething.

鈥淢ae Llywodraeth Lafur Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi methu 芒 chymryd unrhyw gamau brys hyd yn hyn, mae鈥檔 hen bryd iddynt ddatrys y sefyllfa sydd wedi mynd ymlaen yn llawer rhy hir ar draul pobl leol ac ymchwilio鈥檔 llawn i unrhyw ddrwgweithredu gan gwmni Neal. "

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AS, Arweinydd Plaid Cymru: 鈥淢ae鈥檙 rhaglen neithiwr yn codi cwestiynau difrifol pellach am synnwyr Vaughan Gething wrth dderbyn rhodd fawr gan David Neal, llygrwr amgylcheddol a gafwyd yn euog.

鈥淢ae yna gamau brys y mae鈥檔 rhaid eu cymryd nawr yngl欧n 芒鈥檙 dystiolaeth ddiweddaraf a ddatgelwyd gan raglen Dispatches Channel 4.

"Ond mae angen inni wybod hefyd pam mai dim ond nawr y mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am adolygiad brys gan CNC, pan mae pryderon am weithrediadau David Neal wedi bod yn gyhoeddus ers tro byd. Gyda Llywodraeth Vaughan Gething mae鈥檙 cyfrifoldeb yn gorwedd.

鈥淎r ddadl Arweinwyr 大象传媒 Cymru neithiwr, fe wrthododd eto i ymddiheuro am ei weithred, sy鈥檔 golygu bod blas chwerw鈥檙 sgandal hon yn parhau.鈥

Wrth ymateb, dywedodd Gareth O鈥橲hea, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru: 鈥淩ydym yn deall sut effaith ma鈥檙 sefyllfa yn ei gael ar bobl sy鈥檔 byw ac yn gweithio yn y cymunedau o amgylch Safle Tirlenwi Withyhedge yn Sir Benfro.

"Ers i鈥檙 problemau arogleuon ar y safle gael eu nodi am y tro cyntaf ddiwedd mis Hydref 2023, ein blaenoriaeth bob amser fu sicrhau bod y gweithredwr yn cymryd y camau gofynnol i fynd i鈥檙 afael 芒 ffynhonnell fwyaf tebygol yr arogleuon hynny cyn gynted 芒 phosibl.

鈥淢ae dod 芒鈥檙 mater hwn i ben yn parhau i fod yn flaenoriaeth i鈥檙 holl bartneriaid dan sylw, ac fyddwn ni ddim yn stopio nes bod y gweithredwr yn Withyhedge yn dangos ei fod yn rheoli鈥檙 arogleuon o鈥檌 safle yn effeithiol.鈥

Dywedodd y cwmni wrth Channel 4 ei fod wedi ymddiheuro i drigolion lleol am yr arogleuon, gan ddweud ei fod wedi gwario miliynau o bunnoedd i ddatrys y problemau yn Withyhedge.