| |
|
|
|
| | | |
Ymsefydlwyr Fflandrysaidd yng Nghymru |
|
© 大象传媒 | P’run ai George Owen a fathodd y term neu ei fod yn ailadrodd term cyffredin, daeth “Little England beyond Wales” i gael ei ddefnyddio i nodi’r tir i’r de o’r Linell Landsger.
Mae’r rhaniad mewn iaith ac arferion yn Sir Benfro a ddynodwyd gan y Linell Landsger nodi yn parhau hyd heddiw. Yn flaenorol, ni châi priodasau rhwng y ddau ddiwylliant eu cefnogi, gan mai nid yr iaith oedd yr unig wahaniaeth. Nododd Roy Lewis, awdur o’r ardal, y gwahaniaethau crefyddol, ‘Yn gynnar iawn yn fy mywyd doedd dim cymysgu rhwng pobl y gogledd a’r de. Roedd hyn yn bennaf oherwydd crefydd, gan fod y rhai o’r gogledd yn anghydffurfwyr a’r rhai o’r de yn bennaf Gatholig ac Anglicanaidd. Doeddech chi ddim yn ymwneud â’r ‘down below’.’
Mae De Sir Benfro wedi dod yn le poblogaidd i adleoli iddo, o rannau eraill o’r DU. Mae’r don newydd hon o bobl wedi meddalu’r gwahaniaeth diwylliannol. ‘Dydyn nhw ddim yn ymwybodol o’r carfanau’, dywed Roy, ac felly does ganddyn nhw ddim teyrngarwch i’r naill ochr i’r llinell na’r llall, sy’n parhau’n ffin na ellir ei ddiffinio rhwng y ddau ddiwylliant sydd mor wahanol ond eto’n gyflenwol.
Eich sylwadau
| | Argraffu tudalen |
| | | |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
| | |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| | |
| | |
| |
|