大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur y Cwm
Lluno Megan Davies - Ghana Profiad Bythgofiadwy
Rhagfyr 2007
Yn ystod yr haf bu Megan, merch Cynthia a Michael Davies, Station Road yn yr Affrig, yn aros gyda theulu yn Ghana. Dyma ei hanes hi ar y cyfnod hwnnw.

B没m yn aros gyda hen wraig o'r enw Comfort a'i theulu mawr yn cynnwys meibion, wyron ac wyresau a ffrindiau'r teulu. Ar un adeg yr oedd 14 ohonom dan yr un to. Roedd trefniadau o hyd yn newid. Gwirfoddolwraig oeddwn ac roedd gwirfoddolwyr eraill yn byw yn yr un t欧, gyda rhai'n cyrraedd a gadael ar wahanol ddyddiadau. Am bythefnos doedd gen i ddim cwmni, ac yr oedd hyn yn anodd er bod y teulu mor gyfeillgar. Roedd d诺r rhedegog yn brin 卢ffynnon oedd yn aml yn sych, trydan am ychydig o oriau'r dydd. Ar ben hyn roedd y teulu yn cadw amrywiaeth o anifeiliaid - ieir, twrciod, geifr a chathod.

Roedd fy niwrnod yn dechrau gydag ymolchi mewn bwcedaid o dd诺r rhewllyd. Bara a ffrwythau oedd i frecwast am 7.30 y bore cyn cychwyn i'r gwaith am 8 o'r gloch. Roedd siwrne o 25 munud mewn tacsi i gyrraedd ysgol baratoi Esther. Wrth gerdded lawr y llwybr i'r ysgol roeddwn yn cael cwmpeini haid o blant yn galw 'Madam Mag, Madam Mag'. Yr oeddynt mor falch i'm gweld i ar y bore ola ag ar y bore cyntaf.

Plant o 1-7 oed oedd yn yr Ysgol, wedi eu gosod mewn tri dosbarth. Roedd yno dair athrawes yn siarad Saesneg yn dda a thair yn cynorthwyo heb fawr o Saesneg er mai Saesneg oedd cyfrwng y dysgu. Esther oedd y brifathrawes ac yn ei dosbarth hi yr oeddwn i yn helpu. Ar fy niwrnod cyntaf, yn annisgwyl, gofynnwyd i fi ddysgu rhigwm newydd iddynt - bedydd tan!

Roedd gwirfoddolwraig arall yn yrYsgol, Stacey o Ganada.

Braf oedd cael cwmni i rannu syniadau gan fod y plant yn dipyn o lond llaw. Defnyddiwyd y gansen yn amal ac roedd hyn yn wrthun i fi, ond dyna'u ffordd o fyw yn Ghana. Bob dydd yr oedd llawer o ganu a llafar-ganu, ychydig o ddysgu a chwarae. Roedd gen i anrhegion i'r ysgol wedi'i rhoi gan deulu a ffrindiau adre cyn ymadael. Yr oedd y plant mor ddiolchgar am y pethau syml fel pensiliau a 'Playdo'. Does dim arian ganddynt i brynu yr offer syml mae plant yn eu defnyddio. Roedd Stacey a fi wedi trefnu mabolgampau i'r plant h欧n - roeddynt wrth eu bodd. Llwyddodd y ddwy ohonom i brynu sudd a siocled j'r plant a gwobrwywyd y tim buddugol. Doeddwn i erioed wedi gweld plant mor hapus.

Tua diwedd fy arhosiad aethom ar drip ysgol i'r ffarm goco gyntaf yn Ghana. Mae cynhyrchu coco mor bwysig gan ei fod yn dod ag arian i'w wlad. Roedd yno ddwy o'r coed gwreiddiol-diddorol iawn. Fel rheol yr oedd fy niwrnod yn yr ysgol yn cwpla amser cinio ac yna troi am adre i gael cinio - reis neu spaghetti ac omlette.

Erbyn y diwedd roeddwn wedi laru arno! Yn y prynhawn roeddwn yn helpu mewn ysgol arall - yn paentio rhifau a'r wyddor ar y waliau. Roedd yn ffordd braf o ymlacio a helpu'r gymuned leol. Prosiectau Dysgu Dramor oedd yn trefnu hyn. Bob dydd Mercher roedd y gwirfoddolwyr Ileal yn cwrdd yn swyddfa'r mudiad i wneud trefniadau ar gyfer y penwythnosau. Cafwyd y cyfle i drafaelu i lefydd fel Cape Coast, Ada Foah, a Kokrobite. Yn Cape Coast mae Castell Caethwasiaeth enwog, Castell Cape Coast. Dyna atgof o'r creulondeb erchyll a ddioddefwyd gan y cenedlaethau gynt. O'r fan hyn fe'u hanfonwyd i'r Amerig. Yno hefyd mae Pare Cenedlaethol Kakum lie buom dros nos yn cysgu ar Iwyfan dan rwyd mosquito. Yna codi cyn codiad haul i brofi'r Llwybrau Canape.

Dyna brofiad gwych. Roeddwn yn rhy uchel yn y coed i weld yr anifeiliaid - ond fe glywsom eliffantod.

Ada Foah yw'r man lle mae Llyn Volta yn cyrraedd y mar Iwerydd. Cafwyd cyfle yma i ymlacio ar ynys drofannol rhwng y llyn a'r m么r gyda drwmio a dawnsio Affricanaidd yn y cefndir.

Yn Kokrobite mae un o'r Academ茂au gorau am Ddrwmio a Dawnsio Affricanaidd, rh aid oedd mynd yno. Buom yn cysgu mewn pebyll mewn ardal ddymunol. Roedd y perfformiadau yn arbennig o'r gymuned gyfan yn gwylio. Roedd y dawnswyr yn wych dyna un o'm hoff brofiadau ar y daith. Cefais y fraint o gael gwahoddiad i briodas Cynthia, merch Comfort lle roeddwn yn aros. Dyna beth oedd profiad!

Teimlais mai priodas wedi'i drefnu oedd - nid fel mae adre. Roedd y dathlu'n para tua tri diwrnod. Yn anffodus, gwelais yr anifeiliaid yn cael eu lladd ar gyfer y wledd. Ofnadwy, digon i droi unrhyw un yn llysieuwr! Anghofia i byth mo'r cyfnod hwn. Er bod amodau byw yn fwy anodd na'r disgwyl a'r hiraeth am adre yn fawr, rwy'n falch fy mod wedi cael y cyfle hwn o brofi sut mae eraill yn y byd yn byw. Byddwn wedi hoffi cael dod a'r plant bach i gyd adre gyda fi.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy