大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur y Cwm
Adar Cornel Natur
Mawrth 2003
Dwy Werddon Ynghanol Tirlun Diwydiannol.
Rydym yn ffodus yng Nghwm Tawe bod gennym ddau safle o ddiddordeb naturiol arbennig reit ar garreg y drws. Er ein bod yn draddodiadol mewn ardal ddiwydiannol mae'r ddau safle yma yn cynrychioli byd a chynefin sydd wedi hen ddiflannu.

Ffen Pant y Sais a Cors Crymlyn
Y Safle cyntaf yw Ffen Pant y Sais ym Mhentrecaseg a'r ail yw Cors Crymlyn. Mae'r ddau safle yn debyg iawn i'w gilydd oherwydd fe ddatblygodd y ddau safle ar hyd hen wely yr Afon Nedd. Mae Pant y Sais yn mesur dros bedair erw ac mae'r gwahaniaeth sydd yn y traeniant ac asidigrwydd y pridd yn golygu bod amrywiaeth eang o dyfiant yma. Hyd at y 1930au defnyddiwyd y safle at ddibenion amaethyddiaeth yn enwedig at ddefnydd y tlawd i gasglu cyrs.

Yn dilyn gostyngiad a fu yn nefnydd y ffen fel safle amaethyddol esgeulustwyd y safle o ran reolaeth a defnyddiwyd y safle fel tomen sbwriel. Dim ond mor ddiweddar a 1976 yr aethpwyd ati i lenwi'r safle a phrynwyd y safle gan hen Gyngor Bwrdeistref Castell Nedd er mwyn sefydlu gwarchodfa natur leol ym 1983. Mae'n safle ecolegol pwysig iawn gan fod nifer o ffeniau tebyg yn yr ardal wedi eu colli. Dynodwyd y safle yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ym 1979. Ar y safle ceir nifer o blanhigion o ddiddordeb gan gynnwys Rhedynen Gyfrdwy, Llafnlys Mawr a'r Farchredynen Gul.

Mae'r ffen hefyd yn gartref i nifer o adar gan gynnwys Bras y Cyrs, Telor y Cyrs a Thelor yr Hesg. Mae'n werth ymweld a'r safle yn ystod yr haf yn enwedig os oes gennych ddiddordeb mewn pryfed gan fod y ffen yn gartref i ddeg math o wesynnod. Gellir dilyn Ilwybr pren i ganol y ffen neu ddilyn Ilwybr sydd yn amgylchynu'r ffen.

Lleolir Cors Crymlyn ynghanol ardal ddiwydiannol ac fe'i disgrifiwyd fel "gwerddon naturiol yng nghanol tirlun diwydiannol". Yn wir mae'r ffen drws nesaf i burfa olew Llandarsi a thomen sbwriel Tir John. Y ffen yw'r arwynebedd mwyaf o'i bath yng Nghymru ac mae'r cynefin yn fwy tebyg i ardaloedd East Anglia nag i Dde Cymru. Mae'r ffen yn gartref i blanhigion, pryfetach ac adar diddorol ac mae'r holl ardal yn cael ei rheoli gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru. Dynodwyd y safle yn Warchodfa Natur Genedlaethol. Ymhlith y planhigion gellir gweld Plu'r Gweunydd Eiddil, Rhedynen Wyfrdwy, Gwlithlys, Llymfrwynen a Swigenddail Lleiaf. Mae'r ffen yn gartref i nifer o wesynnod, gwyfynod, chwilod a chorynnod prin. Ymysg y trychfilod gellir gweld y Corryn Rafft ac yn ystod yr haf yn gorwedd ar domeni tail ceffyl yn y cae crugog y Pryf Lladd. Mae'r ffen yn gartref i nifer o adar gan gynnwys 'Telor yr Cyrs, Thelor yr Hesg a Chnocell Werdd ynghyd ag adar prin megis Rhegen y Dwr ac Aderyn y Bwn.

Yn ystod yr Hydref defnyddir y cyrs fel safle clwydo gan gannoedd o wenoliaid cyn mudo ac mae'r coed ar ffin y ffen yn safle clwydo i filoedd o Jac y Do yn ystod y Gaeaf. Nodweddion eraill a berthyn i'r warchodfa yw twmpathau morgrug niferus sydd yn arwydd nad yw'r tir mewn rhai ardaloedd wedi ei droi ers o leiaf gan mlynedd, coed gwern sydd yng nghanol y warchodfa ac sydd mewn gwirionedd yn fygythiad i ecoleg y safle. Tasg fawr i Gyngor Cefn Gwlad yw ceisio rhwystro Iledaeniad prysg a fyddai yn ei dro yn amharu ar ecoleg y warchodfa. Yn gefn i'r warchodfa ceir Craig Dan y Rhiw a elwir yn Ileol yn "Lousy Hill" oherwydd ei fod ar un adeg yn llawn cwningod a oedd yn gwneud y safle edrych fel petal yn llawn llau.

Gellir ymweld a'r safle trwy ddilyn y Ilwybr sydd wedi ei farcio a saethau gwyn, mae'r daith gerdded o gwmpas y warchodfa oddeutu 1 km o hyd. Gofynnir i ymwelwyr gau pob clwyd ar eu h么l a bod yn hynod ofalus gan mai haenen denau o lysdyfiant dros fwd yw'r safle. Ni ddylid ar unrhyw gyfrif fentro oddi ar y Ilwybr gan fod hyn yn beryglus ac hefyd gallai fod yn ddamweiniol i'r amgylchedd.Felly os am fentro allan i gerdded ar ddiwrnod braf yn y Gaeaf beth am fentro i un neu'r ddwy werddon sydd ynghanol tirlun diwydiannol".


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy