Mathau o lwyfan
Meddylia am y profiad rwyt ti am i dy gynulleidfa ei gael. Wyt ti am iddi deimlo鈥檔 rhan o鈥檙 ddrama ac yng nghanol yr hyn sy鈥檔 digwydd, neu wyt ti am iddi fod ar wah芒n, yn arsylwi? Mae lle mae鈥檙 gynulleidfa鈥檔 eistedd mewn perthynas 芒鈥檌 gilydd yn bwysig iawn. Mae gallu gwneud cyswllt llygad ag aelodau eraill o鈥檙 gynulleidfa鈥檔 creu ymdeimlad o rannu profiad. Mae鈥檙 math o lwyfan fyddi di鈥檔 ei ddewis ar gyfer dy waith yn hanfodol bwysig oherwydd bydd yn effeithio ar y ffordd y byddi di鈥檔 defnyddio鈥檙 gofod sydd ar gael i ti berfformio.
Mae gan Theatr Olivier yn y National Theatre drwm cylchdroiDarn mawr o'r llwyfan ar si芒p cylch ac sy'n gallu cylchdroi. Mae'n ddefnyddiol wrth ddatgelu gwahanol leoliadau, dangos cymeriadau鈥檔 teithio neu ddangos amser yn mynd heibio. enfawr. Mae鈥檔 bum llawr o uchder, gyda nifer o declynnau codi sy鈥檔 gallu creu effeithiau tyrau neu gychod yn codi o鈥檙 llwyfan neu wneud i wrthrychau ddiflannu鈥檔 sydyn o鈥檙 golwg! Sut fyddai鈥檙 gynulleidfa鈥檔 teimlo wrth edrych ar lwyfannu coeth fel hyn?
Mewn gwrthgyferbyniad llwyr i hyn, mae modd i ti gael llwyfan syml sy鈥檔 gallu bod yn hynod o effeithiol. Roedd cynhyrchiad cwmni Theatr Bara Caws o Llanast, cyfieithiad Gareth Miles o Le Dieu du Carnage gan Yasmina Reza, yn defnyddio set syml oedd yn gweithio鈥檔 dda ar gyfer drama sydd wedi ei gosod mewn ystafell fyw a gofod ciniawa mewn cartref arferol.
Cofia fod modd i ti gael llwyfannau 鈥榓nffurfiol鈥 y tu allan i鈥檙 theatr hefyd gan osod dy olygfa mewn lleoliad anarferol fel traeth neu faes parcio.