´óÏó´«Ã½

Rhaid peidio dawnsio... gan Emyr LewisY gerdd

Caerdydd yw prif gymeriad y gerdd hon gan Emyr Lewis sy’n ymdrin â thema amser. Mae’r bardd yn trafod sut mae amser yn rheoli ein bywydau a sut mae terfynau amser yn ein cadw rhag teimlo’n gwbl rydd.

Part of Llenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Y gerdd

Rhaid peidio dawnsio...
by Emyr Lewis

Rhaid peidio dawnsio yng Nghaerdydd
rhwng wyth a deg y bore,
mae camerâu yr Heddlu Cudd
a’r Cyngor am y gore
yn edrych mas i weld pwy sydd
yn beiddio torri’r rheol
na chaiff neb ddawnsio yng Nghaerdydd
ar stryd na pharc na heol.

Mae dawnsio wedi deg o’r gloch
yn weithred a gyfyngir
i chwarter awr mewn ’sgidiau coch
mewn mannau lle hebryngir
y dawnswyr iddynt foch ym moch,
heb oddef stranc na neidio,
ac erbyn un ar ddeg o’r gloch
rhaid i bob dawnsio beidio.

Ond ambell Chwefror ar ddydd Iau,
pan fydd y niwl a’r barrug
yn fwgwd am y camerâu
fel bo’r swyddogion sarrug
yn swatio’n gynnes yn eu ffau
gan ddal diodydd poethion,
mae’r stryd yn llawn o naw tan ddau
o ddawns y sodlau noethion.