大象传媒

Etifeddiaeth gan Gerallt Lloyd OwenY gerdd

Fel cynifer o gerddi Gerallt Lloyd Owen mae hon yn ymdrin 芒 Chymru a Chymreictod. Mae'r bardd yn trafod pwysigrwydd tir, hanes ac iaith i unrhyw genedl, a鈥檙 bygythiadau sy鈥檔 eu hwynebu yng Nghymru.

Part of Llenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Y gerdd

Etifeddiaeth
by Gerallt Lloyd Owen

Cawsom wlad i鈥檞 chadw,
darn o dir yn dyst
ein bod wedi mynnu byw.

Cawsom genedl o genhedlaeth
i genhedlaeth, ac anadlu
ein hanes ni ein hunain.

A chawsom iaith, er na cheisiem hi,
oherwydd ei hias oedd yn y pridd eisoes
a鈥檌 grym anniddig ar y mynyddoedd.

Troesom ein tir yn simneiau t芒n
a phlannu coed a pheilonau cadarn
lle nad oedd llyn.
Troesom ein cenedl i genhedlu
estroniaid heb ystyr i鈥檞 hanes;
gwymon o ddynion heb ddal
tro鈥檙 trai.
A throesom iaith yr oesau
yn iaith ein cywilydd ni.

Ystyriwch; a oes dihareb
a ddwed y gwirionedd hwn:
Gwerth cynnydd yw gwarth cenedl,
a鈥檌 hedd yw ei hangau hi.