| |
|
|
|
| | | |
Ymsefydlwyr Fflandrysaidd yng Nghymru |
|
Milwyr
Ar y Fflandrysiaid: ‘Roedd trigolion y rhanbarth hon â’u gwreiddiau yn Fflandrys, ac fe’u hanfonwyd gan y Brenin Harri’r I i fyw yn yr ardaloedd hyn; yn bobl ddewr a chadarn, yn fwyfwy gelyniaethus tuag at y Cymry; pobl, ddywedwn i, oedd yn gyfarwydd â masnach a diwydiannau gwlân; pobl a oedd yn awyddus i ennill tir trwy fôr neu dros dir, er gwaethaf blinder a pherygl; yn hil eofn, yn gyfarwydd â defnyddio aradr neu gleddyf fel ei gilydd; pobl ddewr a hapus’. Geraldus Cambrensis, Itinerary Through Wales, 1188 |
| Cyrhaeddodd un o’r tonnau cyntaf o bobl Fflandrysaidd i gyrraedd Ynysoedd Prydain adeg y Goresgyniad Normanaidd yn 1066. Yn ystod y 11eg Ganrif, roedd Fflandrys yn cael ei gorboblogi’n ddifrifol a gorfodwyd y bobl Fflandrysaidd, yn yr ardal a gaiff ei hadnabod nawr fel Gwlad Belg, i symud. Symudodd nifer i’r Almaen, tra ymunodd eraill â’r fyddin Normanaidd, gan ddatblygu’n elfen bwysig yn eu lluoedd. Gwobrwyodd y brenhinoedd Normanaidd y rhai fu’n ymladd â thir yn y gwledydd a goncrwyd, gan roi tir iddyn nhw fyw arno, ar yr amod eu bod yn ei amddiffyn ar ran y goresgynwyr Normanaidd.
Cyn y Goresgyniad Normanaidd, roedd llawer o ymladd mewnol yng Nghymru, ac nid oedd mewn unrhyw sefyllfa i amddiffyn ei hun gyda rheng unedig. Sefydlodd William I ei ieirll ar hyd ffin Cymru yng Nghaer, yr Amwythig a Henffordd, ac yn fuan iawn fe symudon nhw i mewn i Gymru. Aeth Iarll Amwythig â’i luoedd i’r de orllewin, trwy Bowys a Cheredigion i Ddyfed, lle y sefydlon nhw gastell ym Mhenfro.
Ceiswyr Lloches
Dioddefodd Fflandrys yn enbyd ar ôl nifer o stormydd ym 1106. Ysgrifennodd Samuel Lewis “Yn ystod storm erchyll ar arfordir Fflandrys, fe gariwyd nifer o’r twyni tywod a’r argloddiau i ffwrdd, a fe foddodd y môr ddarn anferth o’r wlad.”
Achosodd hyn i nifer fawr o Fflandrysiaid geisio lloches yn Lloegr, lle croesawyd hwy gan Harri I. Fe ymgartrefon nhw mewn nifer o drefedigaethau ar draws Lloegr, ond cyn hir ysgrifennodd Samuel Lewis “ fe ddaethon nhw’n atgas i’r boblogaeth brodorol ac fe symudodd Harri I y Fflandrysiaid i’r anheddau ffermio anghysbell yn y ‘cantref’, ardal o Rhôs, yn ne Sir Benfro.
Achosodd y sefydlu systemig hwn o ymsefydlwyr Fflandrysaidd gan Harri I, ac, yn fwy diweddar, Harri II, ganlyniadau sylweddol i bobl de Sir Benfro. Mae’r Athro Hanes, Harold Carter, yn edrych ar yr effeithiau, “Os edrychwch chi ar ‘Brut y Tywysogion’ – Cronicl y Tywysogion Cymreig – mae’n cofnodi ‘Pobl arbennig o darddiad ac arferion rhyfedd yn byw yn y cantref cyfan yn Rhôs ger aber afon Cleddau, gan yrru holl drigolion yr ardal i ffwrdd. Mewn ffordd gallech bron iawn â’i alw’n broses o lanhau ethnig.”
Eich sylwadau
| | Argraffu tudalen |
| | | |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
| | |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| | |
| | |
| |
|