Cymunedau du a lleiafrifoedd hiliol eraill
Ar ddechrau'r 20fed ganrif roedd mwy o ragfarn hiliol a drwgdeimlad tuag at y rhai nad oedden nhw'n Americanwyr 'go iawn'.
- Yn 1900 roedd 12 miliwn o bobl dduon yn byw yn UDA, a 75 y cant ohonyn nhw'n byw yn y de.
- Er bod caethwasiaeth wedi'i ddiddymu yn y 1860au, roedd pobl gwyn yn rheoli鈥檙 taleithiau deheuol drwy ddefnyddio Deddfau Jim CrowEnw'r deddfau a gyflwynodd arwahanu yn y de, sef y deddfau a oedd yn cadw pobl dduon a phobl wynion ar wah芒n. i arwahanuGwahanu pobl dduon a phobl wynion mewn mannau cyhoeddus yn y gymdeithas.'r boblogaeth ddu a gwahaniaethu yn eu herbyn. Roedd y deddfau hyn yn eu hatal rhag pleidleisio, cael addysg dda a swyddi da.
- Nid oedd mwyafrif yr Americanwyr duon yn llwyddo i fanteisio ar economi lewyrchus y 1920au. Roedd hyn yn arbennig o wir yn nhaleithiau'r de gan mai amaethyddiaeth oedd sail yr economi yno, ac fe gwympodd prisiau cnydau gydol y 1920au.
Mudo i'r gogledd a'r gorllewin
Roedd datblygiadau diwydiannol wedi creu galw am nwyddau a weithgynhyrchwyd a chr毛wyd swyddi yn ninasoedd diwydiannol y gogledd.
Rhwng 1916-1920 aeth bron i 1 miliwn o bobl dduon i'r gogledd yn ystod y Mudo Mawr i ddinasoedd fel Chicago, Efrog Newydd a Detroit i chwilio am waith. Er nad oedd unrhyw gyfreithiau Jim Crow, roedd Americanwyr duon yn dal i gael eu trin fel dinasyddion eilradd yn y dinasoedd gogleddol. Oherwydd cyflogau isel roedden nhw鈥檔 byw mewn ardaloedd tlawd, fel Harlem yn Efrog Newydd, o'r enw getoau.
Yn 1919 gwelwyd terfysgoedd mewn 20 o ddinasoedd yr Unol Daleithiau wrth i densiwn hiliol rhwng pobl ddu a gwyn gynyddu. Dyma oedd un o'r ffactorau a ysgogodd y cynnydd yn nifer aelodau鈥檙 Ku Klux Klan (KKK).