大象传媒

Y Coed gan GwenalltTrafod y gerdd

Yn y canllaw hwn byddi di鈥檔 dysgu am 鈥榊 Coed鈥 gan Gwenallt. Mae鈥檔 gerdd sy鈥檔 condemnio dynoliaeth a鈥檌 awydd i ryfela. Mae鈥檔 edrych ar them芒u, nodweddion arddull a neges.

Part of Llenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Trafod y gerdd

Mae鈥檙 gerdd hon yn rhybuddio am erchyllterau rhyfel. Rydyn ni鈥檔 cael clywed llawer iawn o rifau sy鈥檔 tynnu ein sylw at faint y golled. Mae鈥檙 swm chwe miliwn yn cael ei ailadrodd yn y gerdd er mwyn serio pa mor anferth oedd y ar feddwl y darllenydd.

Y rhigwm cyntaf

Yn y rhigwm cyntaf, mae berfau amhersonol fel plannwyd a llosgwyd yn cael eu defnyddio. Maen nhw'n cyfrannu at naws ffurfiol y gerdd ac yn awgrymu pa mor amhersonol oedd y weithred o blannu鈥檙 coed.

Gyda鈥檙 geiriau heb fynwent na bedd nac wrn mae Gwenallt yn rhestru'r hyn na chafodd yr Iddewon. Fel arfer mae mynwent ac wrn yn bethau sy鈥檔 dangos parch at y meirw ond o鈥檜 rhestru, mae鈥檔 pwysleisio diffyg parch at yr Iddewon a gollodd eu bywydau.

Chwithig gweled y cangau fel cofgolofnau byw. Yn y gyffelybiaeth hon mae cyferbyniad rhwng gwrthrych marw a statig fel cofgolofn a gwrthrychau byw fel cangau coed. Yr eironi yma yw bod y coed sy鈥檔 yn fyw ond mae鈥檙 bobl yn farw.

Yn y gerdd hon, mae defnydd helaeth o鈥檙 . Mae鈥檙 pethau negyddol yn cael eu pwysleisio ac mae ymdeimlad gormesol yn y defnydd cyson o 鈥榥a鈥 a 鈥榥id鈥. Maen nhw'n arfau i bwysleisio ar ddynoliaeth yn y gerdd.

Yn y pumed cwpled, Nid yw鈥檙 dwylo a鈥檜 plannodd yn ddieuog, na鈥檜 cydwybod yn l芒n, mae Gwenallt yn honni nad yw鈥檙 bobl a wnaeth y weithred hon o goffau yn ddieuog. Mae鈥檔 eu cyhuddo o losgi pentrefi鈥檙 Arabiaid er mwyn eu gyrru oddi yno a chymryd eu tiroedd.

Condemnio'r ddynol ryw

Nesaf, mae e鈥檔 troi ei olygon atom ni yn y gorllewin. I gondemnio'r ugeinfed ganrif mae鈥檔 defnyddio鈥檙 ansoddair barbaraidd. Mewn cerdd sy鈥檔 weddol foel o ran ansoddeiriau, mae鈥檙 s诺n cras a geir yn yr ansoddair hwn yn hoelio ein sylw ac yn creu arswyd.

Tua diwedd y gerdd, mae Gwenallt yn ein hatgoffa am ddaioni Cristnogaeth Yr Unig Un a fu鈥檔 byw鈥檙 Efengyl yn ei oes. Mae鈥檔 dweud mai Iesu Grist yw鈥檙 unig un a fu鈥檔 dda a chyfiawn erioed.

Cawn ein sobri yng nghwpled olaf y gerdd oherwydd mae鈥檔 dweud y byddwn ni鈥檔 cael ein beirniadu gan y genhedlaeth nesaf am weithredoedd afiach yr oes hon.