Lleoliad:
Saif Llangain ar lannau'r afon Tywi, ac mae ffiniau'r plwyf yn ymestyn bron o Dre-Ioan i Lansteffan mewn un cyfeiriad ac o Langynog hyd at yr afon i gyfeiriad arall. Mae'r plwyf hwn, sy'n cynnwys bron 3,000 o erwau, yn gyfuniad o gefn gwlad godidog, coetiroedd ysblennydd a bryniau gwyrddlas yn cyrraedd 350tr/105m (Pwynt Trig.)
Arfbais y Cyngor
Rhoddwyd yr arfbais hwn gan y Cyngh. Haydn Williams er cof am ei rieni sef Evan John Williams (1913-1991) a Rachel Eleanor Williams (Nellie) (1919-2004), Glascoed,
1 D么l-y-Dderwen (gynt o Penycoed a Coedmor). Mae'r symbol, sef ysgub o 欧d, yn dynodi asgwrn cefn y gymuned amaethyddol hon. O gwmpas y symbol hwn gwelir tair nodwedd leol ac mae'r dderwen i'w chanfod mewn nifer o enwau yn y pentref.
Cyn-hanes
Ceir rhai cromlechi yn yr ardal, yr enwocaf yw Meini Llwydion a Choetennau Myrddin. Claddfeydd teuluol oeddynt sy'n dyddio o'r cyfnod Neolithig. (c.3000CC).
Castell Moel
Ni fu erioed yn gastell, ond yn hytrach cartref a adeiladwyd ar gyfer y teulu Reed ddechrau'r bymthegfed ganrif. Yn wir, roedd yn adfeilion erbyn oes Elisabeth. Mae'n bosibl bod yma amddiffynfa bridd ar ryw adeg, a chred rhai mai ger yr Hen Gastell y safai hon. Castell mwnt a beili fyddai hwn yn ddiau. Tan y cyfnod diweddar, arferai llongau angori o dan y castell i ddadlwytho eu nwyddau i longau ysgafnach a'u cludai wedyn i Gaerfyrddin.
Addysg
Yn 1846 yr unig ysgol yn yr ardal oedd yr Ysgol Sul. Adeiladwyd Ysgol Breswyl Llangain yn 1875 ac fe'i hagorwyd yn swyddogol yn 1876. Roedd yn parhau i gael ei defnyddio hyd oni adeiladwyd yr ysgol newydd yn 1977.
Yr Eglwys
Adeiladwyd yr eglwys bresennol, sef Eglwys Sant Cain yn 1871. Mae murluniau hyfryd o deils o amgylch yr allor er cof am y teulu Gwyn, Pil-roath a Phlas Cwt-hir. Ceir yno hefyd gwpan cymun o oes Elisabeth dyddiedig 1576.
Y Capel
Mae Capel yr Annibynwyr yn nodwedd amlwg yn y plwyf. Fe'i adeiladwyd yn wreiddiol yn 1835, cafodd ei ailadeiladu yn 1865. Adeiladwyd y capel presennol yn 1915. Pwrpas y stabl fach oedd cysgodi ceffylau yn ystod gwasanaethau'r capel. Defnyddiwyd y llofft fel festri.
Plas Cwrthir
Adeiladwyd y plasty to dwbl tua chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Y preswylydd cyntaf oedd William Edward Bevan Gwyn, Pilroath.
Coedmor
Adeiladwyd y breswylfa hon yn 1968 ar gyfer Mr a Mrs E J Williams, ffermwyr wedi ymddeol o Pen-y-coed. Yn wreiddiol roedd y tir yn eiddo i'r teulu ac mae'r enw Coedlan Coedmor yn cydnabod y cysylltiad lleol parhaol.
Bwthyn-y-Felin
Hen felin wl芒n oedd hon a gyflogai bedwar o weithwyr llawn amser yn ei dydd. Caeodd Melin Llangain/Ffatri yn y 1940au.
Llwyndu
Adeiladwyd y plasty hwn yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bu'r Capten Henry Harding yn byw yno rhwng 1821 a 1823 ac wedi hynny bu'n gartref i Frederick Philipps, Y.H. Yn 1906, aeth yn eiddo i Charles Bankes Davies. Mae ganddo borthdy uchaf ac isaf. Enw gwreiddiol y porthdy uchaf (The Beeches) oedd "Chweched", sef cyfeiriad at y chwe heol.
Pilroath
Saif y plasty hwn ym mhen deheuol y plwyf uwchben y man lle llifa Nant Rhoth i Afon Tywi. Yn 1902 prynwyd yr eiddo gan T J Harries Ysw. a chododd y plasty presennol. Tan 1994, roedd yr eiddo hwn a fu'n gartref i dair cenhedlaeth o'r teulu Harries, yn eiddo i'r Cyngh.Sir, Arthur Harries, CBE,YH,MRCVS. Mae'r clos a'r tai mas yn cael eu haddasu yn ganolfan ffilmio lle bwriedir gwneud ffilmiau a rhaglenni teledu yn ymwneud 芒 bywyd lleol.
Fernhill
Maenordy yw hwn sy'n dyddio o 1723 ac sydd yn adeilad rhestredig graddfa II am ei gysylltiadau pensaern茂ol a hanesyddol. Mae'n fwyaf adnabyddus fel y man lle'r arferai'r bardd enwog Dylan Thomas (1914 - 1953) dreulio ei wyliau haf pan yn blentyn. Cafodd y t欧 ei anfarwoli yn un o'i gerddi enwocaf, "Fernhill".
Adnabyddir Fernhill hefyd am ei gysylltiad 芒 chrogwr y sir, Robert Rickets Evans, a drigai yno ar droad y ganrif. Roedd ei ferch yn etifeddes gyfoethog ac fe'i carcharodd mewn cell yn y clos (a erys hyd heddiw) i geisio dwyn ei chyfoeth, ond dihangodd gyda chymorth ei chariad, yn 么l traddodiad.
Brynderi
Adeiladwyd y cartref hwn tua 1928 fel cartref ymddeoliad ar gyfer y parch. Evan Jones BD, ficer Llangain 1900 - 1934.
Yr Ymddiriedolaeth Coedlannau
Yw elusen fwyaf Prydain sy'n ymwneud yn unig 芒 chadwraeth coed trwy brynu a rheoli. Prynodd Goedwigoedd Castell Moel yn 1993 ac mae'r safle bellach ar agor i'r cyhoedd.
Bywyd Gwyllt
Mae'r cyfuniad o goetir, meysydd, gwrychoedd, nentydd, glan yr afon a'r chwarel yn cynnig amrywiaeth eang o wahanol gynefinoedd ac yn creu noddfa bwysig iawn i bob math o fywyd gwyllt. Ymhlith yr adar a welir yma'n aml ceir y curyll, y cudyll glas, y bwncath a'r gnocell fraith leiaf. T欧f hen flodau'r maes yn ymyl coed derw, bedw, helyg a gwern.
Pantydderwen
Bwthyn bychan oedd hwn yn wreiddiol ac ar un adeg yma oedd Swyddfa'r Post a'r siop losin leol. Addaswyd y lle yn d欧 tafarn tua 1979. 'Roedd y cwrs golff mewn bodolaeth rhwng 1993 a 2000.
Pantyrathro
Adeiladwyd y plasty hwn gan James Richards ddechau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Datblygodd yn sgil y fasnach gwerthu cynnyrch llaeth i Lundain gyda dyfodiad y rheilffordd i Gaerfyrddin. Addaswyd y plasty yn westy lleol yn 1970.
Haydn Williams, Llangain