大象传媒

Dehongli a llwyfannu golygfaCyflymder a deinameg

Mae yna amryw o bethau y mae鈥檔 rhaid i ti eu hystyried os wyt ti am gyflwyno drama yn llwydiannus. Meddylia am fwriad dy ddarn, y math o lwyfan rwyt ti'n ei ddefnyddio ac arddull dy waith.

Part of DramaGwaith sgript

Cyflymder a deinameg

Rhaid i ti ystyried rhythm a deinameg golygfa ar gyfer llwyfannu llwyddiannus. Fel darn o gerddoriaeth, mae gan bob golygfa ei thaith a鈥檌 chymeriad ei hun. Ceir rhannau lle mae鈥檙 tyndra a鈥檙 awyrgylch yn dwys谩u, rhannau sydd 芒 phrysurdeb, tawelwch, seibiannau ac adrannau ag egni uwch ac is.

Ymchwilia i dy destun neu strwythur yr olygfa rwyt ti wedi ei chreu鈥檔 fanwl. Dadansodda鈥檙 olygfa yn rhannau neu鈥檔 unedau o weithgaredd. Oes newid yn y cyflymder neu鈥檙 egni? Sut allet ti greu hyn?

Ystyria ymhle mae鈥檙 ddeialog yn cyflymu, lle mae鈥檔 arafu a pha gymeriad sy鈥檔 llywio鈥檙 naratif a鈥檙 digwyddiadau ar unrhyw adeg yn y gwaith.

Mae cyferbyniad yn gwneud drama鈥檔 ddiddorol, felly os ydy鈥檙 olygfa wedi cyflymu gan symud ar wib at uchafbwynt, gall saib hir neu foment o lonyddwch ar 么l y digwyddiad fod yn bwerus iawn.

Sylw i fanylion

Cofia ar unrhyw adeg pan wyt ti鈥檔 actio ar y llwyfan y bydd rhywun yn y gynulleidfa鈥檔 dy wylio di, hyd yn oed os na fyddi di鈥檔 siarad. Rwyt ti鈥檔 elfen hanfodol yn llwyddiant yr olygfa hyd yn oed os na fyddi di鈥檔 gwneud neu鈥檔 dweud llawer.

Mapia dy daith drwy鈥檙 olygfa鈥檔 ofalus. Oes adegau lle mae鈥檔 bwysig i ti wneud cyswllt llygad ag actor arall? Gall troi dy ben i edrych ar gymeriad arall, ochenaid syml neu ystum cynnil adrodd cyfrolau am y ffordd mae dy gymeriad yn teimlo. Does dim ots ai鈥檙 brif ran neu ran lai sydd gen ti i鈥檞 chwarae, rwyt ti鈥檙 un mor bwysig ar y llwyfan a dylet ti wybod yn union beth fyddi di鈥檔 ei wneud ar bob eiliad rwyt ti ar y llwyfan.