Ymarfer dy sgiliau llwyfannu
Gwylia鈥檙 fideo hwn gan Gwmni Da a gyfarwyddwyd gan Gwion Hallam o gynhyrchiad Cwmni鈥檙 Fr芒n Wen o ddrama Aled Jones Williams, Ar Lan y M么r. Mae鈥檔 ddarn sy鈥檔 seiliedig ar brofiadau cleifion yn Ysbyty Seiciatrig Dinbych. Ateba鈥檙 cwestiynau a chymhara dy atebion 芒鈥檙 atebion enghreifftiol.
Question
Sut mae鈥檙 olygfa hon wedi ei llwyfannu?
Mae鈥檙 olygfa wedi ei llwyfannu gan ddefnyddio dwy set wahanol. Y gyntaf ydy lleoliad awyr agored anffurfiol ar draeth gyda set sy鈥檔 cynnwys cadair freichiau鈥檔 unig. Mae鈥檙 ail yn ystafell ddi-nod, unwaith eto gyda set syml iawn sef cadair o flaen wal wen. Does dim llwyfannu ffurfiol.
Question
Beth sy鈥檔 cael ei awgrymu gan y defnydd o gadair freichiau ar y traeth?
Byddem ni鈥檔 disgwyl gweld cadair freichiau mewn lleoliad domestig megis ystafell fyw neu lolfa鈥檙 Ysbyty Seiciatrig. Mae鈥檙 ffaith ei bod ar y traeth yn chwithig ond eto mae鈥檔 effeithiol yn weledol. Mae鈥檔 awgrymu bod y cymeriad yn dychmygu ei bod ar y traeth ond mewn gwirionedd mae hi wedi ei chau yn yr ysbyty.
Question
Gan fod yr olygfa鈥檔 fonolog, beth ddylid ei ystyried wrth lwyfannu?
Dim ond un cymeriad sy鈥檔 perfformio monolog felly mae鈥檔 bwysig sicrhau mai鈥檙 actor ydy鈥檙 ffocws. Yn yr achos hwn, y gadair a鈥檙 actor ydy鈥檙 canolbwynt gyda鈥檙 m么r yn gefnlen effeithiol.
Question
Pa ddewisiadau cynhyrchu a wnaed o ran propiau a gwisg?
Caiff y propiau eu defnyddio i ychwanegu at y ddeialog a hefyd i gyd-fynd 芒鈥檙 cefndir glan m么r ffantas茂ol. Er enghraifft pan fydd y cymeriad yn hel atgofion am fod ar y traeth gyda鈥檌 thad, mae hyn yn cael ei ddangos ynghyd ag amrywiol drugareddau鈥檙 traeth megis bwced a rhaw. Mae hyn hefyd yn gwrthdaro 芒鈥檙 dewis o wisg, sef g诺n nos syml sy鈥檔 gwreiddio鈥檙 cymeriad yn ei realiti sef yr ysbyty seiciatryddol.
Question
Sut mae鈥檙 dewis o gerddoriaeth yn cyfrannu at yr olygfa?
Mae鈥檙 gerddoriaeth yn gwneud i chi deimlo bod rhywbeth drwg ar fin digwydd ac mae鈥檔 adeiladu鈥檙 tyndra. Mae ymdeimlad arallfydol i鈥檙 gerddoriaeth hefyd sy鈥檔 cyd-fynd yn dda ag awyrgylch yr olygfa sydd fel breuddwyd.
Question
Rho enghraifft o newid amlwg yng nghyflymder ac egni鈥檙 olygfa.
Ceir newid amlwg o ran cyflymder ac egni tua diwedd y fideo gyda lleoliad yr olygfa yn newid yn realiti a gwelwn y cymeriad yn eistedd yn yr ysbyty seiciatryddol. Mae鈥檙 propiau glan m么r yn dal i fod o鈥檌 chwmpas ond mae effeithiau sain y tonnau a鈥檙 gerddoriaeth yn peidio gan newid egni ac ymdeimlad yr olygfa. Mae hyn yn gwneud i鈥檙 gynulleidfa eistedd i fyny fel pe baen nhw鈥檔 deffro o freuddwyd.