Arglwyddes Rhondda (Margaret Haig Thomas)
Swffrag茅t, gwraig fusnes byd-eang, golygydd ac ymgyrchydd gydol oes ar gyfer cydraddoldeb
Fact title | Fact data |
---|---|
Magwyd |
Llanwern, 1883
|
Marwolaeth |
Llundain, claddwyd yn Llanwern 1958
|
Roedd Argwlyddes Rhondda yn fenyw freintiedig ond defnyddiodd y fraint honno yn y ffordd orau bosibl - i ymladd dros hawliau BOB menyw.
Y mudiad swffrag茅t oedd daioni bywyd...chwa o awyr iawn i鈥檔 bywydau clustogog, herciog. Roedd yn rhoi gobaith i ni am ryddid a ph诺er a chyfle.
Fe wnaeth hi bethau na fyddai ond ychydig o fenywod eraill o’i chefndir wedi meiddio eu gwneud.
Wedi’i geni gyda’r enw Margaret Haig-Thomas, roedd hi’n swffragét a wnaeth y frwydr am y bleidlais yn newyddion tudalen flaen. Fe ddaeth ag Emmeline Pankhurst i Gymru ac arwain ymgyrch y bleidlais ymhlith merched Casnewydd.
Wynebodd y Prif Weinidog Asquith, oedd yn gwrthwynebu rhoi’r bleidlais i ferched, drwy neidio ar ei gar. Cyneuodd dân mewn blwch post a chafodd ei hanfon i'r carchar, lle aeth hi ar streic newyn.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf fe wnaeth hi sicrhau fod merched yn chwarae rhan hollbwysig, gan eu recriwtio i’r gwasanaethau merched. Daeth yn Gomisiynydd Cymru yn Adran Gwasanaeth Cenedlaethol y Merched, yna’n Brif Reolwr recriwtio merched yng Ngweinyddiaeth y Gwasanaeth Cenedlaethol yn Llundain.
Wrth groesi’r Iwerydd, fe wnaeth hi oroesi pan suddodd y Lusitania â thorpido yn ystod y rhyfel, gan hawlio mwy na 1,100 o fywydau. Gan frwydro i oroesi am awr yn y d诺r rhewllyd, roedd y trawma yn foment dyngedfennol i Arglwyddes Rhondda:
"Beth a wnaeth oedd newid fy marn amdanaf fi fy hun. Nid oedd gen i lawer o hunan-hyder...ac yma roeddwn wedi dod drwy’r prawf hwn heb godi cywilydd arnaf fi fy hun. Sylweddolais y gallwn reoli fy ofn pan ddaeth hi’n bryd gwneud hynny.”
Arglwyddes Rhondda
Swffraget, Gwraig Fusnes Byd-Eang, Golygydd ac Ymgyrchydd Dros Gydraddoldeb.
Gwyliwch y ddau fideo Arglwyddes Rhondda (Margaret Haig Thomas) a Swyddi yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf er mwyn dysgu am gyfraniad merched yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gyda’r .
Swyddi yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf
Pan aeth dynion i frwydro yn y Rhyfel, daeth menywod yn allweddol i weithlu Prydain.
Ar ôl y rhyfel yn ogystal ag ymgyrchu dros hawliau menywod oedd yn gweithio nad oedd am gael eu gwthio yn ôl i’r cartref, fe wnaeth hi hefyd barhau â’r frwydr ar gyfer cam olaf y bleidlais i ferched a arweiniodd at yr HOLL ferched yn cael pleidlais yn 1928
Hi oedd menyw fusnes fyd-eang fwyaf ei hoes - roedd hi'n eistedd ar fwrdd tri deg tri o gwmnïau, yn goruchwylio ymerodraeth ddiwydiannol o fwyngloddiau, cwmnïau llongau a phapurau newydd a hi oedd y fenyw gyntaf a, hyd yn hyn, yr unig fenyw i fod yn Llywydd Sefydliad y Cyfarwyddwyr.
Fel newyddiadurwraig, creodd bapur wythnosol arloesol a dylanwadol iawn o'r enw Time and Tide, a oedd yn cynnwys rhai o gewri llenyddol yr ugeinfed ganrif - o George Orwell a Virginia Woolf i JRR Tolkien.
Roedd ganddo fwrdd arloesol o ferched yn unig ond roedd yn apelio at ferched a dynion. Gan archwilio gwleidyddiaeth Cymru, Prydain a gwleidyddiaeth rhyngwladol yn ogystal â’r celfyddydau, roedd Time and Tide yn un o’r cyfnodolion allweddol o’r cyfnod rhwng y rhyfeloedd. Hefyd, defnyddiodd Arglwyddes Rhondda y papur i wthio ei rhaglen flaengar o’r enw The Six Point Group. Roedd yn gwneud cydraddoldeb rhwng y rhywiau o'r pwys mwyaf.
Roedd Arglwyddes Rhondda yn dadlau bod rhaid i ddeddfwriaeth gymdeithasol ac economaidd gyd-fynd â hawliau pleidleisio i fenywod. Roedd ei rhaglen yn ceisio deddfwriaeth i famau a fyddai’n amddiffyn plant yn well. Roedd o flaen ei oes wrth fynnu cyfreithiau llym ar ymosodiadau ar blant ac roedd yn ceisio amddiffyn mamau gweddw â phlant ifanc a’r fam ddi-briod a phlant.
Roedd y tri phwynt arall yn ymdrin â hawliau cyfartal i ddynion a merched, yn mynnu gwarchodaeth gyfartal plant ar gyfer rhieni priod, cydraddoldeb cyfle yn y gwasanaeth sifil a chyflog cyfartal i athrawon.
Ac Arglwyddes Rhondda yw'r rheswm y gall merched eistedd yn Nh欧'r Arglwyddi heddiw. Ymladdodd am ddeugain mlynedd i gael arglwyddi benywaidd - ond yn anffodus bu farw ar ôl i’r ddeddf yr ymladdodd drosti gael ei newid, yn rhy hwyr i dderbyn ei sedd ei hun.
Byddai unrhyw un o'r cyflawniadau unigol hyn wedi sicrhau ei lle mewn hanes - rhowch nhw i gyd at ei gilydd ac mae Arglwyddes Rhondda yn parhau i fod yn un o'r ffigurau mwyaf nodedig y mae Cymru wedi eu hadnabod erioed.