Mae Jamal a'i deulu yn dianc o Afghanistan ac yn ffoi i ben draw'r byd. Mae stori Bachgen yn y M么r yn cael ei dweud yn y person cyntaf ac mae'r iaith ynddi'n creu cyffro, tensiwn ac awyrgylch.
Prif gymeriad y nofel. Breuddwyd Jamal ydy bod yn seren b锚l-droed enwog. Mae鈥檔 gymeriad ffyddlon, penderfynol a dewr.
Bibi
Mae Bibi yn chwaer fach i Jamal. Mae鈥檔 gymeriad penderfynol ac annibynnol. Mae hi鈥檔 hoffi chwarae p锚l-droed ac nid ydy鈥檔 gweld pam y dylai ddilyn rheolau鈥檙 Llywodraeth.
Tad Jamal
Pobydd a dyn tacsi ydy tad y plant. Mae鈥檔 gymeriad teg a dewr iawn (mae鈥檔 llwyddo i achub ei wraig o鈥檙 stadiwm).
Mam Jamal
Hi ydy鈥檙 athrawes yn yr ysgol anghyfreithlon. Rydyn ni鈥檔 gallu gweld ei bod hi鈥檔 ddewr wrth iddi wynebu marwolaeth yn y stadiwm.
Yusuf
Mae Yusuf yn ffrind ffyddlon i Jamal a Bibi. Mae Yusuf wedi dioddef yn fawr oherwydd y rhyfel - mae wedi colli ei goes a鈥檌 rieni.
Tad-cu Yusuf
Mae Yusuf yn byw gyda鈥檌 dad-cu. Mae wrth ei fodd yn gwylio gemau p锚l-droed a鈥檙 Simpsons ar ei deledu lloeren anghyfreithlon yn y seler.
Omar
Omar sydd yn dwyn p锚l Jamal yn y gwersyll. Mae Omar yn gymeriad eithaf negyddol ac yn tueddu i edrych ar ochr dywyll pob sefyllfa. Roedd wedi twyllo ei ffordd ar y llong er mwyn ceisio dianc i Awstralia.
Rashida
Mae Jamal yn hoffi Rashida yn fawr. Mae hi鈥檔 berson hael ac mae hi鈥檔 rhannu ei bwyd gyda鈥檙 tri phlentyn ac yn rhoi ei horiawr werthfawr i dalu鈥檙 smyglwyr.
Andrew
Andrew sydd yn achub y plant oddi ar y llong ffoaduriaid wrth iddi suddo. Mae Andrew yn teimlo鈥檔 euog achos dydy Awstralia ddim yn croesawu鈥檙 ffoaduriaid.
Ymarfer
Mae'n bwysig defnyddio ansoddeiriau wrth ddisgrifio cymeriadau. Meddylia am dri ansoddair ar gyfer pob cymeriad a noda reswm pam fod pob un yn addas. Dyma enghraifft:
Cymeriad: Jamal
Ansoddair 1: Dewr
Rheswm: Sefyll o flaen tanc yn yr anialwch er mwyn cael ei b锚l yn 么l.