Peasants King
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Cymoedd y Rhondda wedi dod yr un mor enwog am gerddoriaeth roc felodaidd ag y mae Chicago'n enwog am y blŵs.
Teitl ffaith | Data ffaith |
---|---|
Aelodau: |
Daniel Evans (llais), Harry Lee (Drymiau), Rhodri Parry (Gitâr), Josh Bowles (Gitâr), Lewys Mann (Bas)
|
Sain a Fideo
Oriel Lluniau
Mae Peasant's King, band 5 person o Bontypridd, yn rhannu ei wreiddiau roc â bandiau fel Funeral For A Friend, Kids In Glasshouses a The Blackout, ond gydag ysbryd teimladwy a chyffyrddiadau gitarau soniarus.
Mae'n fersiwn cyn-eironig, llai ymffrostgar na U2 drwy 'fuzzbox'; The Killers pe bai Brandon Flowers wedi'i fagu ym Mhonty; War on Drugs, ar gwrw Brains.
Yn anad dim, mae'r band yn driw iddo ef ei hun, fel y gwelir yn amlwg ar ei ddau EP hyd yn hyn – 'Kingdom' a 'Four Walls Are Home'. Cafodd 'Antidotes' o 'Four Walls At Home' ei chwarae fel un o ganeuon ´óÏó´«Ã½ Introducing Radio 1, ac fe'i chwaraewyd gan Fearne Cotton, Zane Lowe, Huw Stephens, Greg James a Scott Mills. Perfformiodd y band ar lwyfan ´óÏó´«Ã½ Introducing Stage yng Ngŵyl Reading yn 2013 ac mae wedi cefnogi bandiau fel Catfish and the Bottlemen, Gabrielle Aplin a Twin Atlantic.
Drwy gydol mis Ebrill 2015, bydd y band yn cychwyn ar ei daith gyntaf o amgylch y DU gan gefnogi'r Young Kato medrus iawn.
Ond bu bron i'r canwr, Dan Lafrombé Evans, ddilyn trywydd tra gwahanol. Hyd nes iddo gael ei anafu'n wael yn 16 oed, roedd gyrfa ym myd chwaraeon yn anochel iddo ac yntau'n feistr ar y rygbi, pêl-fasged, nofio, pêl-droed a'r crefftau ymladd.
Colled fawr i'r byd chwaraeon.