Efelychiad cyfrifiadurol
Rhaglen sydd wedi鈥檌 chynllunio er mwyn efelychu sefyllfa go iawn yw efelychiad cyfrifiadurol. Enghraifft o efelychiad cyfrifiadurol yw meddalwedd sy鈥檔 efelychu鈥檙 profiad o hedfan awyren.
Meddalwedd efelychu hedfan
Mae meddalwedd efelychu syml sy鈥檔 rhedeg ar gyfrifiadur personol yn cynnig adloniant i鈥檙 defnyddiwr a chyfle i ymarfer defnyddio rheolyddion syml a llywio.
Mae efelychydd hedfan go iawn 鈥 sy鈥檔 cael ei ddefnyddio i hyfforddi peilotiaid 鈥 yn llawer mwy soffistigedig, ac yn gostus iawn.
Mae鈥檙 peilot yn eistedd mewn caban pwrpasol. Mae鈥檙 caban wedi鈥檌 osod ar fframwaith sy鈥檔 cael ei reoli gan offer hydrolig. Mae鈥檙 offer hydrolig yn symud y caban ac yn rhoi鈥檙 teimlad bod rhywun mewn awyren go iawn. Mae synhwyryddDyfais sy鈥檔 mesur meintiau ffisegol ac yn eu trosi鈥檔 signalau i gael eu darllen a鈥檜 dehongli. yn canfod gweithrediadau鈥檙 peilot ac yn symud y caban yn unol 芒 hynny. Mae delweddau wedi鈥檜 cynhyrchu gan gyfrifiadur i鈥檞 gweld yn lle鈥檙 olygfa o ffenestr y caban.
Mae efelychwyr hedfan yn sicrhau bod peilotiaid dan hyfforddiant yn cael profiad o:
- amodau hedfan gwahanol, er enghraifft, tywydd gwael, hedfan yn y nos
- sefyllfaoedd argyfwng, er enghraifft, rhedfa wedi rhewi, niwl, injan yn methu
- gweithdrefnau glanio a sut maen nhw鈥檔 amrywio o un maes awyr i鈥檙 llall
Mae efelychwyr hedfan yn ddiogel ac yn gost-effeithiol. Does dim angen tanwydd a does dim angen talu i鈥檙 criw. Mae unrhyw ddifrod i鈥檙 awyren wedi鈥檌 efelychu, a dyw鈥檙 peilot byth mewn perygl.