Bang Bang Bangor
Mae gen i stori i ddweud wrthoch chi - un sy'n ymwneud a Rheon Thomas, Leighton Andrews a finnau. Nid stori ynghylch Cadeirydd Gweithredol S4C, y Gweinidog Addysg a Golygydd Materion Cymreig y ´óÏó´«Ã½ yw hon on un ynghylch tri myfyriwr ifanc yng ngholeg Bangor nol y saithdegau.
Doedd gan benaethiaid y Coleg fawr o amser nac amynedd i'r Gymraeg ar y pryd ac o ganlyniad penderfynodd Cymdeithas yr Iaith gychwyn ymgyrch yn eu herbyn. Doedd e'n fawr o beth, mewn gwirionedd. Paentiwyd ambell i slogan ar furiau'r hen goleg a chynhyrchwyd ambell i daflen a phoster.
Fe ddangosodd y penaethiaid ddyfnder eu cydymdeimlad a'r Gymraeg a'u deallusrwydd o fywyd Cymraeg y Coleg trwy ddiarddel pedwar myfyriwr. Roedd Rheon yn un ohonyn nhw.
Nid bod Rheon yn rhyw benboethyn eithafol. Gan ddangos dyfnder eu gwybodaeth roedd y coleg wedi anwybyddu swyddogion Cymdeithas yr Iaith gan ddiarddel yn eu lle swyddogion Cymdeithas y Cymric - cymdeithas oedd yn fwy enwog am drefnu disgos a helfeydd trysor nac am brotestiadau.
Os oedd y Cymric yn anwleidyddol cyn hynny fe newidiodd pethau'n ddigon sydyn ac fe feddiannodd y Gymdeithas adeiladau'r hen goleg. Mewn protest gyfochrog meddiannodd Leighton a chriw o fyfyrwyr Di-Gymraeg a thramor y twr mà ths. Fi oedd y swyddog cyswllt rhwng y ddwy brotest. Os mynnwch chi fy nyletswydd i oedd 'pontio' rhwng y ddwy garfan.
Mae hynny'n dod a ni'n ddigon taclus at '' - y cynllun gwerth £37miliwn i godi canolfan gelfyddydau newydd fydd yn cymryd lle Theatr Gwynedd ac Undeb y Myfyrwyr.
Wrth i Carwyn Jones gychwyn y gwaith ar y prosiect y wythnos hon roedd criw o aelodau Cymdeithas yr Iaith wrth law iyn erbyn agwedd y ganolfan a'r coleg tuag at y Gymraeg. Dyw rhai pethau ddim yn newid!
Penodi ymgeiswyr Di-Gymraeg i fod yn bennaeth ac yn swyddog cymunedol 'Pontio' oedd wedi ysbarduno'r brotest ond mae'r peth yn mynd yn ddyfnach na hynny. Mae 'na deimladau cryf ymhlith rhai o staff a myfyrwyr Cymraeg y Coleg bod y sefydliad wedi dad-Gymreigio'n ddifrifol yn ystod y blynyddoedd diwethaf gyda thîm rheoli sydd bron yn gyfan gwbwl Di-Gymraeg a phenodiadau pwysig wedi ei wneud ar sail argymhellion cwmnïau recriwtio o Loegr.
Mae'n ymddangos bod y Prifathro newydd, John Hughes, sy'n Wyddel, yn ymwybodol o'r teimladau hyn ac fe benodwyd y cerddor Wyn Thomas yn is-brifathro (gofal y Gymraeg). Yn ôl ffynonellau o fewn y Coleg mae ganddo dipyn o dasg o'i flaen.
Cwestiwn sy'n ofyn gan rai yw hwn. Os ydy'r honiadau ynghylch dad-Gymreigio yn gywir pam na wnaeth y prifathro ar y pryd, Merfyn Jones, rywbeth ynghylch y peth?
Yn eironig ddigon mae Merfyn newydd ei benodi'n bennaeth ar y Coleg Cymraeg Cenedlaethol... gan Leighton!
Diawl, mae Cymru'n wlad fach!