大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cromlech Pentre Ifan 漏 Bwrdd Croeso Cymru Adnabod Ardal - Preseli
Hanes ardal bro'r Preseli, yng ngogledd ddwyrain sir Benfro. Dyma ardal mynyddoedd y Preseli, yn ymestyn o Landudoch yn y gogledd i Glunderwen yn y de.

Mae bro'r Preseli, sef ardal papur bro Clebran, yng ngogledd ddwyrain Sir Benfro. Dyma ardal wledig hardd, yr ardal y canodd Waldo amdani. Mae'r ardal yn ymestyn o Landudoch yn y gogledd i Glunderwen yn y de ac o Frynberian a Rosebush yn y gorllewin hyd at Gilgerran ac Abercuch yn y dwyrain.

Mynyddoedd y Preseli
Calon yr ardal wrth gwrs yw mynyddoedd y Preseli. Cadwyn o ryw 27 o fryniau a chernydd yw'r Preseli sy'n ymestyn am 15 milltir o lethrau'r Frenni Fach sydd yn ffinio 芒 Sir Gaerfyrddin hyd at gopa creigiog Carningli a saif uwchben Trefdraeth ac o Foel Eryr yn y gorllewin tuag at y Frenni Fawr yn y dwyrain.

Mynyddoedd y PreseliY mynydd uchaf yn y gadwyn yw Foel Cwm Cerwyn a saif 1,760 troedfedd uwch lefel y m么r. Ar ddiwrnod clir fe ellir gweld yr Iwerddon oddi yma.A'r mynyddoedd agosaf at hwnnw sef Foel Eryr ar y naill law a Foel Feddau ar y llaw arall yw'r rhai uchaf wedyn.

Mae'n debyg bod y mynyddoedd yn llawer uwch ganrifoedd yn 么l ond eu bod wedi eu herydu gan adael bryniau llyfn ac eithrio'r rhannau creigiog fel yn Cerrig Lladron, Cerrig Marchogion, Carn Bica, Carn Awl a Charn Meini.

Disgrifiodd Gwenallt Sir Benfro yn ei gyfrol Gwreiddiau fel: "Sir carreg ogam a chromlech a charn a chroes..." Ni ellir fod wedi dewis geiriau gwell i gyfleu'r ardal hon sy'n frith o gerrig a chromlechi hanesyddol.

Yng Ngharn Meini mae darn o garreg lydan a elwir yn Garreg yr Allor. Dywedir bod trigolion Oes y Cerrig yn ofni stormydd mellt a tharanau gan eu bod yn credu mai'r duwiau oedd yn gwylltio a'u bod yn dial arnyn nhw. Fe fyddai'r trigolion wedyn yn chwilio am ferch harddaf y llwyth a'i lladd ar Garreg yr Allor a'i hoffrymu i'r duwiau.

Ar lethrau Garn Meini a Charn Alw wedyn mae cerrig gleision. Mae'r rhain yn pwyso tua 4 tunnell a dywedir i 80 ohonynt gael eu cludo i ffurfio rhan o gylch C么r y Cewri yn ne Lloegr. Mae rhai haneswyr yn honni eu bod wedi eu cludo gan rew yn ystod Oes yr I芒 ond mae rhai'n dadlau iddyn nhw gael eu cludo gan ddyn.

Pentre Ifan
Ym Mhentre Ifan mae cromlech hynafol iawn. Dyma lle y cleddid pobl ganrifoedd yn 么l. Mae hon yn un o'r cromlechi gorau ym Mhrydain ac amcangyfrifir fod y garreg uchaf yn pwyso o leiaf 16 tunnell.

Yn yr oes Efydd arferai dynion fynd oddi yma i Iwerddon a dod ag aur o Wicklow yn 么l i'r ardal. Fe fydden nhw'n eu gollwng ar y ffordd ac adeiladu carneddi pe baen nhw'n colli eu cyfeillion. Codwyd tair carnedd fel hyn ar gopa Moel Drygarn. Yn ddiweddarach fe adeiladwyd caer yma yn yr Oes Haearn.

Mwy am fro'r Preseli - ewch i dudalen 2



Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy