Amserodd ymosodwr Chelsea ei rediad yn berffaith er mwyn casglu pas gelfydd Robin van Persie a charlamu i'r cwrt cosbi cyn rhwydo o dan gorff Dragoslav Jevric.
Fe ddylai'r Oranje fod wedi dyblu eu mantais cyn yr egwyl gyda Robben a van Persie yn mynd yn agos 芒 sawl ergyd.
Roedd yn amlwg fod Serbia a Montenegro wedi cael pryd o dafod ar yr egwyl gan iddynt ddod allan ar gyfer yr ail hanner ar dan.
Ond er i Pedrag Djordjevic greu llu o gyfleoedd i lawr yr esgyll, methodd yr ymosodwyr 芒 manteisio a bydd yn dasg enfawr iddynt ddod allan o gr诺p sydd hefyd yn cynnwys Ariannin a Cote d'Ivoire.
TIMAU
Serbia a Montenegro: Jevric, Dragutinovic, Gavrancic, Nenad Djordjevic, Krstajic, Duljaj, Stankovic, Predrag Djordjevic, Nadj, Kezman, Milosevic.
Eilyddion: Basta, Dudic, Ergic, Ilic, Koroman, Kovacevic, Ljuboja, Stojkovic, Vukic, Zigic.
Yr Iseldiroedd: Van der Sar, Heitinga, Mathijsen, Ooijer, Van Bronckhorst, Sneijder, Van Bommel, Cocu, Van Persie, van Nistelrooy, Robben.
Eilyddion: Babel, Boulahrouz, De Cler, Jaliens, Kromkamp, Kuyt, Landzaat, Maduro, Stekelenburg, Timmer, Van der Vaart, Vennegoor of Hesselink.
Dyfarnwr: Markus Merk (Yr Almaen)