Rheinallt Thomas yn trafod crefydd Islam
Hanes
Islam yw un o'r crefyddau mwyaf poblogaidd ar y ddaear.
Ni ellir bod yn sicr ai hi yw'r grefydd fwyaf, ond mae'n parhau i gynyddu'n llawer cyf1ymach na Christnogaeth .
Cyn geni Muhammad, roedd rhai o'r credoau sy'n sylfaenol i Islam fel y mae heddiw, eisoes yn bodoli.
Ganwyd Muhammad ym Mecca - yn Saudi Arabia - ac roedd yn byw rhwng 570 a 632 O.C.
Credai iddo gael ei ddewis gan Allah (Duw) i ledaenu neges Islam ymhlith y bobl.
Yng nghyfnod Muhammad roedd amryw o grefyddau eraill yn bodoli yn y Dwyrain Canol a'r hynaf ohonynt oedd Iddewiaeth .
Crefydd gymharol newydd oedd Cristnogaeth ar y pryd.
Dilynai eraill grefyddau llai gan addoli ysbrydion a drigai mewn gwrthrychau fel afonydd a choed.
Lledaenodd Islam drwy'r Dwyrain Canol yn ystod ac ar 么l oes Muhammad.
Wedi iddo farw , bu ei bedwar olynydd,
- Abu Bakr
- Umar
- Uthman ac
- Ali
Yn raddol lledaenodd Islam i rannau helaeth o'r byd.
Man addoli
Gelwir y lle y mae Mwslimiaid yn addoli ynddo yn Mosg.
Man i gydwedd茂o yw Mosg, ac yn y rhai mwyaf mae yna hefyd fannau i gredinwyr astudio ac ystafelloedd i addysgu plant.
Gall maint y Mosg amrywio' n arw ac ym Mhrydain ceir hwy mewn adeiladau amrywiol iawn.
Yn y Dwyrain, mae'n llawer haws adnabod Mosg oherwydd y Minaret tal - sef math o dwr lle bydd y Muezzin yn galw'r ffyddloniaid i wedd茂o.
Mae glendid yn hynod bwysig i'r Mwslimiaid, a byddant yn golchi eu hwynebau, dwylo a thraed yn ddefosiynol cyn gwedd茂o.
Mae gan bob Mosg gyfleusterau ymolchi.
Cyn mynd i mewn i'r ystafell wedd茂o, bydd Mwslimiaid yn diosg eu hesgidiau.
Y dynion sy'n cydwedd茂o gan nad yw merched, fel rheol, yn mynychu'r Mosg ond yn gwedd茂o gartref.
Bydd Mwslimiaid yn gwedd茂o gan wynebu Mecca - sydd i'r dwyrain o Brydain - ac ar ddydd Gwener fel rheol.
Yr Imam fydd yn arwain y gwedd茂au.
Mewn Mosg bach, pregethwr lleyg yw'r Imam, ond yn y Mosgiau mawrion, mae'n swydd llawn amser.
Saif yr Imam o flaen y gynulleidfa gan wynebu'r Mihrab, (cilfach neu arwyddnod yn cyfeirio at Mecca), a dechrau gwedd茂o a'r gynulleidfa, hithau, yn ail adrodd ei wedd茂au ac yn efelychu ei symudiadau.
Bydd Mwslimiaid yn gwedd茂o bum gwaith bob diwrnod ar adegau penodedig.
Ysgrythurau Sanctaidd
Y Qur'an yw'r enw ar lyfr cysegredig y Mwslimiaid; weithiau caiff ei sillafu yn Koran.
Credir mai geiriau Duw yw'r darlleniadau o'r Qur'an: geiriau a adroddwyd wrth Muhammad gan yr Angel Gabriel.
Dysgodd hwy ar ei gof drwy eu hadrodd drosodd a throsodd am na allai ddarllen nac ysgrifennu.
Yna, byddai yn adrodd y geiriau hyn wrth ei ddilynwyr yn ei bregethau.
Yn ystod ei fywyd cofnodwyd sawl rhan o'r Qur'an ond dim ond wedi marwolaeth Muhammad y cynhyrchwyd y gyfrol gyflawn gyntaf ohono.
Ysgrifennwyd y Qur'an mewn Arabeg ond erbyn heddiw mae ar gael mewn sawl iaith.
Mae 114 Sura - pennod - yn y Qur'an.
Yn wahanol i lawer o grefyddau eraill, rhydd Islam gyfarwyddiadau manwl i'r dilynwyr sut i fyw eu bywydau bob dydd.
Mae gan Fwslimiaid lyfr arall y byddant yn ei ddarllen yn rheolaidd hefyd; Yr Hadith sy'n cynnwys llawer o ddywediadau a chynghorion.
Credoau
Mae Pum Piler credo sydd yn rhaid i Fwslimiaid eu harddel.
- Un Duw sydd, Allah, a Muhammad yw ei broffwyd (Shahadah).
- Mae'n rhaid gwedd茂o (Salat) bum gwaith bob diwrnod.
- Dylai Mwslim roi 2.5% o'i incwm mewn elusen (Zakat)
- Dylai Mwslim ymprydio (Sawm) a hynny'n arbennig yn ystod Ramadan.
- Dylai Mwslim geisio mynd ar Bererindod (Hajj) i Mecca o leiaf unwaith yn ei oes.
Gwyliau
Bydd Mwslimiaid yn dath1u llawer o wyliau gan ddibynnu i pa gangen o Islam maen nhw'n perthyn ac ym mha wlad y maent yn byw.
Dyma rai o'r gwyliau poblogaidd:
- Id-UI-Fitr (neu Eid) yw'r wyl sy'n dathlu diwedd Ramadan.
Wedi mis o ymprydio, bydd pobl yn gwisgo'u dillad gorau ac yn ymweld 芒 theulu neu ffrindiau ac yn gwledda am dri diwrnod.
Byddant yn mynychu'r Mosg ac yn gwedd茂o a diolch i Allah am roi'r nerth iddynt ddathlu Ramadan.
Yn y Gorllewin bydd pobl yn aml yn anfon cardiau gyda'r geiriau "Eid Mubarak" arnynt, sy'n golygu Eid Hapus. - Hijra yw'r wyl sy'n dathlu ymfudiad Muhammad o Mecca i Medina.
Sefydlwyd Islarn ym Medina cyn i Muhammad ddychwelyd i Mecca. - Pen-blwydd Muhammad - dethlir yr wyl hon am fis cyfan, ym mis Rabi'u1-Awwal yn 么l y calendr Mwslimaidd.
I'r Mwslimiaid y diwrnod y ganwyd y proffwyd oedd yn mynd i'w gwaredu yw'r diwrnod pwysicaf a fu erioed.
Mae llawer o wyliau a dathliadau eraill nad ydynt yn cael eu dilyn gan bawb gan ddibynnu i pa gangen o Islam y perthyn person iddi.
Mwslimiaid a Chymru
Mae Mwslimiaid yn byw ym mhob rhan o Gymru erbyn hyn gyda nifer yn siarad Cymraeg.
Mae amryw o fosgiau neu fannau cyfarfod mewn nifer o leoedd gan gynnwys Bangor, Y Rhyl, Cyffordd Llandudno, Caerdydd, Abertawe, Casnewydd.
Yng Nghymru Islam, ar 么l Cristnogaeth, yw'r ffydd fwyaf gyda'r rhan fwyaf o Fwslemaidd yn byw yng Nghaerdydd - 4 y cant o'r boblogaeth.
Yn 么l Cyfrifiad 2001 roedd Moslemiaid yn cyfrif am lai nag un y cant o'r boblogaeth yng Nghymru drwyddi draw - 22,000 o bobl.
O gefndiroedd Asiaidd y daw y rhan fwyaf o Foslemiaid, gan gynnwys 7,000 o Foslemiaid Pacistani a 5,000 o Foslemiaid Bangladeshi.
Tair mil o bobl wyn a ddywedodd eu bod yn Foslemiaid.