Main content

Elizabeth Andrews

Hyrwyddwr Hawliau Merched a Phlant

Fact title Fact data
Ganwyd
Hirwaun, 1882
Marwolaeth
Ton Pentre, 1960

Roedd Elizabeth Andrews yn un o weithredwyr gwleidyddol benywaidd mwyaf dylanwadol Cymru yn nechrau'r 20fed ganrif. Roedd hi'n gydwladolwraig, yn etholfreinwraig ac yn sosialwraig.

Dywedwyd wrthym pan oeddem yn ymgyrchu am y Bleidlais - yn aml yn nawddoglyd iawn gan ddynion - mai lle鈥檙 merched oedd datblygu鈥檙 plentyn ar gyfer y byd. Ein hateb oedd, os mai ein lle ni oedd datblygu鈥檙 plentyn ar gyfer y byd, ein lle ni hefyd oedd datblygu鈥檙 byd i鈥檙 plentyn. A cyn y gallem wneud y naill neu鈥檙 llall, mae鈥檔 rhaid i ni ymddiddori mewn gwleidyddiaeth.

Yn un o 11 o blant a anwyd i deulu glofaol tlawd, breuddwydiodd Elizabeth am fod yn athrawes ond fe’i gorfodwyd i adael yr ysgol yn 13 mlwydd oed er mwyn helpu ei rhieni i gael deupen llinyn ynghyd.

Llwyddodd yr wniadwraig hon, a oedd yn siarad Cymraeg, i ddod ag anghenion menywod dosbarth gweithiol i'r arena wleidyddol. Gwnaeth hynny am ei bod hi’n rhannu’r un math o fywyd â nhw ac yn mynegi eu gobeithion a'u hofnau.

Symud i'r Rhondda yn chwe ar hugain oed oedd y catalydd i ddeffroad gwleidyddol Elizabeth, a gwelodd y problemau cymdeithasol yn wynebu ei chymuned.

Fel Trefnydd Benywaidd gyntaf Plaid Lafur Cymru, sefydlodd adrannau a chynghorau cynghorol i fenywod, gan eu disgrifio fel "prifysgolion i fenywod sy'n gweithio." Hi hefyd oedd un o ynadon benywaidd cyntaf Prydain.

Rhoddodd anghenion menywod a phlant wrth wraidd ei hymgyrchoedd. Wrth roi tystiolaeth yn Nh欧'r Arglwyddi i Gomisiwn Brenhinol ar y diwydiant glo ym 1919, siaradodd yn rymus am effaith y pyllau ar fywyd teuluol.

Fel gwraig i löwr, roedd hi'n gwybod mor beryglus oedd y diwydiant i’r dynion, ond pwysleisiodd fod bywydau menywod mewn perygl hefyd wrth iddynt ymdopi â thai gorlawn, iechyd gwael a'r cyfraddau marwolaeth uchel ymhlith eu plant.

Daeth yn ffigwr blaenllaw yn yr ymgyrch ar gyfer baddonau pen pwll, gan ddadlau y gallent helpu i drawsnewid bywydau merched drwy gael gwared ar y baw di-baid fyddai’r glowyr yn dod gyda nhw a’r perygl sylweddol o lusgo baddonau tun trwm o dd诺r berwedig o’r cartref.

Cafodd straen codi pwysau mor drwm effaith ddifrifol ar iechyd merched - yn enwedig yn ystod eu beichiogrwydd aml - tra bod nifer o blant yn cael eu sgaldio gan y d诺r berwedig. Roedd sychu dillad mewn ceginau cyfyng hefyd yn chwarae hafoc gydag iechyd plant hefyd.

Elizabeth Andrews

Hyrwyddwr Hawliau Merched a Phlant

Gwyliwch y ddau fideo Elizabeth Andrews a Gwleidyddiaeth a Ffeminisiaeth er mwyn dysgu am gydraddoldeb a sut mae digwyddiadau yn y gorffennol wedi dylanwadu ar hawliau merched yng Nghymru heddiw gyda’r .

Gwleidyddiaeth a Ffeminisiaeth

Brwydrodd menywod am ddegawdau am yr hawl i gyfrannu at wleidyddiaeth ym Mhrydain.

Siaradodd Elizabeth ochr yn ochr â gwragedd dau o lowyr o Loegr yn Nh欧'r Arglwyddi. Fe wnaeth gweld merched dosbarth gweithiol yn yr amgylchoedd dethol hyn ddal sylw’r cyfryngau, fel y bu iddi gofio yn ei hunangofiant A Women’s Work is Never Done:

“Ar ôl i ni gyrraedd Llundain roeddem dan warchae’r Wasg yn y gwesty ac yn ystod y cyfnod yr oeddem yn rhoi tystiolaeth roedd pobl yn tynnu ein lluniau ac yn rhoi disgrifiad o’n ffrogiau. Roedd llawer o'r sylwadau personol yn ddoniol iawn i ni. Roedden nhw’n disgwyl i ni fod mewn parchedig ofn yn Ystafell Robing y Brenin yn Nh欧’r Arglwyddi lle cynhaliwyd y Comisiwn. Fe wnaethon nhw hefyd fynegi eu syndod mewn perthynas â’n pwyll wrth roi tystiolaeth. Ond pam oedden nhw’n meddwl y bydden ni ag ofn? Roedd gennym rywbeth pwysig a difrifol iawn i ddweud wrthyn nhw am ferched yn dioddef ac yn marw a sut y byddai baddonau yn lleihau’r gwaith llafurus roedden nhw’n ei wneud.”

Pwysig iawn yn wir. A chafodd ymgyrch Elizabeth effaith. Gwnaed baddonau pen pwll yn orfodol yn 1924.

Roedd hi wrth wraidd yr ymdrechion cynorthwyo pan gafodd y glowyr eu cloi allan yn dilyn y Streic Gyffredinol ym 1926 ac ym mlynyddoedd newynog y Dirwasgiad yn y tridegau.

Ac yn yr amseroedd hynny cyn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, trodd Elizabeth ei sylw hefyd at wella gofal mamolaeth a gofal plant, gan sefydlu gwasanaeth clinigau, bydwragedd, ymwelwyr iechyd ac un o ysgolion meithrin cyntaf erioed yng Nghymru.

Cafodd straen codi pwysau mor drwm effaith ddifrifol ar iechyd merched - yn enwedig yn ystod eu beichiogrwydd aml - tra bod nifer o blant yn cael eu sgaldio gan y d诺r berwedig. Roedd sychu dillad mewn ceginau cyfyng hefyd yn chwarae hafoc gydag iechyd plant hefyd.

Ei harwyddair oedd "Addysgu, Cynhyrfu, Trefnu". Ac i'r cenedlaethau o fenywod y bu’n eu helpu a’u hysbrydoli, roedd hi’n adnabyddus yn syml iawn fel Ein Elizabeth.