> adroddiad y g锚m
Sg么r Terfynol Serbia a Montenegro 0-1 Yr Iseldiroedd
83 mun: Mae'r gwres yn golygu fod y g锚m wedi arafu cryn dipyn ac er fod Yr Iseldiroedd yn canfod bylchau yn amddiffyn
Serbia a Montenegro wrth iddynt geisio dod yn gyfartal, nid ydynt yn gallu manteisio.
77 mun: Crymanodd Arjen Robben cic rydd ar draws wyneb y g么l ond yn ffodus i Serbia a Montenegro, methodd unrhyw Iseldirwr 芒 chysylltu 芒'r b锚l.
71 mun: Methodd Nikola Zigic 芒 chael peniad lan ar y b锚l ac er i'r Iseldiroedd fethu 芒 chlirio, ergyd wan gafwyd gan Ognjen Koroman.
68 mun: Mae Ruud van Nistelrooy yn gadael y maes er mwyn gwneud lle i Dirk Kuyt o Feyenoord.
66 mun: Serbia yn eilyddio eu trydydd chwaraewr wrth i Danijel Ljuboja ddod i'r maes yn lle Mateja Kezman
64 mun: Tarodd Dejan Stankovic gic rhydd o ochr y cwrt cosbi ymhell dros y trawst. Roedd disgwyl llawer gwell gan chwaraewr canol cae Inter Milan.
59 mun: Marco van Basten yn penderfynu eilyddio Mark van Bommel a dod 芒 Denny Landzaat o AZ Alkmaar, i'r maes.
48 mun: Mae'r gwyr o Serbia a Montenegro ar dan ar ddecrau'r ail hanner gan bwyso am gyfnod hir yn chwilio am y g么l fyddai'n dod 芒 hwy'n gyfartal.
46 mun: Ilija Petkovic yn dewis eilyddio Savo Milosevic gan ddod ag ymosodwr Red Star Belgrade, Nikola Zigic, i'r maes yn ei le.
Hanner Amser: Serbia a Montenegro 0-1 Yr Iseldiroedd
37 mun: Gwnaeth Robin van Persie'n dda i gael ei hun yn rhydd o'r amddiffyn yng nghwrt cosbi Serbia a Montenegro, ond peniodd yn syth i ddwylo Dragoslav Jevric.
36 mun: Crymanodd Arjen Robben ergyd fodfeddi heibio'r postyn o ochr chwith y cwrt cosbi.
29 mun: Tarodd Mateja Kezman beniad heibio'r postyn o groesiad hyfryd gan Predrag Djordjevic o'r dde.
21 mun: Arbedodd Dragoslav Jevric yn wych o ergyd arall gan Arjen Robben
18 mun: G么l - Serbia a Montenegro 0-1 Yr Iseldiroedd
Llwyddodd Arjen Robben i guro'r trap camsefyll ac er i Goran Gavrancic geisio ei dynnu yn 么l gerfydd ei grys, llwyddodd Robben i sicrhau mai ef yw'r trydydd chwaraewr o Chelsea i sgorio yng Nghwpan y Byd hyd yma.
14 mun: Brwydrodd Savo Milosevic heibio Giovanni van Bronckhorst ar ochr y cwrt cosbi ond ergydiodd yn syth i ddwylo Edwin van der Sar.
12 mun: Dihangfa i'r Iseldiroedd wrth i Mateja Kezman a Savo Milosevic fyn ar draws eu gilydd wrth geisio am groesiad ar draws y cwrt bach.
1 mun: Cyffyrddiad cyfforddus cyntaf i golwr Serbia a Montenegro, Dragoslav Jevric, wrth iddo gasglu peniad Arjen Robben.
1355 BST: Ysgrifennydd Cymdeithas B锚l-droed Cymru, David Collins, sydd yn arwain y timau i'r maes yn ei r么l fel trefnydd gemau Cwpan y Byd yn Leipzig.
NEWYDDION
Bydd Goran Gavrancic yn chwarae i Serbia a Montenegro gan fod amddiffynnwr Manchester United, Nemanja Vidic, wedi ei wahardd.
O ran Yr Iseldiroedd, bydd Philip Cocu, Gio van Bronckhorst a Wesley Sneijder yn chwarae wedi iddynt basio profion ffitrwydd.
TIMAU
Serbia a Montenegro: Jevric, Dragutinovic, Gavrancic, Nenad Djordjevic, Krstajic, Duljaj, Stankovic, Predrag Djordjevic, Nadj, Kezman, Milosevic.
Eilyddion: Basta, Dudic, Ergic, Ilic, Koroman, Kovacevic, Ljuboja, Stojkovic, Vukic, Zigic.
Yr Iseldiroedd: Van der Sar, Heitinga, Mathijsen, Ooijer, Van Bronckhorst, Sneijder, Van Bommel, Cocu, Van Persie, van Nistelrooy, Robben.
Eilyddion: Babel, Boulahrouz, De Cler, Jaliens, Kromkamp, Kuyt, Landzaat, Maduro, Stekelenburg, Timmer, Van der Vaart, Vennegoor of Hesselink.
Dyfarnwr: Markus Merk (Yr Almaen)