大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cwpan y Byd 2006

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru

Chwaraeon

笔锚濒-诲谤辞别诲
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
笔锚濒-诲谤辞别诲 Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Newidiwyd diwethaf: 09 Mehefin 2006
Yr Almaen 4-2 Costa Rica

Llwyddodd Yr Almaen i sicrhau buddugoliaeth yn eu g锚m agoriadol yng Nghwpan y Byd, ond roedd eu perfformiad ymhell o fod yn un cadarn yn y gwres ym Munich.


Cafodd y t卯m cartref y dechrau perffaith wrth i Phillipe Lahm grymanu'r b锚l i gornel ucha'r rhwyd o gornel y cwrt cosbi wedi chwe munud.

Ond roedd Costa Rica'n gyfartal o fewn chwe munud wrth i gyn ymosodwr Derby County, West Ham a Manchester City, Paolo Wanchope, guro'r trap camsefyll i rwydo heibio Jens Lehmann.

Daeth y t卯m cartref yn 么l 芒 dwy g么l gan Miroslav Klosse, oedd yn dathlu ei ben-blwydd yn 28-mlwydd-oed, naill ochr i'r egwyl.

Ac er i Paolo Wanchope gasglu ei ail g么l i roi llygedyn o obaith i'r Ticos, rhwydodd Torsten Frings 芒 tharan o ergyd i sicrhau'r fuddugoliaeth i d卯m Jurgen Klinsmann.

Ond bydd cyn ymosodwr Spurs yn ymwybodol iawn bod gemau llawer mwy anodd yn wynebu ei d卯m gan fod Costa Rica wedi rhoi digonedd o le i chwaraewyr canol cae'r Almaen.

Ac roedd hynny'n amlwg wrth i Danny Fonseca ganiat谩u Lahm i grymanu'r b锚l yn hyfryd i gornel uchaf g么l Jose Porras.

Gyda'r Almaenwyr yn bygwth sgorio gyda phob ymosodiad cafwyd sioc i'r cefnogwyr cartref wrth i Wanchope amseru ei rediad yn berffaith i rwydo heibio Lehmann wedi 12 munud.

Ond dim ond am bum munud oedd y dorf yn dawel wrth i Klose, oedd yn benderfynol o ddathlu ei ben-blwydd 芒 buddugoliaeth, rwydo o groesiad isel Bernd Schneider.

Fe ddylai'r gw欧r o Ganol America fod wedi dod yn gyfartal am eildro ar ddechrau'r ail hanner ond methodd Fonseca 芒 rheoli ei beniad wedi iddo gael ei hun yn rhydd yn y cwrt cosbi.

Ac er i'r Almaen reoli'r meddiant a'r chwarae, roedd eu hamddiffyn yn fregus pob tro roedd y Ticos yn ymosod.

Er hynny, dyblwyd mantais y t卯m cartref wedi 61 munud wrth i Klose ymateb yn gynt na neb wedi Porras arbed ei beniad er mwyn rhwydo ei ail g么l.

Ond gwrthododd Costa Rica ag ildio wrth i Wanchope rwydo ei ail g么l o bas gelfydd Walter Centeno a sicrhau rhai munudau nerfus i Klinsmann.

Ond Frings gafodd y gair olaf 芒 g么l oedd hyd yn oed yn well na g么l agoriadol Lahm wrth iddo daro taran o ergyd o 30 llath grymanodd i gornel ucha'r rhwyd.

TIMAU

Yr Almaen: Lehmann, Friedrich, Mertesacker, Metzelder, Lahm, Schweinsteiger, Frings, Borowski, Schneider, Podolski, Klose.

Eilyddion: Asamoah, Ballack, Hildebrand, Hitzlsperger, Huth, Jansen, Kahn, Kehl, Neuville, Nowotny, Odonkor.

Costa Rica: Porras, Marin, Umana, Gonzalez, Martinez, Fonseca, Solis, Centeno, Sequeira, Gomez, Wanchope.

Eilyddion: Alfaro, Azofeifa, Badilla, Bernard, Bolanos, Drummond, Hernandez, Mesen, Nunez, Rodriguez, Saborio, Wallace.

Dyfarnwr: Horacio Marcelo Elizondo (Ariannin)


chwaraeon
Hanes y Gwpan
Y Timau


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy