大象传媒

Y Prawf Mwnci

Yn 1925 cafodd syniadau'r Ffwndamentalwyr lawer iawn o gyhoeddusrwydd yn America. Pasiwyd deddf newydd mewn chwe thalaith, gan gynnwys Tennessee, yn gwahardd dysgu syniadau Charles Darwin mewn ysgolion, am fod y syniadau hynny'n gwrth-ddweud stori'r Creu yn y Beibl.

Dywedodd Darwin bod dyn wedi datblygu o epaod dros filiynau o flynyddoedd, a phan anwybyddodd un athro Bioleg y ddeddf newydd a dysgu syniadau Darwin yn ei ddosbarth, daeth achos llys yn ei erbyn.

Ymosodon nhw'n hallt ar syniadau Charles Darwin am esblygiad yn ei lyfr On the Origin of Species. Roedden nhw'n credu'n gryf bod Duw wedi creu'r byd mewn chwe diwrnod.

O ganlyniad, fe drefnodd Cynhadledd Feiblaidd fawr ymgyrch yn erbyn dysgu damcaniaeth esblygiad Darwin yn ysgolion America ac yn arbennig felly'r syniad fod pobl a mwnc茂od wedi datblygu o'r un creadur yn wreiddiol. Llwyddodd yr ymgyrch i wahardd defnyddio llyfrau Darwin yn yr ysgolion mewn sawl talaith ar hyd a lled y wlad.

Roedd John Scopes, ac Undeb Hawliau Sifil America The American Civil Liberties Union (ACLU) o Dayton, Tennessee, yn ddig iawn am y ddeddf newydd. Yn ei wersi Bioleg, dysgodd Scopes ei ddisgyblion am Darwin ac esblygiad yn fwriadol er mwyn gwneud pwynt gwleidyddol, ac fe gafodd ei arestio am dorri'r gyfraith.

Cafodd yr achos llys lawer iawn o gyhoeddusrwydd gan y cyfryngau, ar y radio ac mewn papurau newydd. Clarence Darrow oedd cyfreithiwr Scopes, a chyfreithiwr y Ffwndamentalwyr oedd William Jennings Bryan. Cafodd yr achos ei alw'n y Prawf Mwnci.

Canlyniadau

Yng ngolwg llawer o bobl oedd yn byw tu allan i Ardal y Beibl, roedd syniadau'r Ffwndamentalwyr yn ymddangos yn wirion.

Cafwyd John Scopes yn euog o ddysgu damcaniaeth esblygiad i'w ddisgyblion. Cafodd ddirwy o $100.

Bu farw William Bryan yn sydyn ychydig ddyddiau ar 么l ennill yr achos i'r Ffwndamentalwyr.

Erbyn 1929, roedd chwe thalaith yn Ardal y Beibl yn rhannau mwyaf deheuol y wlad wedi pasio deddfau yn erbyn dysgu'r ddamcaniaeth esblygiad. Roedd yn bosibl felly y byddai rhai o blant America yn tyfu'n oedolion heb wybod dim am y ddamcaniaeth hon.

Yn bwysicach fyth, dangosodd yr achos ochr wahanol i America o'r un a bortreadir yn ystod yr hyn a elwir yn Oes Jazz.