大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cwpan y Byd 2006

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru

Chwaraeon

笔锚濒-诲谤辞别诲
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
笔锚濒-诲谤辞别诲 Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Newidiwyd diwethaf: 09 Mehefin 2006
Yr Almaen 4-2 Costa Rica

Llwyddodd yr Almaen i sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Costa Rica yng ng锚m agoriadol Cwpan y Byd 2006 yn yr Allianz Arena ym Munich.

> adroddiad y g锚m

PRIF DDIGWYDDIADAU

Sg么r Terfynol Yr Almaen 4-2 Costa Rica

87 mun: G么l - Yr Almaen 4-2 Costa Rica
Cafwyd taran o ergyd gan Torsten Frings o 30 llath sydd yn si诺r o sicrhau'r fuddugoliaeth i'r t卯m cartref yn y gwres ym Munich.

79 mun: Arbedodd Jose Porras yn wych o beniad Per Mertesacker o fewn y cwrt bach.

73 mun: G么l - Yr Almaen 3-2 Costa Rica
Cafwyd llygedyn o obaith i'r t卯m o Ganol America wrth i Paolo Wanchope gasglu pas gelfydd Walter Centeno i rwydo ei ail g么l yntau.

71 mun: Mae Jurgen Klinsmann wedi penderfynu dod 芒 chwaraewr canol cae amddiffynnol i'r maes wrth iddo eilyddio Tim Borowski a gyrru Sebastian Kehl i'r maes.

61 mun: G么l - Yr Almaen 3-1 Costa Rica
Llwyddodd Miroslav Klosse i rwydo ei ail g么l er i Jose Porras arbed ei gynnig cyntaf yn wych. Ymosodwr Werder Bremen oedd y cyntaf i ymateb i'r b锚l rydd i ymestyn mantais y t卯m cartref.

54 mun: Llwyddodd Danny Fonseca i gyrraedd pas o gic gosod unwaith eto, ond y tro hyn cafodd Costa Rica eu cosbi am rwystro amddiffynwyr Yr Almaen

51 mun: Cododd Torsten Frings y b锚l i mewn i'r cwrt cosbi o gic gornel Bastian Schweinsteiger ond methodd Lukas Podolski 芒 chasglu'r bas.

48 mun:Llwyddodd Danny Fonseca i ganfod ei hun yn rhydd yn y cwrt cosbi o gic gornel ond yn ffodus i'r t卯m cartref aeth ei beniad ymhell heibio'r postyn.

Hanner Amser: Yr Almaen 2-1 Costa Rica

43 mun: Gwibiodd cic gornel Bastian Schweinsteiger ar draws wyneb y g么l gyda Miroslav Klosse yn methu 芒 chysylltu 芒'r b锚l cyn i Christoph Metzelder daro'r b锚l ymhell heibio'r postyn.

39 mun: Tarodd Lukas Podolaski gic rydd o 30 llath dros y trawst wrth i'r Almaen geisio ymestyn eu mantais.

37 mun: Roedd dihangfa i'r Almaen wrth i Paolo Wanchope gasglu'r b锚l ar ochr y cwrt cosbi, ond cododd y dyfarnwr cynorthwyol ei luman i ddynodi ei fod yn camsefyll.

34 mun: Mae'r Almaen yn dechrau gosod eu stamp ar y g锚m gan reoli'r chwarae a'r meddiant - yn wir, yr unig beth mae golwr Yr Almaen, Jens Lehmann, wedi gorfod ei wneud hyd yma yw casglu'r b锚l o gefn y rhwyd wedi g么l Paolo Wanchope.

30 mun: Mae amddiffyn Costa Rica yn rhoi gormodedd o le i chwaraewyr canol cae'r Almaen. Mae Bernd Schneider a Bastian Schweinsteiger yn cael modd i fyw i lawr yr esgyll

22 mun: Er yr holl goliau, ni fydd y naill reolwr na'r llall yn rhy hapus 芒 pherfformiad ei d卯m hyd yma gan fod y pasio'n llac a'r cyffyrddiadau'n ddiog.

17 mun: G么l - Yr Almaen 2-1 Costa Rica
Dathlodd Miroslav Klosse ei ben-blwydd yn 28 ag ail g么l i'r Almaenwyr. Llwyddodd Bastian Schweinsteiger i chwarae pas gelfydd ar draws y cwrt chwech lle'r oedd Klosse yn disgwyl i basio'r b锚l i'r rhwyd.

12 mun: G么l - Yr Almaen 1-1 Costa Rica
Cadwodd Paolo Wanchope ei ben wrth guro'r trap camsefyll o bas Ronald Gomed ac ergydiodd y b锚l heibio Jens Lehmann i ddod 芒 Costa Rica'n gyfartal.

Er bod amddiffynwyr Yr Almaen yn gandryll 芒'r dyfarnwr cynorthwyol, mae lluniau teledu'n profi nad oedd Wanchope yn camsefyll.

9 mun: Derbyniodd Miroslav Klosse bas Bastian Schweinsteiger yn y cwrt cosbi ond llwyddodd golwr Costa Rica, Jose Porras, i arbed yn ddewr wrth draed ymosodwr Yr Almaen.

6 mun: G么l - Yr Almaen 1-0 Costa Rica
Llwyddodd Philipp Lahm i grymanu'r b锚l yn hyfryd o ochr chwith y cwrt cosbi i gornel dde'r rhwyd i rwydo g么l agoriadol Cwpan y Byd 2006.

3 mun: Crafodd Torsten Frings y trawst ag ergyd o bell.

NEWYDDION

Ni fydd capten Yr Almaen, Michael Ballack, yn chwarae yn erbyn Costa Rica er iddo ddweud ei fod wedi gwella o anaf i'w goes.

Mae'r rheolwr, Jurgen Klinsmann, wedi dewis rhoi hoe i chwaraewr canol cae Chelsea gan ddewis Tim Borowski yng nghanol cae.

Bernd Schneider sydd yn arwain Yr Almaen i'r maes yn absenoldeb Michael Ballack ac mae'r tensiwn yn amlwg ar wynebau Paolo Wanchope a'i gyd chwaraewyr o Costa Rica wrth iddynt gamu i'r maes sydd bron yn llawn o Almaenwyr.

Mae un cornel bychan o'r Allianz Arena yn goch gyda chefnogwyr y gw欧r o Ganol America yn chwifio eu baneri.

TIMAU

Yr Almaen: Lehmann, Friedrich, Mertesacker, Metzelder, Lahm, Schweinsteiger, Frings, Borowski, Schneider, Podolski, Klose.

Eilyddion: Asamoah, Ballack, Hildebrand, Hitzlsperger, Huth, Jansen, Kahn, Kehl, Neuville, Nowotny, Odonkor.

Costa Rica: Porras, Marin, Umana, Gonzalez, Martinez, Fonseca, Solis, Centeno, Sequeira, Gomez, Wanchope.

Eilyddion: Alfaro, Azofeifa, Badilla, Bernard, Bolanos, Drummond, Hernandez, Mesen, Nunez, Rodriguez, Saborio, Wallace.

Dyfarnwr: Horacio Marcelo Elizondo (Ariannin)


chwaraeon
Hanes y Gwpan
Y Timau


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy