Main content

Betty Campbell

Prifathrawes ddu cyntaf Cymru a hyrwyddwr amlddiwylliant

Fact title Fact data
Ganwyd
Tre-biwt, Caerdydd 1934
Marwolaeth
Tre-biwt, Caerdydd 2017

Dywedwyd wrth Betty Campbell na allai merch ddu o’r dosbarth gweithiol byth lwyddo ond profodd bod yr amheuwyr hyn yn anghywir. Daeth yn brifathrawes ddu gyntaf Cymru a bu'n hyrwyddo treftadaeth amlddiwylliannol ei chenedl trwy gydol ei oes. Nid yw'n rhyfedd bod Nelson Mandela wedi gofyn am gwrdd â hi ar ei unig ymweliad â Chymru.

Yn ein ffordd unigryw ein hunain rydym yn sefydlu ardal lle nad yw crefydd, na lliw o bwys - roeddem i gyd yn parchu ein gilydd fel pobl.

Ganed Betty yn Butetown, a chafodd ei magu yn nhlodi Tiger Bay. Cafodd ei mam drafferth cael dau ben llinyn ynghyd ar ôl marwolaeth ei thad yn yr Ail Ryfel Byd. Ond enillodd Betty ysgoloriaeth i ysgol yng Nghaerdydd lle'r oedd ei chyd-ddisgyblion bron i gyd yn ferched gwyn, dosbarth canol.

Roedd Betty yn hoff iawn o ddihangdod darllen – yn enwedig hanesion ysgolion preswyl merched Enid Blyton. Fe wnaeth ennill ysgoloriaeth i Ysgol Uwchradd Lady Margaret i Ferched yng Nghaerdydd ddod â’i breuddwydion o amgylchedd academaidd delfrydol o fewn cyrraedd. Yma, roedd hi'n eu hastudio ochr yn ochr â merched gwyn, dosbarth canol yn bennaf. Ond pan fynegodd Betty yr un uchelgais â’i chyd-ddisgyblion, cafodd ei llethu.

Roedd hi bob amser yn agos at frig y dosbarth ond pan ddywedodd Betty wrth ei phrifathrawes yr hoffai hi addysgu hefyd, yr ymateb a gafodd oedd: "O fy merch annwyl, byddai'r problemau’n anorchfygol." Gwnaeth y geiriau hynny iddi lefain, ond fe wnaethant hi hyd yn oed yn fwy penderfynol o ddilyn ei breuddwyd.

"Es yn ôl at fy nesg a chrio," cofiodd Campbell unwaith. "Dyna oedd y tro cyntaf erioed i mi grio yn yr ysgol. Ond fe wnaeth fi yn fwy penderfynol; roeddwn am fod yn athro rywsut neu’i gilydd.”

Betty Campbell

Prifathrawes Du Cyntaf Cymru A Hyrwyddwr Amlddiwylliant.

Gwyliwch y ddau fideo Betty Campbell a Y Chwyldro Diwydiannol ac Amlddiwylliant er mwyn dysgu am ddigwyddiadau hanesyddol sydd wedi cael effaith ar ffordd o fyw yng Nghymru heddiw gyda’r .

Y Chwyldro Diwydiannol ac Amlddiwylliant

Arweiniodd y Chwyldro Diwydiannol at gymuned amlhiliol ger dociau Caerdydd.

Goresgynnodd Betty anfanteision a hiliaeth er mwyn cyrraedd ei nod. Ym 1960 roedd hi'n un o chwe myfyrwraig yng Ngholeg Hyfforddi Athrawon Caerdydd a oedd yn derbyn menywod am y tro cyntaf.

Pan ddaeth swydd ddysgu ar gael yn Butetown, roedd Betty yn teimlo bod hon yn berffaith iddi - ond roedd hi'n dal i wynebu gelyniaeth gan rai rhieni. “Nid oeddent wedi gweld athro du o’r blaen,” dywedodd. "Roedd fel pe gallech wneud swydd, ond os oeddech chi'n ddu nad oeddech chi mor dda."

Unwaith yn rhagor, fe brofodd ei gwerth trwy ddod yn brifathrawes – y brifathrawes ddu gyntaf yng Nghymru.

Roedd hi wedi ennill ei lle mewn hanes. Ac yn awr roedd hi am i’w disgyblion wybod am eu hanes nhw.

Wedi'i hysbrydoli gan daith i America, lle dysgodd am hanes y gyn-gaethferch a’r ddiddymwraig Harriet Tubman, rhoddodd Betty ddiwylliant y bobl ddu ar ei chwricwlwm yng Nghaerdydd.

Mewn araith a wnaed ganddi yn ddiweddarach yn y Cynulliad Cenedlaethol, esboniodd; "Roeddwn yn benderfynol fy mod am fod yn un o’r bobl hynny oedd yn gwella’r ysbryd du, y diwylliant du cymaint ag y gallwn.”

Helpodd Betty hefyd i greu Mis Hanes Pobl Duon. Fel yr eglurodd unwaith: "Edrychais ar hanes pobl dduon, y Caribî, Affrica a chaethwasiaeth a’r effeithiau. Roedd pobl a ddywedodd: 'Ni ddylech fod yn dysgu hynny.’ Pam lai? Fe ddigwyddodd. Dylai plant gael gwybod."

Lledaenodd ei henwogrwydd y tu hwnt i Gymru gan fod ei hysgol hi wedi dod yn dempled ar gyfer addysg amlddiwylliannol. A thyfodd ei dylanwad ar fywyd cyhoeddus pan ddaeth yn aelod o'r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol ac yn eiriolwraig angerddol i bobl Butetown fel cynghorydd.

Roedd hi hefyd yn eiriolwr angerddol dros bobl Tre-biwt fel cynghorydd, wrth i’r gymuned wynebu newid sylweddol drwy ddatblygiad Bae Caerdydd.

Parhaodd i fod wedi ymrwymo i dreftadaeth Tre-biwt a phwysigrwydd amlddiwylliant drwy gydol ei bywyd: "Yn ein ffordd unigryw ein hunain rydym yn sefydlu ardal lle nad yw crefydd, na lliw o bwys - roeddem i gyd yn parchu ein gilydd fel pobl.”

Nid ymladdodd unrhyw un yn galetach i ddathlu amrywiaeth Cymru na Betty Campbell.