| |
|
|
|
| | | |
Ymsefydlwyr Fflandrysaidd yng Nghymru |
|
Y llinell Landsger
© 大象传媒 | Cyn y Goresgyniad Normanaidd, fe fyddai’r rhan fwyaf o’r hyn sydd nawr yn Sir Benfro yn Gymraeg ei iaith. Daeth y llinell Landsger yn ffin gelfyddydol a ieithyddol a rannodd Sir Benfro’n ddwy.
Roedd y mewnlifiad Fflandrysiaid i dde Sir Benfro mor anferth nes i’r iaith Gymraeg gael ei disodli ac ymhen amser gwnaeth Fflemineg le i’r Saesneg fel y brif iaith. Er hynny, roedd yn dafodiaith a siaradwyd gydag acen gref a neilltuol gyda geirfa helaeth o eiriau nas cafwyd yn gyffredin yn unlle arall.
Acen De Sir Benfro Nodwyd nodweddion arbennig y Saesneg a siaradwyd yn ne Sir Benfro gan George Owen ym 1603
“... Mae’r rhan helaethaf o’r wlad yn siarad Saesneg heb ddefnyddio’r Gymraeg o gwbl. Saesneg yw enwau pobl gyda phob teulu’n dilyn y tueddiad Saesnig gyda’u cyfenwau. Mae eu hadeiladau’n Saesnig mewn trefi a phentrefi ac nid nifer o dai ar eu pen eu hunain. Mae eu deiet fel un y Saeson a’r bwyd cyffredin yw cig eidion...Gallai’r rhesymau hyn ynghŷd â’r ffaith bod y rhan fwyaf o’r hen wŷr bonheddig wedi dod yma o Loegr...yn hawdd iawn fod wedi sicrhau’r enw ‘Little England beyond Wales’ i’r ardal.
|
| Ym 1930, ysgrifennodd P.V.Harris “mewn sawl ffordd tafodiaith De Sir Benfro yw’r hynotaf ym Mhrydain, ac, oherwydd pellter y wlad o bobman arall, efallai hon gafodd ei llygru leiaf yn ystod y blynyddoedd diweddaraf. Mae nifer o’r geiriau yn dyddio o’r adeg cyn Chaucer ac maen nhw wedi peidio â chael eu defnyddio ymhobman arall ac mae nifer o’r geiriau mwyaf cyffredin yn cael eu hynganu yn y dull cynnar.” Rhai enghreifftiau o’r geiriau tafodieithol a gofnodwyd gan Harris ym 1930 yw: ‘Budger’ – Cigydd, ‘Catamouse’ – ystlum , ‘Catchypawl’ – penbwl, ‘Frost Candles’ – clychau rhew, ‘Sea-parrot’ – pâl.
Eich sylwadau
| | Argraffu tudalen |
| | | |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
| | |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| | |
| | |
| |
|