Delyth McLean
Llais swynol, elfennaidd Delyth McLean yw un o'r lleisiau diweddar mwyaf gwefreiddiol a thrawiadol ar y sîn cerddoriaeth yng Nghymru. .
Teitl ffaith | Data ffaith |
---|---|
Aelodau: |
Delyth McLean
|
Sain a Fideo
Oriel Lluniau
Artist dwyieithog o Ferthyr Tudful yw Delyth, tref sy'n gartref i genhedlaeth newydd sbon o artistiaid cyffrous o Gymru: Kizzy Crawford (Gorwelion 2014), Catherine Anne Davies (The Anchoress) a Pretty Vicious, i enwi dim ond rhai.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Delyth wedi bod yn gweithio gyda chynllun datblygu'r Rhwydwaith Hyrwyddwyr Ifanc, sefydliad sy'n gwneud gwaith gwych yn meithrin talent ifanc o Gymoedd De Cymru. Gyda chymorth y sefydliad hwn, llwyddodd i ryddhau sengl dwbl ochr-A – 'Lost In Sound' / 'Tad a Mab' – a gafodd ei chwarae'n aml ar yr awyr ar Radio Wales, Radio Cymru, Amazing Radio, Nation Radio, Radio Cardiff a GTFM.
Yn ddiweddar mae Delyth wedi bod yn chwarae gyda band llawn i gyfoethogi ei pherfformiadau unigol ardderchog a llwyddiannus.
Mae Delyth wedi cefnogi artistiaid tebyg i Gruff Rhys, The People The Poet (Gorwelion 2014), Cowbois Rhos Botwnnog a Kizzy Crawford.