大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cofeb Llywelyn Ap Gruffydd Fychan yn Llanymddyfri Prosiect Cofeb Llywelyn ap Gruffydd Fychan
Cychwynodd y prosiect yn haf 1998 pan benderfynodd cymdeithasau, grwpiau ac unigolion lleol y dylid trefnu cofeb addas i anrhydeddu un o arwyr mwyaf Llanymddyfri a'r achos y bu farw drosto chwe chan mlynedd yn 么l.
Ffurfiwyd Pwyllgor Coffa ac yn fuan derbyniodd gefnogaeth gan bob rhan o'r gymuned. Gofynnwyd i Antur Cwm T芒f/Tywi symud y prosiect ymlaen a bu'n llwyddiannus yn sicrhau arian ychwanegol oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru.

Cynhaliwyd arddangosfa o'r pum cynllun ar y rhestr fer yn ystod gwanwyn 2000 a gofynnwyd i'r cyhoedd fynegi eu barn. Y cynllun mwyaf poblogaidd o bell ffordd oedd un y brodyr Toby a Gideon Petersen o Sancl锚r.

Saif eu cerflun dur gloyw 16 troedfedd ar garreg 17 tunnell a gludwyd o'r bryniau i'r gogledd i'r dref. Ym marn y Pwyllgor mae'r gofeb yn crisialu'r ysbryd sydd wedi cynnal Cenedl y Cymry hyd heddiw ac sydd wedi galluogi'r Cymry, eu diwylliant a'u hiaith i oroesi er gwaethaf yr holl fygythiadau i'w bodolaeth yn ystod y ddwy fil o flynyddoedd diwethaf.

O'r cychwyn cyntaf bwriad y Pwyllgor Coffa oedd dathlu rhinweddau dewrder a theyrngarwch a chreu:

1. Cofeb addas i nodi digmyddiad hanesyddol o bwys
2. Darn o waith celf cyhoeddus blaengar ac o safon uchel
3. Atyniad o bwys i dwristiaid ar gyfer Llanymddyfri a'r ardal o amgylch

Fe ddaeth dros ddwy fil o bobl i'r seremoni ddadorchuddio liwgar a chynhwysfawr ar Hydref 6ed 2001.

Roedd hwn yn brosiect cymunedol y gallwn ni i gyd ymfalch茂o ynddo. Bydd y cerflun gwych hwn yn fuan yn cael ei gysylltu 芒 Blaenau Tywi; bydd yn symbol nid yn unig o'r gorffennol ond yn arwydd o obaith ar gyfer y dyfodol.

Dymuna'r Pwyllgor Coffa ddiolch i Antur Cwm T芒f/Tywi, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Sir Caerfyrddin a'r holl unigolion a sefydliadau a fu'n ein cynorthwyo.

Gan: Rhobert ap Steffan

Darllenwch hanes Llywelyn ap Gruffydd yma.



Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy