| ![Legacies - Gogledd Ddwyrain Cymru](/staticarchive/982bbaee97dcc4a5be4fa625ee3f51bbf1a6199e.gif) |
![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) |
![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) |
![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) |
![Immigration and Emigration](/staticarchive/75553e41cec931dd97d0d1a946fa677a9f9cf3d1.gif) | ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) | ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) | ![](/staticarchive/4da81475bce87e85d2d169dd1862a5cb017a775c.gif) |
Pwyliaid Penley |
![](/staticarchive/c330d17371c90d83e5c0e60047fc98ea6c9e45bd.gif) |
Tyfu i fyny ym Mhenley
![Y teulu Bereza yn y 50au hwyr](/staticarchive/d91f484611ca296f462fc7d7ad32c71650a4ad48.jpg) Y teulu Bereza yn y 50au hwyr . O’r chwith i’r dde – Andy, Stanley, Dr Bereza a Mrs Zofia Bereza. | Ganwyd Andy Bereza ym
Mhenley ym 1949. Tyfodd ef a’i frawd a’i chwaer iau i fyny yn y gwersyll, fe aethon nhw i’r ysgol yno, ac roedden nhw’n rhan o’r gymdeithas Bwylaidd. Mae’n cofio cael, “ ... magwrfa anhygoel ... fe siaradon ni Bwyleg nes ein bod yn bump neu chwech oed, yna fe ddysgon ni Saesneg yn yr ysgol – gydag acen Lerpwl, gan mai oddi yno y deuai’r athro”.
Roedd rhieni Andy ill dau yn Bwylaidd. Ganed tad Andy, Dr
Michael Bereza, yng Ngwlad Pwyl ym 1903. Roedd Dr Bereza yn Gyrnol yng Nghorfflu Meddygol y Fyddin Bwylaidd ar ddechrau’r rhyfel. Ar ôl yr ymosodiad, fe ddihangodd drwy Rwmania i ymuno ag unedau byddin Gwlad Pwyl oedd yn cael eu ffurfio yn Ffrainc. Yn dilyn yr ymosodiad gan yr Almaen ym 1940 fe barhaodd ei daith a dihangodd i’r Dwyrain Canol. ![Plac Carpathaidd](/staticarchive/2856da6a63e78926153152d750d2a30b604d44e2.jpg) Mae’r plac hwn yn dathlu’r Adran Carpathaidd, sydd â’i glwb feteraniaid wedi ei leoli ym Manceinion. Mae’r symbolau ar y plac yn cynnwys un yr Wythfed Fyddin Brydeinig, y bu’r Pwyliaid yn ymladd ochr yn ochr â nhw. | Yna fe’i gwnaed yn Brif Swyddog Meddygol y Frigâd Garpathaidd enwog a fu’n ymladd fel rhan o’r Wythfed Fyddin Brydeinig yng Ngogledd yr Affrig a’r Eidal ac fe amlygodd ei hun ym mrwydrau Tobruk a Monte Cassino. Cyfarfu â’i wraig, Zofia Gallot, a oedd yn ferch i gyn Weinidog Trafnidiaeth Gwlad Pwyl, tra ar wyliau ym Mhalestina.
Ar ddiwedd y rhyfel cyrhaeddodd Dr Bereza y DU ac fe’i
benodwyd yn Ddirprwy Bennaeth y Corfflu Meddygol Pwylaidd, yn cefnogi Byddinoedd Gwlad Pwyl ar gyfer y DU gyfan, oedd â tua 200,000 o dan eu hadain. Ar ôl dadfyddino ym 1947, bu’n gweinyddu Penley ar gyfer y Weinyddiaeth Iechyd ac yn
ddiweddarach o dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Parhaodd i
gadw ysbyty Penley ar agor hyd ei ymddeoliad, gan gynnwys
pledio’r achos gydag Enoch Powell, pan oedd ef yn Weinidog
Iechyd. Wedi gweithio mewn cynifer o wledydd, roedd Dr Bereza wedi datblygu arddull rheoli anarferol. Eglura Andy: “Cyflwynodd Dad rhai arferion diddorol yn yr ysbyty. Tra yn yr Affrig roedd wedi arfer cael egwyl rhwng un a thri y prynhawn, oherwydd y gwres. Ym Mhenley fe fynnodd bod gweddill y staff yn cymryd un hefyd, ac fe greodd hyn awyrgylch gweithio gwell”.
Eich sylwadau
| |
Argraffu tudalen |
![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) | ![English](/staticarchive/6b52237eabc927cf5d1bbc9957b8d6756002d9ad.gif) | ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) | ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
| ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) | ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) |
![Internet Links](/staticarchive/02720e2528146a9fe7a81e33f88dc6a4eb8de93f.gif)
![](/staticarchive/4496333f8323ebca9b48df4987d4d92777bcab43.gif) |
|
![](/staticarchive/4496333f8323ebca9b48df4987d4d92777bcab43.gif) |
|
![](/staticarchive/4496333f8323ebca9b48df4987d4d92777bcab43.gif) |
|
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) | ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) |
| ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) | ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) |
![Related Stories](/staticarchive/1badd8bfb73dbf34acae4126c1c027fc8e0fd510.gif)
| ![](/staticarchive/317496a096d6c86486a71d4521994bcd171a6bb3.gif) |
|