In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions
Rheinallt Thomas yn trafod 贬颈苍诲诺补别迟丑
Hanes
Yn wahanol i'r rhan fwyaf o grefyddau, nid oes gan 贬颈苍诲诺补别迟丑 broffwyd a osododd reolau, credoau a dull o fyw ar gyfer dilynwyr.
Datblygodd 贬颈苍诲诺补别迟丑 dros gyfnod maith ac ni ellir cyfeirio at unrhyw ddyddiad arbennig lle gellir dweud mai dyna pryd y cychwynnodd.
Gellir dweud i rai o'r credoau ddechrau datblygu rhwng 4,000 a 5,000 o flynyddoedd yn 么l yng ngogledd Yr India.
Ar ei ffurf gynharaf crefydd a gredai yng ngrymoedd natur oedd hi - yr haul, y m么r a'r gwynt.
Dros gyfnod o amser adeiladwyd temlau a chysegrfannau, a dechreuwyd ffurfioli'r grefydd.
Yn 1750 C.C. goresgynnwyd rhan o Ogledd India gan Ariaid, a ymsefyd1odd yno gan ddod 芒'u credoau eu hunain gyda hwy.
Cynhwysir yr ysgrifeniadau cynharaf yn y Veda, un o lyfrau sanctaidd yr Hind诺iaid.
Yr Ariaid a sefydlodd hefyd y Gyfundrefn Gast sy'n parhau yn rhan bwysig o fywyd Hind诺aidd hyd heddiw.
Daeth yr Hind诺iaid i gredu mewn un bod mawr, Brahman sydd mor fawr a hollalluog ei bod yn amhosibl i feidrolion ei ddirnad.
Maent yn credu mewn nifer o dduwiau, pob un ohonynt yn cynrychioli un rhan neu un agwedd o Brahman.
Mae tri phrif Dduw yn 么l credo'r Hind诺iaid:
- Brahma, Y Creawdwr;
- Vishnu, Yr Amddiffynnwr;
- Shiva, Y Dinistriwr.
Man addoli
Gelwir teml Hind诺aidd yn Mandir. Mae gan bron i bob pentref yn yr India ei deml ei hun a all fod yn adeilad mawr a adeiladwyd yn arbennig, neu yn adeilad bychan neu yn gysegrfan mewn t欧.
Adeiladwyd rhai temlau enwog yn y mannau lle credid i'r duwiau ymddangos ar y ddaear.
Bydd offeiriad Brahmin yn y rhan fwyaf o'r temlau a'u gwaith hwy yw cynnal y gysegrfan ac arwain y gwedd茂au yno.
Canolfan y gysegrfan yw'r man lle gosodir delw o'r Duw.
Fel rheol neilltuir teml i un prif dduw, gyda'r duwiau llai yn cael eu cynrychioli o gwmpas y prif allor.
Mae'r Brahmin yn gweithredu fel Cyfryngwr rhwng yr addolwyr a'r Duwiau.
Wrth fynd i mewn i'r temlau bydd pobl yn diosg eu hesgidiau ac yn cynnig rhoddion fel blodau a bwyd i'r duwiau.
Ni fydd y rhoddion hyn byth yn cynnwys cig, gan y cred Hindwiaid na ddylid lladd anifeiliaid.
Caiff y bwydydd a offrymir i'r Duwiau eu bwyta yn ddiweddarach gan y gynulleidfa fel bwyd a fendithiwyd (Prasada) gan y Duwiau.
Ceir tri phrif math o addoli yn y Mandir:
- Havan, lle mae i d芒n ran amlwg.
- Arti, sy'n cynnwys goleuo canhwyllau a gwedd茂o. Gosodir smotyn coch ar dalcen yr addolwyr fel arwydd eu bod wedi eu bendithio.
- Bhajanau - canu gwedd茂au ac emynau; fel rheol gan gynulleidfa fawr.
Ysgrythurau Sanctaidd
Mae gan 贬颈苍诲诺补别迟丑 nifer o lyfrau cysegredig a'r hynaf yw'r Veda.
Llyfr pwysig arall yw Deddfau Manu.
Mae llawer o'r llyfrau eraill ar ffurf barddoniaeth.
Ysgrifennwyd y Veda rhwng 1200 a 600 CC a hwn yw'r llyfr crefyddol hynaf sydd mewn bod.
Fel gyda llawer o'r crefyddau hynafol eraill, trosglwyddwyd y stor茂au ar lafar o genhedlaeth i genhedlaeth a dim ond yn y bymthegfed ganrif y cafwyd y ffurf ysgrifenedig lawn arno.
Rhennir y llyfr i dair prif adran. Yn y llyfr cyntaf emynau a geir gan fwyaf wedi eu cysegru i 33 o dduwiau.
Gelwir y llyfr hwn yn Rig-Veda, sy'n golygu Veda o fawl gyda dros 1000 o emynau ynddo.
Enw'r ail lyfr yw Brahmanau sy'n disgrifio'r gwahanol ddefodau gan egluro eu harwyddoc芒d .
Yr Upanishadau yw'r trydydd llyfr lle trafodir gwahanol agweddau ar ffydd gan gynnwys ailenedigaeth a Karma.
Mewn gwasanaethau crefyddol daw llawer o'r gwedd茂au o'r Veda, a daw rhai o'r emynau poblogaidd o'r Upanishadau.
Mae cyfieithiad Cymraeg o'r Bhagavad-Gita ar gael, Y Fendigaid G芒n gan Cyril G. Williams. (Gwasg Prifysgol Cymru, 1991).
Credoau
Rhaid i'r Brahmin fyw yn 么l Y Pum Dyletswydd Dyddiol:
- Rhaid iddynt addoli Brahman drwy Puja.
- Dylent ddarllen y Veda a pharchu'r seintiau.
- Dylent ddangos parch dyledus i hynafgwyr a rhieni.
- Dylent roi lloches a nawdd i'r tlawd a gw欧r sanctaidd.
- Dylent edrych ar 么l anifeiliaid gan eu bod hwythau hefyd yn greaduriaid i Dduw.
Gwyliau
Mae llawer o wyliau, dyma rai yn unig:
- Diwali, yr 诺yl sy'n dathlu'r flwyddyn newydd (yn 么l yr hen galendar) yn yr India. Cynhelir hi yn hwyr ym mis Hydref neu ddechrau Tachwedd gan ddibynnu ar y lleuad newydd. Mae'n dathlu dychweliad Rama a Sita i'w teyrnas. Mae'r hanes yn ymddangos yn llyfr y Ramayana. G诺yl y Goleuni yw Diwali.
- Navarati (y naw noson) yw'r 诺yl a neilltuir ar gyfer y Dduwies Durga, y symbol o famolaeth. Bydd yn parhau am naw diwrnod ac y mae'n dwyn i gof hen chwedlau am Rama a Sita.
- Rama-Navami yw'r 诺yl sy'n dathlu pen-blwydd Rama, a chynhelir hi ym Mawrth neu Ebrill. Bydd llawer o Hindwiaid yn ymprydio ar y diwmod hwn.
- Janmashtami yw'r 诺yl sy'n dathlu pen-blwydd Krishna. Dywedir fod Krishna yn ymgnawdoliad o'r Duw Vishnu.
- Shivarati yw'r 诺yl sy'n dathlu'r Duw Shiva. Bydd pobl yn aml yn ymprydio am bedair awr ar hugain, neu hyd yn oed am 36 awr. Dilynir hyn gyda gwledd.
Yng Nghymru
Mae temlau/cymunedau yng Nghaerdydd a Chasnewydd.