大象传媒

Diabetes, alcohol a gordewdra

Weithiau bydd dewisiadau ffordd o fyw neu ddechreuad clefyd yn tarfu ar fecanweithiau homeostatig, ac os yw hyn yn digwydd, bydd angen cymorth i gadw cydbwysedd y corff.

Diabetes

Mae diabetes yn gyflwr lle mae鈥檙 lefelau glwcos yn y gwaed yn parhau鈥檔 rhy uchel. Gellir ei drin drwy chwistrellu . Mae鈥檙 inswlin ychwanegol yn achosi i鈥檙 afu/iau droi鈥檙 yn , sy鈥檔 lleihau lefel y glwcos yn y gwaed. Mae dau fath o ddiabetes - math 1 a math 2.

Diabetes math 1

Mae diabetes mth 1 yn cael ei achosi gan niwed i鈥檙 celloedd beta yn y y sy鈥檔 cynhyrchu inswlin. Mae鈥檙 broblem yn gallu bod yn etifeddol, ond mae hefyd yn gallu cael ei hachosi gan ddal firysau penodol ac ymateb y corff iddynt. O ganlyniad, dydy pobl 芒 diabetes math 1 ddim yn cynhyrchu dim inswlin, neu ddim yn cynhyrchu digon ohono.

Gallwn ni ei reoli drwy:

  • ddilyn deiet heb lawer o siwgr/carbohydrad
  • chwistrellu inswlin
  • trawsblaniad posib o feinwe bancreatig
Pecyn inswlin yn cynnwys nodwyddau a mesurydd lefelau glwcos yn y gwaed.

Mae pobl 芒 diabetes math 1 yn gorfod monitro lefelau siwgr yn eu gwaed drwy gydol y dydd. Mae eu lefelau gweithgarwch corfforol 补鈥檜 deiet yn effeithio ar faint o inswlin sydd ei angen.

Gall pobl helpu i reoli lefel y glwcos yn eu gwaed drwy fod yn ofalus gyd补鈥檜 deiet (bwyta bwydydd na fyddan nhw鈥檔 achosi cynnydd mawr a sydyn yn lefel y siwgr yn y gwaed) a thrwy ymarfer corff (a all ostwng lefelau glwcos yn y gwaed yn sgil cynnydd yn y cyhyrau).

Diabetes math 2

Mae diabetes math 2 yn digwydd wrth i gorff person ddatblygu ymwrthedd i inswlin. Mae modd ei reoli trwy ddeiet ac ymarfer corff. Mae cysylltiad rhwng y cynnydd yn lefelau a chynnydd yn lefelau diabetes math 2

Ffordd o fyw

Mae bwyta gormod o fwyd dros gyfnod hir yn gallu cyfrannu at ddatblygu diabetes math 2. Mae dewisiadau ffordd o fyw eraill hefyd yn gallu cyfrannu at ddechreuad y clefyd, fel:

  • yfed gormod o alcohol
  • camddefnyddio cyffuriau

Alcohol

Mae hyd yn oed symiau bach o alcohol yn cynyddu amser ymateb y corff. Gallai hyn achosi canlyniadau angheuol os yw rhywun yn gyrru car dan ddylanwad alcohol.

Gwydraid o gwrw, gwydraid o win coch, a gwydraid o win gwyn.

Mae hefyd yn . Mae pobl yn mynd yn ddibynnol ar ddefnyddio alcohol ac yn dioddef symptomau hebddo.

Mae parhau i ddefnyddio alcohol yn gallu achosi niwed corfforol hirdymor i organau pwysig fel yr afu/iau a鈥檙 system cylchrediad gwaed.