Main content

Elaine Morgan

Awdures teledu arloesol, eicon ffeministaidd, damcaniaethwraig esblygiadol

Fact title Fact data
Ganwyd
Trehopcyn, 1920
Marwolaeth
Aberpennar, 2013

Roedd Elaine Morgan yn fenyw â llawer o ddoniau a newidiodd y byd o'i desg yn Aberpennar.

Roeddwn i'n meddwl eu bod yn rhoi gogwydd gwrywaidd gormodol ar esblygiad. Roedden nhw鈥檔 ei gymryd yn ganiataol bod esblygiad yn cynnwys gwneud pethau'n well i鈥檙 heliwr gwrywaidd cryf...a meddyliais, beth amdani hi? A beth am y plant? Roeddwn am ysgrifennu llyfr o鈥檜 safbwynt nhw. Beth am esblygiad menywod?

Roedd yn rhagori yn y celfyddydau ac mewn gwyddoniaeth, a daeth yn awdures deledu flaenllaw, yn eicon ffeministaidd ac yn ddamcaniaethwraig arloesol ym maes esblygiad.

Cafodd ei geni i deulu tlawd o lowyr, ac enillodd ysgoloriaeth i Brifysgol Rhydychen. Pan gyrhaeddodd, clywsant ei hacen a thybio ei bod hi'n gwneud cais am swydd fel glanhawr. Ond daeth Elaine i fod yn fyfyrwraig nodedig, yn cadeirio cymdeithasau gwleidyddol ac yn hogi ei sgiliau llenyddol.

Ar ôl graddio dysgodd am dair blynedd gyda Chymdeithas Addysg y Gweithwyr. Yn briod â thri mab erbyn y 1950au, dechreuodd ysgrifennu dramâu i’w helpu i gael dau ben llinyn ynghyd. Derbyniwyd ei sgriptiau teledu cyntaf cyn iddi fod yn berchen ar set deledu hyd yn oed.

Mewn gyrfa oedd yn cwmpasu mwy na 30 mlynedd, enillodd nifer o wobrau a sgriptiodd rai o’r dramâu mwyaf annwyl yn hanes y teledu - gan gynnwys How Green Was My Valley, Testament of Youth a The Life and Times of Lloyd George.

Esboniodd Sian Phillips, wnaeth serennu yn How Green was my Valley, ei dawn i ysgrifennu ar gyfer y sgrin: “Roedd adeg pan oedd yr awdur yn frenin ac roedd hi’n un o’r sêr. Os oeddech chi’n gweld yr enw hwnnw ar eich sgript yna roeddech chi wir eisiau ei wneud.”

Ychwanegodd: "Roedd hi'n gallu creu plotiau gwych. Roedd hi’n storïwr da iawn i ddechrau arni felly nid oedd angen gwneud unrhyw fân newidiadau. Dim gair."

Elaine Morgan

Awdures Deledu Flaenllaw, Eicon Ffeministaidd, Damcaniaethwraig Ym Maes Esblygiad.

Gwyliwch y ddau fideo Elaine Morgan a Cydraddoldeb er mwyn dysgu am empathi a chydymdeimlad â digwyddiadau a phobl yn y gorffennol gyda’r .

Cydraddoldeb

Mae cydraddoldeb ymysg dynion a menywod wedi datblygu dros y canrifoedd.

Fe wnaeth sgript Elaine ar gyfer rhaglen ddogfen Horizon am Joey Deacon, y codwr arian anabl, ennill y Prix Italia iddi yn 1975 ac fe wnaeth ei chyfresoliad o gofiant Vera Brittain o’r rhyfel, Testament of Youth, ennill gwobr awdur y flwyddyn y Gymdeithas Deledu Frenhinol iddi yn 1979.

Yn y 1970au, trodd Elaine ei ffocws at wyddoniaeth, gan herio nerth y sefydliadau gwrywaidd eu byd gyda theori newydd ynghylch esblygiad dynol.

Yn ei llyfr The Descent of Woman, roedd hi'n dadlau nad oedd esblygiad dynol yn ymwneud â'r heliwr gwrywaidd pwerus yn unig - roedd merched yn rhan lawn mor hanfodol o'r stori.

Roedd The Descent of Woman yn llwyddiant byd-eang ar unwaith. Yn cael ei hystyried yn America fel arwres ffeministaidd, daeth llyfr Elaine yn destun allweddol ym mudiad Rhyddhad y Merched. Yn yr Unol Daleithiau datblygodd yn rhywun enwog wrth iddi gael ei gwahodd i hyrwyddo ei llyfr ar y teledu mewn taith arfordir i arfordir.

Aeth ymlaen i gyhoeddi llawer mwy o lyfrau ar esblygiad - gan gynnwys The Aquatic Ape (1982), a wnaeth unwaith eto ddal sylw; The Scars of Evolution (1990); The Descent of the Child (1994); The Aquatic Ape Hypothesis (1997) a The Naked Darwinist (2008).

Yn cael ei hyrwyddo gan Syr David Attenborough, roedd hi’n dal i gael ei gwahodd i drafod ei syniadau ledled y byd ymhell i’w henaint. Gwyliodd fwy na miliwn o bobl y ddarlith ar y rhyngrwyd a roddwyd gan Elaine pan oedd yn 89 oed. Yn nes adref, roedd hi’n dal i ysgrifennu ei cholofn glodfawr i’r Western Mail yn ei 90au.

Penodwyd hi’n OBE yn 2009 ac fe’i hetholwyd yn Gymrawd y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol yn yr un flwyddyn.

Roedd hi’n ferch o’r Cymoedd hyd y diwedd, cafodd effaith drwy’r byd i gyd ond ni throdd ei chefn ar ei gwreiddiau Cymreig.