Y REU
Mae'r byd yn llawn bandiau clasurol sydd 芒 dylanwadau clasurol, y mae modd rhagweld eu casgliad o recordiau yn gywir ar 么l clywed 10 eiliad o un g芒n.
Teitl ffaith | Data ffaith |
---|---|
Aelodau: |
Iwan Fon, Mathonwy Llwyd, Cai Gruffydd, Lloyd Steele, Iwan Llyr
|
Sain a Fideo
Y Reu - Horizons 12 Introduction
A quick introduction to the Caernarfon 5-piece at the start of their Horizons' year.
Oriel Lluniau
Nid yw hyn yn wir am Y Reu. Ar yr olwg gyntaf, mae'r band yn swnio fel Jim Morrison anweddus yn canu gyda Royal Blood drwy gyfrwng y Gymraeg (Darnau Bach), ac yna mae'n cyfuno cerddoriaeth House gydag atseiniau Happy Mondays...band oedd wedi gweld gwell dyddiau ymhell cyn i unrhyw aelod o Y Reu gael ei eni (Haf).
Braf yw cael eich rhyfeddu gan griw o bobl ifanc yn rhoi eu stamp eu hunain ar gerddoriaeth roc a rôl y gorffennol, ac mae Y Reu yn dipyn o ryfeddod.
Band pum person o Ddyffryn Nantlle / Caernarfon yw Y Reu ac mae ei setiau byw nwydwyllt eisoes wedi arwain at ddawnsio gorffwyll o Faes B yr Eisteddfod i Glwb Ifor Bach.
Rhyddhawyd sengl gyntaf y band y llynedd gan Recordiau I Ka Ching a hynny i ganmoliaeth frwd ac fe'i chwaraewyd ar y radio'n genedlaethol.
Mae'r ail sengl ar fin cael ei recordio yn ystod Gwanwyn 2015 a'i rhyddhau "cyn yr Haf".
Gwisgwch eich welis dawnsio. Bydd synau amryfal Y Reu yn bywiogi gwyliau cerddoriaeth eleni.