Deall strwythur drama
Ystyr strwythur drama ydy'r drefn y mae'r gweithredu a'r golygfeydd yn cael eu gosod ynddi i greu effaith ddramatig.
Meddylia am y ffilm Hollywood fawr, Titanic. Mae'r ffilm yn dechrau gyda'r prif gymeriad Rose, yn hen wraig yn adrodd ei hanes, felly mae prif gorff y ffilm yn 么濒-蹿蹿濒补肠丑Golygfa sy'n dangos rhywbeth a ddigwyddodd yn y gorffennol; adrodd yr hyn mae cymeriad yn ei gofio am ddigwyddiad.. O'r dechrau rydyn ni'n gwybod ei bod yn goroesi pan fydd y llong yn suddo. Pan welwn ni hi'n mynd ar fwrdd y llong rydyn ni'n gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd, er nad ydy Rose yn gwybod hyn.
Pe bai'r naratif neu'r stori ar ffurf arall nad oedd yn 么濒-蹿蹿濒补肠丑, heb i ni fod yn si诺r a oedd Rose yn mynd i oroesi ai peidio, byddai'r profiad dramatig yn wahanol iawn. Er y byddai mwy o dyndra yngl欧n 芒'i thynged, efallai na fydden ni'n cydymdeimlo neu'n creu cyswllt 芒'r cymeriad fel rydyn ni'n ei wneud nawr o wybod ein bod yn gwylio'r digwyddiadau drwy ei llygaid hi.
Mae Amadeus, y ddrama lwyfan a ffilm enwog, yn defnyddio 么濒-蹿蹿濒补肠丑 yn effeithiol tu hwnt ac mae'r ddrama'n dechrau yn y diwedd fel petae, gydag un o'r prif gymeriadau, Salieri, yn hen 诺r. Mae Too Much Punch for Judy gan Mark Wheeller hefyd yn defnyddio 么濒-蹿蹿濒补肠丑颈补诲补耻'n effeithiol.
Wrth strwythuro dy waith rhaid i ti ystyried yr effaith emosiynol neu ddramatig rwyt ti'n dymuno ei gael ar dy gynulleidfa.