大象传媒

Ymateb y bobl dduon

Erbyn 1900 roedd Booker T Washington, a oedd arfer bod yn berson wedi ei gaethiwo, yn ymladd dros achos y bobl dduon. Agorodd Sefydliad Tuskegee yn Alabama i roi addysg a hyfforddiant i bobl dduon. Credai bod rhaid iddyn nhw wneud cynnydd economaidd cyn gallu camu ymlaen yn wleidyddol.

Yn Chicago ac Efrog Newydd, ymddangosodd gr诺p newydd o Americanwyr du dosbarth canol yn sgil swyddi ac addysg gwell. Datblygodd Harlem Renaissance yn Efrog Newydd Americanwyr du talentog megis cantorion, cerddorion, artistiaid ac awduron.

Roedd barn wahanol gan arweinwyr dau fudiad a geisiai roi sylw i'r ffordd roedd yr Americanwyr duon yn cael eu trin yn annheg:

  • Sefydlwyd Y Gymdeithas Genedlaethol er budd Hyrwyddo Pobl Dywyll eu Croen yn 1909 gan William du Bois. Roedd aelodau'r NAACP yn canolbwyntio ar wrthwynebu hiliaeth ac arwahanu drwy fynd i gyfraith a chynnal gweithgareddau di-drais, fel gorymdeithiau a phrotestiadau.
  • Sefydlwyd Y Gymdeithas Fyd-eang er budd Dyrchafu Negroaid (UNIA) yn 1914 gan Marcus Garvey. Roedd aelodau'r UNIA yn fwy milwriaethus. Roedd Garvey yn annog pobl dduon i sefydlu eu busnesau eu hunain gan gyflogi gweithwyr duon yn unig, a hefyd yn eu hannog i ddychwelyd i Affrica, eu mamwlad. Black is beautiful oedd ei slogan enwocaf.

Roedd William du Bois a Marcus Garvey yn gweithio i wella amodau i bobl dduon, ond roedd eu dulliau mor wahanol, fe ddaeth y ddau i fod yn elynion pennaf.