大象传媒

Sikhaeth

Rheinallt Thomas yn trafod Sikhaeth

Hanes

Cychwynnodd y grefydd Sikhaidd yn y Pan jab, (Pun jab).

Erbyn heddiw mae llawer o'r Panjab gwreiddiol yn rhan o Bakistan.

Roedd sefydlydd y grefydd Sikhaidd, Guru Nanak, yn byw yn y Panjab ddiwedd bymthegfed ganrif a chychwyn yr unfed ganrif ar bymtheg.

Yng nghyfnod Nanak, rheolid gogledd yr India gan y Mogyliaid Mwslimaidd ac yr oedd brwydr barhaus rhwng syniadau crefyddol yr Hindwiaid cynhennid a'r goresgynwyr Mwslimaidd, oedd yn awyddus i droi pawb at Islam.

O fewn y cyd-destun hwn, roedd Nanak yn awyddus i sefydlu cred newydd, na fyddai'n Hindwaidd nac yn Fwslimaidd.

Mae rhai credoau Sikhaidd yn adlewyrchu'r ymgais hon i resymoli'r ddwy grefydd.

Bu Deg Guru i gyd yn arwain y Sikhiaid nes i'r olaf ohonynt, Guru Gobind, farw ym 1708, gan adael y gwirionedd mewn llyfr Y Guru Granth Sahib.

Gorchmynnodd i'w ddilynwyr gredu yn y llyfr hwn yn unig.

Man addoli

Bydd y Sikhiaid yn addoli mewn Gurdwara - Teml Sikhaidd.

Gall fod ar unrhyw gynllun neu o unrhyw faint; gallant fod yn addurnedig neu yn ddigon plaen - y peth pwysig yw eu bod yn fannau lle gall Sikhiaid wedd茂o a rhannu eu credoau.

Ceir polyn gyda baner y Sikhiaid yn cwhwfan o flaen pob un ohonynt.

Oddi mewn bydd ystafell, un fawr fel rheol, lle bydd y Sikhiiaid yn gwedd茂o.

Ei phrif nodwedd yw'r Guru Granth Sahib a osodir yn y tu blaen ar y Takht - llwyfan ychydig yn uwch na gweddill yr ystafell fydd hwn.

Ar un ochr i'r Takht mae llwyfan lle bydd pobl yn chwarae cerddoriaeth ar gyfer yr emynau a'r ysgrythurau. Bydd pawb yn eistedd ar y llawr gerbron y Granth.

Mae pawb yn eistedd ar y llawr i ddangos fod pawb yn gyfartal gerbron Duw a neb yn well na'i gilydd.

Wedi'r gwasanaeth gall pobl fwyta Langar pe dymunent. Dyma'r arfer a gychwynnwyd gan y Guruaid i ddangos cydraddoldeb, ac i ymwrthod 芒'r gyfundrefn gast, pan na chaniateid i bawb gydeistedd.

Ysgrythurau Sanctaidd

Y Guru Granth Sahib yw enw cyfrol sanctaidd y Sikhiaid a phrif gyfraniad Guru Angad (y pumed guru) oedd cychwyn casglu testunau crefyddol y Sikhiaid at ei gilydd, a'r degfed guru (Guru Gobind Sing) gyhoeddodd na fyddai yr un Guru dynol arall, ond y byddai'r llyfr sanctaidd yn dywysydd iddynt yn eu bywydau.

Credoau

Cred Sikhiaid mai un Duw sydd a'i fod yn hollalluog ac yn greawdwr popeth. Felly, mae pob dyn yn frawd i'w gyd-ddyn, a merched yn chwiorydd i'w gilydd.

Mae llawer o'r Sikhiaid a fedyddiwyd yn llysieuwyr ond nid yw hyn yn rhan hanfodol o'u cred.

Dysgodd Nanak nad yw'r byd o anghenraid yr hyn y mae pobl yn tybio ei fod a thrwy fyfyrio ar Dduw ac ar y gwirionedd, gall pobl ganfod heddwch yn eu bywydau.

Mae Sikhaeth yn ddigon tebyg i Hindwaeth a Bwdhaeth mewn rhai agweddau, er enghraifft y gred mewn Karma sef y gred fod popeth a wna person yn ystod ei fywyd yn cael ei gofnodi.

Mae gan unigolion y dewis naill ai i wastraffu'r cyfle a chael eu hail eni'n is i lawr yn y drefn anifeilaidd, neu drwy gred a myfyrdod gallant ryddhau'r enaid o'r cylch diddiwedd o eni ac aileni, a chyrraedd Nirvana (neu Dduw).

Mae gwahaniaeth rhwng Nirvana'r Sikhiaid ac un y Bwdhiaid gan fod y Sikhiaid yn credu yn y syniad mwy traddodiadol o'r enaid yn ymuno 芒 Duw (fel yr Hindwiaid).

Yn wahanol i Hindwiaid, cred Sikhiaid fod pawb yn gyfartal, ac nid ydynt yn cydnabod y gyfundrefn gast.

Yn y grefydd Sikhiadd mae dynion a merched yn gydradd a gallant oll gael eu bedyddio drwy'r un ddefod.

Anogir Sikhiaid i weithio'n galed a chynorthwyo'r rhai llai ffodus.

Ystyrir bywyd yn rhodd gan Dduw, ac ni ddylid ei ddifetha gyda chyffuriau, alcohol nac ysmygu.

Fel mewn llawer crefydd, nid yw pawb yn ufudd i'r gorchmynion.

Y pum K

Mae pum symbol sy'n rhaid i Sikh caeth eu gwisgo bob amser.

Mae enw pob un yn cychwyn gyda K - a dyna un rheswm pam na ddylid byth a sillafu unrhyw ffurf o'r gair Sikh gydag c, dim ond k bob amser.

Y pump yw:

  • Kesh - peidio torri gwallt a gwisgo twrban (Keski);
  • Kanga- y crib o dan y twrban i ddynodi taclusrwydd;
  • Kacha- trowsus byr;
  • Kara - breichled ddur;
  • Kirpan - cleddyf defodol.

Gwyliau

Fel pob crefydd arall mae gan Sikhaeth lawer o wyliau a defodau. Dyma'r pwysicaf a'r mwyaf poblogaidd ohonynt:

  • Baisakhi yw gwyl blwyddyn newydd y Sikhiaid, a chynhelir hi ar Ebrill 13 bob blwyddyn. Yn yr India dyma gychwyn amser y cynhaeaf.

    Mae Baisakhi hefyd yn dathlu'r diwrnod hwnnw ym 1699 pan ffurfiodd Guru Gobind y Khalsa, neu'r frawdoliaeth. Bydd llawer o bobl yn dewis cael eu bedyddio ar y diwrnod hwn.


  • Mae Diwali yn wyl sy'n cael ei dathlu gan Sikhiaid a Hindwiaid a dyma'r dyddiad y rhyddhawyd Guru Har Gobind o garchar gan y Mogyliaid ac y goleuwyd y Deml Aur gyda miloedd o oleuadau.


  • Cynhelir Hola Mohallaym mis Mawrth, a dethlir hi gan bob Sikh.

    Yn Anandpur yn y Panjab, y bydd y cynulliad mwyaf fel rheol. Mae Gurpurbs yn dathlu llawer o ddigwyddiadau, yn bennaf ynglyn 芒'r Gurus. Bydd y rhain yn digwydd gydol y flwyddyn.

Sikhiaid a Chymru

Mae dwy Gurdwara yng Nghaerdydd ac un yn Abertawe.

Gwelir llawer o Sikhiaid mewn marchnadoedd ar hyd a lled Cymru a gellir adnabod rhai gan eu bod yn gwisgo twrban.

Yn 么l cyfrifiad 2001, yr oedd 0.1% o boblogaeth Cymru yn Sikhiaid (2,015).


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.