| |
|
|
|
| | | |
Ymsefydlwyr Fflandrysaidd yng Nghymru |
|
Amddiffynfeydd
© 大象传媒 | Adeiladwyd llinell o dros 50 o gestyll a chadarnleoedd gan y Normaniaid a’r Fflandrysiaid i amddiffyn de Sir Benfro oddi wrth y Cymry brodorol, a oedd wedi eu gorfodi i symud i’r wlad fynyddig i ogledd y sir. Roedd y ffin o gestyll, a adwaenid fel y llinell Landsger – o’r gair Llychlynnaidd am raniad – yn ymestyn o Niwgwl ar yr arfordir gorllewinol i Amroth ar yr arfordir de ddwyreiniol.
Roedd dwy ran o dair o’r cadarnleoedd wedi eu hadeiladu o bridd, gyda chestyll cerrig ar, neu yn agos i, ddyfroedd mordwyol. Cafodd y castell yn Hwlffordd ei adeiladu gan yr arweinydd Fflandrysaidd, Tancred, yn fuan ar ôl i’r Fflandrysiaid gyrraedd yn 1108. O dan ei amddiffyniad datblygodd treflan, a gosodwyd y sylfeini ar gyfer tref farchnad fodern a chanolfan fasnachol. Cafodd y pentref Cas-wis, bum milltir i’r gogledd-ddwyrain o Hwlffordd, ei enwi ar ôl Fflandryswr arall, Yr Arglwydd Wizo, a sefydlodd gastell yno, tra roedd Treletert yn gartref i’r gŵr â’r ffugenw addas Letard Litelking (‘y Brenin Bach’).
Tyfodd Dinbych-y-pysgod, ar arfordir de ddwyrain Sir Benfro, yn ystod y 12ed Ganrif, pan godwyd waliau o gwmpas y dref, castell ac eglwys er hwylustod i’r trefedigion Fflandrysaidd. Roedd y Fflandrysiaid yn arbenigwyr yn y fasnach wlân, ac yn fuan iawn fe ffynnon nhw yn yr ardal.
Ymsefydlodd y Fflandrysiaid ar y tir ffermio mwyaf cynhyrchiol yn Sir Benfro, i’r de o’r llinell Lansger, ar y gwastadeddau isaf. Yma roedd y tir yn ffrwythlon, yn cael ei gynhesu gan Lif y Gwlff, yn mwynhau hafau bach Mihangel, gaeafau claear a gwanwynau cynnar. Roedd cnydau’n barod bythefnos cyn y rhai yng Ngogledd y sir, lle’r oedd y tirwedd yn fwy mynyddig. Cymdeithas Pentref St Florence Rhoddodd y Fflandrysiaid eu henw i nodwedd bensaernïol lleol – y simnai Fflandrysaidd, y ceir enghreifftiau ohoni yn, ac o gwmpas, Sir Benfro. Fel arfer câi’r simneiau hyn eu gwneud o garreg galch lleol a’i hadeiladu i mewn i wal flaen y bwthyn wrth ymyl y drws. Maen nhw’n dal ac yn gonig gyda chorn mawr crwn – weithiau’n ddigon mawr i ddal cadair a bwrdd. Safai nifer o simneiau am amser maith ar ôl i’r adeilad gwreiddiol gael ei ddymchwel. Roedd y simnai yn St Florence unwaith yn rhan o fwthyn bychan a gellir gweld llinell tâl maen yr adeilad gwreiddiol uwchben y lle tân hyd heddiw. Er bod y simneiau hyn yn cael yr enw o fod yn Fflandrysaidd, does dim prawf mai nhw a’u hadeiladodd, ac nid cheir yr un enghraifft el yn yr Iseldir, er gwaetha’r nifer o enghreifftiau a geir yn Nyfnaint a Chernyw, felly mae eu gwreiddiau’n parhau’n ddirgelwch. |
|
Eich sylwadau
| | Argraffu tudalen |
| | | |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
| | |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| | |
| | |
| |
|