| |
|
|
|
| | | |
Pwyliaid Penley |
|
Yr ysbyty
© A Bezera | O’r tu allan roedd y barics yn yr ysbyty yn edrych yn sylfaenol, ond y tu fewn roedden nhw wedi eu haddurno â chelfyddyd werin draddodiadol a delweddau o ffigurau diwylliannol a hanesyddol Pwylaidd. Byddai’r cleifion yn paentio lluniau ac yn creu symbolau o dreftadaeth Pwylaidd. Roedd cleifion iau ym Mhenley yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau chwaraeon. Byddai timau yn cael eu hanfon yn aml i gystadlaethau cenedlaethol yn Stoke Mandeville.
Câi’r ysbyty ei chefnogi gan elusen Cymdeithas Cyfeillion
lleol, a gododd arian i’r ysbyty a chynllunio digwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer y cleifion a’r preswylwyr. Pan oedd Andy Bereza yn 13, rhoddodd Gymdeithas y Cyfeillion ddwy rîl o ffilm 8mm iddo er mwyn iddo wneud ffilm am fywyd yn y gwersyll. Gwnaeth nifer o ffilmiau 8mm byrion, ac mae’r rhain ganddo hyd heddiw – cliciwch yma i weld un a ffilmiwyd yn yr ŵyl haf ar dir yr ysbyty yn y 1960au cynnar.
© A Bereza | Ar ei brysuraf roedd yr
ysbyty’n gartref i fwy na 2000 o gleifion a staff. Dechreuodd y rhifau ostwng oherwydd y cynnydd anochel yn oed y cyn filwyr. Pan gaewyd yr ysbyty yn 2002 dim ond 6 o gleifion oedd yn yr ysbyty a oedd yn aros ar un ward allan o’r 30 gwreiddiol. Ond, fel y dywedodd Andy Scotson o Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Ddwyrain Cymru “Mae’r ysbyty yn dal yn weithredol, ac fe fydd yn parhau felly o dan dermau cytundeb a arwyddwyd gan Syr Winston Churchill ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Roedd y cytundeb hwn yn rhoi addewid i gynnal gwasanaethau i gyn-bersonél milwrol Pwylaidd am faint bynnag o amser y bydd eu hangen.”
Ar hyn o bryd mae cyfleuster newydd yn cael ei adeiladu a fydd yn cartrefu gweddill y cleifion a’r staff, sydd wedi eu symud i adeilad cyfagos hyd nes bydd yr adeilad newydd wedi ei gwblhau.
Roedd cau’r ysbyty ym Mis Mawrth, 2002, yn nodi diwedd cyfnod i’r gymuned Bwylaidd ym Mhenley. Ym Mis Medi 2002 cafodd ffilmiau Andy eu dangos ochr yn ochr â gwaith celfyddydol a chreiriau cofiadwy o Benley mewn arddangosfa yn Amgueddfa Wrecsam, a oedd yn dathlu hanes y gymuned yn yr ysbyty. Gallwch weld rhai o’r pethau gaiff eu harddangos drwy glicio yma.
Mae Andy Bereza wedi ymweld â Gwlad Pwyl droeon dros y
blynyddoedd, gan ddarganfod bod y bobl o’r un genhedlaeth ag ef yng Ngwlad Pwyl wedi cael magwraeth wahanol iawn. Mae’n credu bod y bobl a’u diwylliant wedi dioddef o dan bwysau rheolaeth Sofietaidd.
Darganfu Andy bod ei fagwraeth ef yn gyfoethog mewn
cymhariaeth, gan fod traddodiadau, arferion a chymdeithas
Bwylaidd yn cael eu hybu ym Mhenley, hyd yn oed os mai rhai’n dyddio o Wlad Pwyl cyn y rhyfel oedd y rhain. Mae ganddo atgofion annwyl iawn am gartref ei blentyndod ac mae’n teimlo, “mewn ffordd, nad oes gen i wreiddiau, gan eu bod wedi dymchwel Penley erbyn hyn, mae fy ngwlad wedi diflannu.”
Diolch i Andy Bereza, Jonathan Gammond – Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chymuned Bwylaidd Penley yn Wrecsam.
Eich sylwadau
| | Argraffu tudalen |
| | | |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
| | |
|
|
|
|
|
|
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| | |
| | |
| |
|