大象传媒

Bwdhaeth

Bwdhaeth

Rheinallt Thomas yn trafod Bwdhaeth

Hanes

Crefydd a gychwynnodd yn yr India tua 2,500 o flynyddoedd yn 么l yw Bwdhaeth ac erbyn heddiw yng ngwledydd Dwyrain Pell Asia y mae amlycaf.

Y sylfaenydd y oedd Siddartha Guatama a anwyd 560 C.C.

Roedd ei fywyd yn un a weddai i dywysog nes yr oedd yn 29 oed ond pan welodd dlodi'r bobl, yr afiechydon a'r anobaith, gadawodd ei fywyd moethus, diogel, i chwilio am ateb i'r holl ddioddefaint a ddeuai i ran dynoliaeth a cheisio heddwch i'r enaid.

Treuliodd gyfnod gyda mynaich o wahanol urddau ond heb gael yr ateb a ddymunai.

Pan gyrhaeddodd Bodh-Gaya (yr enw modern) eisteddodd dan goeden ffigys a myfyrio am 46 diwrnod nes cyrraedd yr hyn y cyfeiria Bwdhiaid heddiw ato fel goleuedigaeth eithaf.

Cyflwr o fyfyrdod yw hwn sy'n galluogi person i weld bywyd yn union fel ag y mae ac i ganfod atebion i broblemau dynol.

O hyn allan galwyd ef y Bwdha, sy'n golygu 'yr un goleuedig'.

Teithiodd y Bwdha i Benares lle pregethodd ei bregeth gyntaf.

Hyd ei farw yn 80 oed, teithiodd ar hyd a lled yr India yn pregethu ei ffordd newydd o feddwl a elwir 'y ffordd ganol'.

Dwy gangen

    Heddiw ceir dwy gangen o Fwdhaeth:
  • Ysgol y Gogledd sef Mahayana,
  • Ysgol y De sef Theravada.

Mae hanfodion y grefydd yn gyffredin i'r ddwy gangen, ond cred y Mahayaid mai bod tragwyddol yn hytrach na bod dynol oedd y Bwdha, tra chred y Theravadiaid mai bod dynol oedd, ond gyda galluoedd eithriadol.

Man addoli


Bydd Bwdhiaid yn gwedd茂o mewn mynachlogydd, cysegrfannau neu demlau sy'n amrywio'n fawr o ran maint a chynllun.

O fewn y rhan fwyaf o fynachlogydd bydd mynaich yn edrych ar 么1 y lle.

Symlrwydd yw'r allwedd i'w ffordd o fyw. Bydd cysegrfan y fynachlog yn am1 yr adeiladwaith mwyaf disglair a chymhleth yn y lle gyda llun, neu fwyaf tebyg, gerflun o Bwdha yno.

Bydd lle wedi ei neilltuo gerllaw i dderbyn offrymau, yn ogysta1 芒 lle i bobl eistedd a gwedd茂o neu fyfyrio.

Caiff temlau a chysegr fannau eu hadeiladu lle bynnag y bo galw amdanynt.

Ym Mhrydain gallwch ganfod allor mewn tai, neu unrhyw adeilad arall sydd yn fan cyfarfod i'r Bwdhiaid.

Pum elfen


Mae symbolau pum elfen y ffydd ym mhob cysegrfan.
    Y pump yw:
  • Daear
  • 罢芒苍
  • Dwr
  • Awyr
  • Doethineb

Gosodir symbolau o'r elfennau hyn yn strategol o gylch y gysegrfan.

Mae myfyrio yn hynod o bwysig i Fwdhiaid, a bydd llawer yn treulio awr neu ddwy bob diwrnod yn myfyrio mewn cysegrfan neu fan arall.

Ysgrythurau sanctaidd


Ar y cychwyn lledaenwyd credoau Bwdhaidd drwy adrodd hanesion a'u trosglwyddo ar lafar o genhedlaeth i genhedlaeth.

Yr ysgrythurau cynharaf sydd wedi goroesi hyd heddiw yw arysgrifau ar feini carreg o tua 250 C.C.

O'r ail ganrif y daw'r fersiwn gyflawn gyntaf i oroesi o'r Ffordd Rinweddol.

Geilw Bwdhiaid ysgol y Theravada eu llyfr cysegredig hwy yn Tri-Pitake, ac mae iddo dair adran:

  • Mae'r rhan gyntaf yn ymdrin 芒'r bywyd disgybledig y disgwylir i fynaich ei ddilyn.
  • Mae'r ail ran yn cynnwys dysgeidiaeth y Bwdha.
  • Yn y drydedd ran ceir esboniad ar ddysgeidiaeth y Bwdha, ac eglurhad ar brif ddaliadau'r grefydd.

Yr ail lyfr yw'r un a ystyrir bwysicaf, a cheir ynddo 540 o hanesion am y Bwdha.

Yr adran bwysicaf o bosibl yw, Y Llwybr Rhinweddol.

Y mae llawer o Fwdhiaid yn gwybod yr adran hon ar eu cof.

Mae Bwdhiaid ysgol y Mahayana yn defnyddio llawysgrifau (Sutrau) eraill yn ogystal, wedi eu hysgrifennu mewn Sanskrit a ieithoedd Hindwaidd hynafol eraill.

Y pwysicaf o' r rhain yw Ysgrythur y Lotws.

Credoau


Y ddwy gred bwysicaf o fewn Bwdhaeth yw:
  • Samsara - sef y gred y bydd person wedi ei farwolaeth yn cael ei aileni, naill ai yn fod dynol neu yn anifail neu greadur. Yr unig ffordd i osgoi aileni yw cyrraedd y stad o Nirvana, drwy fyfyrdod, sy'n codi'r ymwybyddiaeth uwchlaw cylch geni ac aileni.

    Karma - sef y gred fod yr hyn a wna person mewn bywyd wedi ei gofnodi.

    I'r Bwdhiaid mae Pedwar Gwirionedd Urddasol, sef:

    • Mae dioddef yn rhan o fywyd
    • Trachwant hunanol sy'n achosi dioddef
    • Mae dioddefaint yn peidio os llwyddir i drechu'r chwantau.
    • Gellir trechu'r chwantau drwy ddilyn y llwybr wythplyg:
      Derbyniwch ddysgeidiaeth y Bwdha;
      Gweithredwch ddysgeidiaeth y Bwdha;
      Peidiwch a dweud celwydd na siarad yn gas;
      Peidiwch a lladd dim,
      Osgowch gyffuriau,
      Peidiwch 芒 dwyn,
      Peidiwch a godinebu;
      Dilynwch yrfa sy'n eich galluogi i fyw yn 么l dysgeidiaeth y Bwdha;

    Drwy fyw yn gywir mae'n haws cyrraedd Nirvana;
    Rheolwch eich meddwl drwy fyfyrdod;
    Myfyriwch a chanolbwyntiwch yn ddwys i gyrraedd Nirvana

    Gwyliau

    Dethlir Magha Puja yn ystod lleuad llawn mis Chwefror.

    Dethlir Wesak am dri diwrnod yn Mai.

    Mae Asala yn dathlu genedigaeth y Bwdha.

    Dethlir Oban yn Siapan i gofio hynafiaid.

    Mae gan y Chineaid wyl debyg, Ddydd yr Eneidiau Coll.

    Gwyl Siapaneiadd arall yw Higan, lle'r offrymir gwedd茂au i'r meirw.

    Mae'r FIwyddyn Newydd yn wyl hynod o bwysig i Fwdhiaid gyda dathliadau yn amrywio o wlad i wlad ond ceir elfennau tebyg, fel anrhydeddu'r Bwdha, rhyddhau pysgod i afonydd, rhyddhau adar a gaethiwyd a chynnal gorymdeithiau.

    Yng Nghymru

    Mae canolfannau Bwdhaidd yng Nghaerdydd, Penrhos ger Raglan , Cwmbr芒n a Llangunllo (Powys).


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.