Ond roedd diweddglo dadleuol i'r gystadleuaeth wedi Crane fethu 芒 chwblhau ei naid olaf.
Penderfynodd y Gymraes, oedd yn 10ed ym Manceinion pedair blynedd yn 么l, i dynnu yn 么l o'i thrydydd cais i glirio 1.91m ar yr eiliad olaf.
Ond tra bo Crane yn paratoi i neidio eto, cododd y swyddog ei lliman goch i ddynodi fod Crane wedi croesi o dan y bar.
> Teimladau cymysg gan Crane
Yn y sgw芒r bocsio, llwyddodd Kevin Evans i ddod 芒 bore siomedig i'r Cymru i ben 芒 buddugoliaeth wych dros Steven Paul Rudic o Awstralia yn rownd gynderfynol y pwysau go-drwm.
Mae Evans yn sicr o fedal arian ar y lleiaf yn y rownd derfynol ddydd Sadwrn.
Ond bu rhaid i tri o focswyr Cymru fodloni ar fedal efydd wedi iddynt golli eu rowndiau cynderfynol yn erbyn bocswyr o Loegr fore Iau.
> Evans y gobaith olaf am aur
MANYLION GEMAU'R GYMANWLAD
>
Tabl y medalau
> Canlyniadau Iau 23 Mawrth
ATHLETAU
Cafodd Rhys Williams ras wych gan sicrhau record Cymreig o 49.09 eiliad wrth orffen yn bedwerydd yn rownd derfynol y 400m dros y clwydi.
Sicrhaodd ei amser gorau erioed am y trydydd tro yn ystod y Gemau gan dorri record Matt Elias yn y broses.
> Record Gymreig i Rhys
Ond methodd Hayley Tullett, gafodd efydd yn y 1500m, 芒 chyrraedd rownd derfynol yr 800m wedi gorffen yn chweched yn y ras gynderfynol.
> Tullett i ymddeol
BADMINTON
Collodd Kelly Morgan, yn nhrydedd rownd senglau'r merched yn rerbyn prif ddetholyn Prydain, Tracey Hallam o Loegr.
Ac wedi'r g锚m, cyhoeddodd pencampwraig Kuala Lumpur 1998, ei bod yn ymddeol o gystadlu yn y senglau.
Ond roedd llwyddiant i Jonathan Morgan a James Phillips wrth i'r p芒r gyrraedd rownd yr wyth olaf o gystadleuaeth dyblau'r dynion lle byddent yn cyfarfod Choong a Wong o Malaysia.
BOCSIO
Collodd Mohammed Nasir yn erbyn Darran Langley o Loegr, gafodd y fedal arian ym Manceinion yn 2002, yn yr adran is-bry.
Llwyddodd Stephen Smith i drechu Darren Edwards yn yr adran pwysau plu a bu rhaid i Jamie Creese ymddeol o'i ornest pwysau is-welter (64kg) 芒 James Russan wedi'r Sais dorri ei drwyn yn y rownd gyntaf .
BOWLS
Mae Elizabeth Morgan drwodd i'r rownd gynderfynol o senglau'r merched wedi iddi drechu Litia Tikoisuva o Fiji yn rownd yr wyth olaf.
Ac mae Robert Weale hefyd drwodd i'r rownd gynderfynol o gystadleuaeth y dynion lle bydd yn herio Ryan Bester o Ganada.
CODI PWYSAU
Methodd Terry Perdue ag efelychu camp ei dad, Terry, wedi iddo orffen yn bumed yn y codi pwysau i ddynion 105kg+.
Llwyddodd Terry, y tad, i gipio medalau efydd yng Nghaeredin ym 1970 ac yn Christchurch ym 1974.
SAETHU
Daeth Sian Corish o fewn trwch blewyn i gipio medal efydd ar y maes saethu wrth iddi orffen yn bedwerydd yn y gystadleuaeth saethu reiffl mewn tri ystum dros 50m.
Gorffennodd ei hefaill, Jennifer, yn 18ed yn yr un gystadleuaeth.
TENIS BWRDD
Mae Adam Robertson drwodd i rownd yr wyth olaf o senglau'r dynion lle bydd yn wynebu Alan Cooke o Loegr ddydd Gwener.
Ond roedd siom i Ryan Jenkins wedi iddo golli g锚m hynod gyffrous yn erbyn Segun Toriola o Nigeria.
A bydd Robertson a Jenkins, gafodd arian ym Manceinion, yn herio Cooke a Drinkhall o Loegr yn rownd yr wyth olaf o ddyblau'r dynion fore Gwener.