大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MERCHER
18fed Mehefin 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Legacies - Gogledd Ddwyrain Cymru

大象传媒 Homepage
 Legacies
 UK Index
 Gogledd Ddwyrain Cymru
 Erthygl
Lluniau
Fideo
Digwyddiadau
Eich straeon
 Archif
 Gwybodaeth Safle
 大象传媒 Hanes
 Lleol i Mi

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Immigration and Emigration
Pwyliaid Penley

Bywyd yn y gwersyll

parti Nos Galan yn y gwersyll, tua 1950.
© Y teulu Mazurek
Yn y dechrau roedd amodau yn y gwersyll yn anodd i’r mewnfudwyr. Roedd y rhan fwyaf o deuluoedd yn byw mewn llety oedd yn cael ei rannu yn y barics. Teulu Andy oedd yr unig un â thoiled dan do – rhywbeth â’i gosododd nhw ar wahân i weddill y gymuned. Ymhen amser fe wellodd y cyfleusterau, ac fel y dywed Andy, “Doedd dim angen i ni adael y gwersyll ar gyfer unrhyw beth – hyd yn oed ysgol uwchradd, gan fod yna ysgol arbrofol yn y gwersyll – ysgol gyfochrol, a oedd ag un rhan yn uwchradd fodern a rhan arall yn ramadeg.” Yn ogystal â’r ysgolion, roedd yna gapel, theatr, sinema, siop, ffreutur a chlwb cymdeithasol yn y gwersyll.

Y Clwb Cymdeithasol
© A Bereza
Roedd y clwb cymdeithasol yn chwarae rhan sylweddol yn y gymuned, fel canolbwynt i ddathliadau traddodiadol Pwylaidd, casgliadau a gweithgareddau teuluol. Roedd eu partïon yn enwog ymhlith y cymunedau Pwylaidd yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr a Gogledd Orllewin Lloegr. Deuai pobl Bwylaidd o bell ac agos, yn enwedig ar gyfer Sylwester – yr enw Pwylaidd am Nos Galan – a ddathlwyd trwy gynnal dawns fawreddog.

Roedd dathliadau Crefyddol hefyd yn anhepgorol i’r gymuned. C âi capel y gwersyll ei addurno â gwaith celf wedi ei greu gan y cleifion a’r preswylwyr, ac fe fyddai’n cynnwys reredos – darlun pedair troedfedd o uchder oedd yn sefyll y tu ôl i’r allor.
Y Capel ym Mhenley
© A Bereza
Byddai offeiriad preswyl yn gwasanaethu’r gynulleidfa yn y blynyddoedd cynnar a byddai’r Esgob lleol yn ymuno yn y gwyliau Nadolig a Phasg.

Roedd y mewnfudwyr wedi trosglwyddo strwythur cymdeithasol a diwylliant o’r Wlad Pwyl a oedd yn bodoli cyn y rhyfel i mewn i’r gwersyll. Gwnaeth Andy’r sylw ei fod “yn dalp cofiadwy o Wlad Pwyl cyn y rhyfel wedi ei stwffio i mewn i Ogledd Cymru”.


Tudalennau: Blaenorol [ 1, 2, 3, 4 ] Nesaf


Eich sylwadau




Argraffu tudalen
English
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.

Read more >
Internet Links
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol.
Stoke and Staffordshire
Francis Barber
Related Stories




About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy