Gwrthryfel
yr Ifanc
Wedi ei fuddugoliaeth gyda 'Mab y Bwthyn' siom a gafodd Cynan pan gyfeiriodd
eto at y Rhyfel ac at fethiant cyn-filwr i ailganfod ei ffydd yn ei bryddest '
Y Tannau Coll' yn Eisteddfod Rhydaman ym 1922. 'Roedd y beirniaid wedi
syrffedu ar y s么n am ryfel, ac ni chafodd ei goroni. Enghraifft arall o wrthryfel yr ifanc oedd pryddest Prosser Rhys yn
Eisteddfod Pont-y-p^wl ym 1924 gyda'i s么n am ryw rhwng dau ddyn yn ei bryddest
'Atgof'.
Un arall o'r gwrthryfelwyr ifanc oeddd Caradog Prichard, prifardd coronog
deirgwaith yn olynol 1927 - 29, ond gwallgofrwydd yn hytrach nag anlladrwydd oedd
thema fawr ei bryddestau. Yn ei bryddest 'Penyd' a enilliodd Goron Eisteddfod Treorci ym 1928 fe gyfeiriodd yn 么l at y profiad dwys o weld ei
fam yn mynd yn wallgof.
Yn Nhreorci 'roedd Gwenallt, un arall o'r beirdd newydd a oedd yn
codi, hefyd yn adlewyrchu'r gwrthryfel yn erbyn yr hen safonau a'r hen ragrith. Yn
ei awdl 'Y Sant' fe gyfeiriodd at y nwydau rhywiol. Treiddiodd i mewn i
feddwl rhywiol-ganolog dyn, ond 'roedd y beirniaid wedi cael digon ac o'r
herwydd fe wrthodwyd ei gadeirio o.
Nid y beirdd oedd yr unig rai i wrthryfela. Rhan o'r broses o amddiffyn
Cymru rhag gorthrwm Prydeindod oedd ffurfio plaid newydd. Ysbrydolwyd sylfaenwyr y blaid newydd gan safiad y gwrthryfelwyr Gwyddelig adeg
Gwrthryfel y Pasg, 1916.
ymlaen...
|