大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur y Cwm
Bryn Gwyn, Patagonia Ymweliad 芒'r Wladfa
Mai 2004
Cafodd griw o Ystradgynlais brofiadau bythgofiadwy ar eu taith i'r Ariannin yn ystod mis Mawrth eleni - o ymweld 芒 chyd Gymry i fynychu angladd un o frodorion hynaf Dolavon.
Yn ystod mis Mawrth, aeth pedwar p芒r o Ystradgynlais ar antur i Batagonia, sef Sheila a David Close, Val a Doug James, Alvene ac Alun Morgan a Gwenfron Williams ac Andrew Ingram.

Dechreuodd yr antur ar ddiwrnod oer ar ddiwedd Chwefror, ond wedi taith awyren o ryw bymtheg awr, roeddent dan haul tanbaid haf pegwn y de. Yr arhosiad cyntaf oedd yn ninas Buenos Aires, prif ddinas yr Ariannin gyda'i rodfeydd llydan a'r coed Jacaranda. Roedd hi'n brofiad gwych gweld y Casa Rosada o le y gwnaeth Evita a Maradona Peron gyfarch eu pobl.

Eu harhosiad cyntaf ym Mhatagonia oedd gyda nith Gwenfron a'i theulu, Eleri, Tim a'u mab Macsen. Mae Eleri yn ferch i Gruff ac Eifiona Roberts o Aberhonddu sydd wedi ymgartrefu ym Mhatagonia gyda'i g诺r Tim, brodor o'r Ariannin. Cwrddon nhw hefyd ag Eifiona oedd newydd gyrraedd y Wladfa o Aberhonddu.

Teithion nhw o gwmpas y wlad ac ymweld 芒 Dolavon, Trelew, Cwm Hyfryd a Puerto Madryn i enwi ychydig. Daeth cais arbennig iddynt fynychu angladd un o frodorion hynaf Dolavon, sef Tommy Davies oedd wedi cyrraedd 96 oed. Roedd yr oedfa yn Gymraeg a Sbaeneg a chanwyd yr hen ffefrynnau, Llef a Chalon L芒n. Roedd hwn yn brofiad dwys a godai hiraeth yng nghalonnau pawb oedd yn bresennol. Profiad llesmeiriol oedd gweld eiddo un o gyndeidiau Huw Williams, Y Mimosa, Ystradgynlais pan gyrhaeddodd y Wladfa gyntaf o Gymru.

Daeth y daith hudolus hon i ben gydag ymweliadau i Esquel wrth droed mynyddoedd yr Andes, a rhaeadrau byd enwog Iguasu ym Mrasil.

Yn ddiau, roedd hwn yn brofiad bythgofiadwy a godai syndod a pharch mewn dewrder a phenderfyniad y Cymry a fentrodd i'r Ariannin i edrych am fywydau gwell. Erys atgofion am y croeso didwyll, Cymreig gawsant gan Gymry Cymraeg Patagonia am byth yng nghof yr wyth teithiwr o Ystradgynlais.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy