大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Neuadd y Dref Rhydaman Hanes Dyffryn Aman
Mae Dyffryn Aman yn gorwedd yn nwyrain Sir Gaerfyrddin, i'r gorllewin o Gwm Tawe ac yn rhan ogleddol maes glo De Cymru.

Diwydiant cynnar
Yr hen enw ar y dyffryn oedd Dyffryn Amanw. Dyma'r dyffryn lle bu Arthur yn hela'r Twrch Trwyth. Ar 么l bod ar drywydd y twrch yn nyffryn Llwchwr, yn 么l yr hanes "oddiyno yr aeth hyd yn nyffryn Amanw".

Dyffryn diwydiannol yw Dyffryn Aman a ddatblygodd o amgylch y diwydiannau glo, haearn a thun a ffynnodd yma yn y 18fed a'r 19eg ganrif. Cyn hynny dibynnai economi'r ardal ar amaeth, ond roedd y tir yn ddiffaith o'i gymharu 芒 thiroedd ffrwythlon Dyffryn Tywi.

Yna mewn cyfnod cymharol fyr trodd y gymuned wledig yn gymuned ddiwydiannol a thyfodd y pentrefi bychain yn gyflym wrth i weithwyr y diwydiannau newydd ymsefydlu yma.

Disgrifiodd Aneirin Talfan Davies yr ardal hon fel 'gwlad y pyramidiau'. Y tipiau glo oedd i'w gweld ymhob cyfeiriad oedd y pyramidiau hyn wrth gwrs.

Dechreuodd cloddio masnachol yn yr ardal yn y 1750au. Yn 1750 agorodd Edward Martin o Gwm Twrch nifer o lofeydd yn yr ardal . Y cofnod cynharaf sydd o lofa yn Nyffryn Aman yw ym 1757 pan adeiladwyd glofa ym Mrynlloi ger Glanaman.

Ym 1836 datblygodd y ffwrnais yn yr ardal ac o ganlyniad agorwyd nifer o weithfeydd haearn yma. Roedd gweithfeydd Aman yn Garnant yn dyddio o'r cyfnod hwn. Roedd y gweithfeydd hynny yn defnyddio haearn o Frynaman, calch o'r Mynydd Du a glo o'r dyffryn. Yn ddiweddarach dechreuwyd tynnu haearn o ardaloedd Cwmllynfell a Chwm Twrch.

Gorsaf GlanamanYm 1840 ymestynnwyd y rheilffordd oedd yn mynd o Lanelli i Rydaman fel ei fod yn ymestyn i Frynaman. Canlyniad hyn fu datblygiad y maes glo yn rhan uchaf Dyffryn Aman. Gorffennwyd y gwaith ym 1860 pan osodwyd lein o Ystalyfera i Frynaman. Roedd y rheilffordd newydd felly yn cysylltu Dyffryn Aman 芒 Llanelli ac Abertawe.

Yn ddiweddarach datblygodd y gweithfeydd tunplat yn yr ardal ac ym 1872 agorwyd ffatri tunplat ym Mrynaman. Yn niwedd y 1870au a dechrau'r 1880au agorwyd nifer o weithfeydd tunplat yn ardal Cwm Twrch.

Yn yr un cyfnod bu t诺f sydyn yn y boblogaeth. Penderfynodd nifer o'r trigolion lleol adael eu ffermydd bychain a mynd i weithio i'r diwydiannau newydd hyn. Daeth ffermwyr o Orllewin Cymru i weithio yma hefyd. Roedd hyn yn newid mawr mewn ardal a oedd cyn hynny wedi dibynnu ar amaeth.

Erbyn heddiw mae pob un o'r pyllau wedi diflannu'n llwyr. Y pwll olaf i'w gau o'r chwe glofa yn y cwm oedd Glofa Gelliceidrim yng Nglanaman. Roedd gan y lofa hon dip glo anferth a oedd yn ymestyn tua hanner ffordd ar hyd y cwm. Fe'i caewyd ym 1957.

O'r pyllau i'r ffatr茂oedd
Gweithdai GlanamanWedi dirywiad y diwydiant glo dechreuodd ffatr茂oedd sefydlu yn yr ardal er mwyn darparu gwaith yn lle'r glofeydd a'r hen ddiwydiant alcam. Erbyn heddiw mae yma nifer o stadau diwydiannol a pharciau busnes.

Ym mhen uchaf y dyffryn ar drothwy Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog mae pentref Brynaman. Mae'r pentref hwn wedi ei rannu'n ddau sef Brynaman Uchaf a Brynaman Isaf.

Yn is i lawr y dyffryn mae pentrefi Garnant, Glanaman a Gwauncaegurwen. Ger Gwauncaegurwen sefydlwyd pentref newydd gan berchnogion y lofa ar gyfer y gweithwyr sef Tai'r-gwaith. Ond roedd y pentref hwn yn eithriad. Tai yr oedd yr unigolion wedi eu hadeiladu eu hunain oedd y mwyafrif o'r tai yn Nyffryn Aman.

Rhydaman
Stryd RhydamanPrif ganolfan y dyffryn yw Rhydaman. Yn ystod y 18fed ganrif mae'n debyg bod Rhydaman yn fan gorffwys i deithwyr y goets fawr wedi iddyn nhw groesi'r afon Aman ar y ffordd o Abertawe i Landeilo.

Yn y cyfnod hwnnw roedd y ffordd yn rhedeg wrth droed mynydd Betws, gan fynd o Bontarddulais drwy Garnswllt i Betws. Roedd teithwyr y goets yn croesi'r afon yma mewn lle o'r enw Cross Inn. Ym mis Rhagfyr 1880 newidiwyd enw Cross Inn i Rydaman.

Enwogion yr ardal
Fel pob ardal mae gan Ddyffryn Aman ei henwogion. Un o'r rhain yw'r perfformiwr Ryan Davies. Ryan DaviesCafodd Thomas Ryan Davies ei eni yng Nglanaman ar Ionawr 22, 1937. Mae'n cael ei gofio fel perfformiwr, actor, cyfansoddwr ac aelod o'r ddeuawd boblogaidd Ryan a Ronnie.

Yng Ngwaun-Cae-Gurwen y magwyd Gareth Edwards, un o chwaraewyr rygbi gorau Cymru erioed. Llwyddodd y mewnwr hwn i ennill cymaint 芒 53 o gapiau mewn 10 mlynedd, cyfanswm anhygoel, y gorau yn y byd. Ni chafodd ei ollwng o d卯m Cymru erioed.

Enillodd ei gap cyntaf ym 1967 a hynny yn erbyn Ffrainc, dim ond tri mis wedi iddo ddathlu ei benblwydd yn ugain oed. Roedd eisoes wedi dod i amlygrwydd y flwyddyn honno am ei berfformiad gwych yn nhaith Clwb Rygbi Caerdydd i Dde Affrica.

Y flwyddyn ganlynol daeth yn gapten rhyngwladol yn yr ornest rhwng Cymru a'r Alban, y capten rhyngwladol ieuengaf a welodd Cymru erioed. Bu'n gapten Cymru 13 o weithiau i gyd yn ystod ei yrfa.

Brodor arall o'r dyffryn hwn oedd Jim Griffiths (1890-1975). Ef oedd Aelod Seneddol cyntaf Llanelli, Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru ac un o wleidyddion enwocaf Dyffryn Aman.

Un noson ym 1908 fe aeth Jim Griffiths, oedd yn gweithio ym mhwll glo Betws ar y pryd, i gyfarfod wedi ei drefnu gan y Blaid Lafur Annibynnol yn Rhydaman. Ffurfiodd y blaid gangen yn Rhydaman ac ymunodd Jim Griffiths. Cyn diwedd y flwyddyn roedd wedi ei benodi'n ysgrifennydd. Dyma ddechrau ei yrfa wleidyddol faith.

Ym misoedd olaf llywodraeth Attllee daeth yn Ysgrifennydd Trefedigaethol. Yna pan gollodd Llafur eu grym ym 1951 a 1955 daeth yn ddirprwy arweinydd y blaid. Yn y cyfnod hwn hefyd dewiswyd ef yn llefarydd ar Faterion Cymreig. Bum mlynedd wedyn daeth Llafur i rym eto a daeth Harold Wilson yn Brif Weinidog. Rhoddodd ef swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru a sedd yn y cabinet i Jim Griffiths.

Gwleidydd arall o'r ardal yw Neil Hamilton, g诺r o Rydaman. Mae wedi ei ddisgrifio fel y g诺r sydd wedi dod 芒'r gwarth mwyaf ar y dref honno.

Cafodd ei iselhau gyntaf ym 1994. Y tro hwnnw cafwyd ef yn euog o dderbyn arian gan berchennog Harrods, Mohammed al Fayed, am ofyn cwestiynau ar ei ran yn y senedd. Gorfodwyd ef i ymddiswyddo o'i swydd fel dirprwy weinidog yn yr adran Fasnach a Diwydiant. Yna ym 1997 daeth ymchwiliad seneddol i'r casgliad ei fod yn euog.

Yna ym mis Awst 2001 cyhuddwyd ef a'i wraig Christine o fod 芒 rhan mewn digwyddiad o dreisio. Rhyddhawyd y ddau ar fechn茂aeth yr heddlu heb eu cyhuddo. Penderfynodd yr heddlu wedyn nad oedd digon o dystiolaeth i barhau 芒'r achos.

Dyffryn Aman yw ardal enedigol y darlledwr Roy Noble hefyd. Roy NobleCafodd ef ei fagu ym Mrynaman ac fe'i addysgwyd yn Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman, Rhydaman.

Dechreuodd Roy Noble ar yrfa fel athro cyn symud i'r byd darlledu ym 1980 pan gafodd swydd gyda Radio Wales y 大象传媒. Mae'n darlledu ei raglen bob bore. Mae hefyd wedi gweithio ym myd y teledu a daeth yn wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C fel cyflwynydd y rhaglen nosweithiol Heno.

Beirdd yr ardal
Mae Dyffryn Aman wedi cynhyrchu nifer o feirdd hefyd. Un o'r rhain yw'r prifardd Bryan Martin Davies. Enillodd ef y goron ym 1970 ac 1971 a chyhoeddodd bum cyfrol o gerddi. Cafodd ef ei eni a'i fagu ym Mrynaman er y treuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd yn gweithio fel athro yn ardal Wrecsam. Mae'r ddwy ardal, sy'n gwbl wahanol, yn ganolog i'w farddoniaeth. Ar un llaw ceir pentref diwydiannol gyda chymuned dosbarth gweithiol gl貌s Gymraeg ei hiaith ac ar y llaw arall ardal drefol gyda phoblogaeth gymysg lle mae'r Gymraeg yn colli ei thir. Ond cerdd am Frynaman a enillodd y goron iddo yn Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman ym 1970 gyda'r dilyniant 'Darluniau ar gynfas'.

Bardd arall o'r ardal oedd Watcyn Wyn. Cafodd ei eni a'i fagu ym Mrynaman. Pan oedd yn wyth oed dechreuodd weithio dan ddaear yn y pyllau glo. Ond ym 1874 aeth i astudio i Goleg Presbyteraidd Caerfyrddin er mwyn paratoi at y weinidogaeth. Ond yn annisgwyl ni aeth i'r weinidogaeth a daeth yn enwog fel prifathro Ysgol y Gwynfryn, Rhydaman.

Mae wedi cyhoeddi nifer o gyfrolau barddoniaeth, cyfieithiad o emynau Sankey a Moody a dwy nofel a ysgrifennodd ar y cyd gydag Elwyn Thomas. Ei emyn enwocaf yw'r un sy'n dechrau 芒'r geiriau "Rwy'n gweld o bell....". Enillodd y Goron ym 1881 a'r Gadair ym 1885. Yn olaf rhaid crybwyll Nantlais, gwr a fu am flynyddoedd yn weinidog capel Bethany, Rhydaman. Bu hefyd yn olygydd 'Yr Efengylydd', 'Y Lladmerydd' a 'Trysorfa'r Plant' a chyhoeddodd ddwy gyfrol o delynegion. Mae wedi ysgrifennu nifer o emynau adnabyddus.



Cyfrannwch

Alys o Betws, Rhydaman
Ma' Rhydaman yn 'lush'. Fi mor hapus fy mod yn byw yma.

Llinos
Lle mae'r cofnodiad i John Cale o'r Velvet Underground?! Gaeth i eni a'i godi yn Garnant.


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy