大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur y Cwm
To pafiliwn Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Abertawe
Mehefin 2005
Gyda 15 mis yn unig i fynd, mae trefniadau ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a'r Cylch, fydd yn cael ei chynnal ar safle hen waith tun Felindre rhwng Awst 5ed - 12fed, 2006 wedi codi st锚m.

Yn unol 芒 thraddodiad y Brifwyl, bwriedir cyhoeddi dyfodiad yr Eisteddfod o leiaf blwyddyn a diwrnod cyn cychwyn yr 诺yl, ac felly cynhelir y Seremoni Cyhoeddi yn Ninas Abertawe ar ddydd Sadwrn, 25 Mehefin, 2005.

Ceir rhagflas pan fydd Gorsedd y Beirdd, ynghyd 芒 chynrychiolwyr o wahanol fudiadau a sefydliadau yr ardal, yn gorymdeithio drwy ganol y ddinas ac yn cynnal Seremoni Cyhoeddi'r Eisteddfod yng nghylch yr Orsedd ym Mharc Singleton am 3 o'r gloch. Gorymdeithwyr i gwrdd wrth Theatr y Grand am 1.15p.m.

Yn ystod wythnos y cyhoeddi mae gwledd o adloniant wedi ei drefnu gan gychwyn ar nos Sadwrn, Mehefin 18 gyda Chyngerdd Mawreddog yn Neuadd y Brangwyn ac yn gorffen gyda'r Gymanfa Ganu traddodiadol yn Eglwys y Santes Fair, Abertawe am 7.30 o'r gloch.

Pwyllgorau Ap锚l
Mae codi arian yn orchwyl di-ddiolch yn aml ond mae'n rhan hanfodol o'r Eisteddfod. Costau Eisteddfod Abertawe a'r Cylch 2006 yw 拢2.7 miliwn. Daw cefnogaeth ariannol oddi wrth lywodraeth lleol, nawdd, hawliau darlledu a grantiau. Yn ychwanegol mae yna gyfrifoldeb ar drigolion yr ardal gyfrannu tuag at y costau. Nod y pwyllgorau ap锚l leol yw 拢270,000. Eisoes mae'n cymunedau lleol wedi codi 拢100,000, sef ychydig o dros drydydd y swm. Bydd angen codi stem yn ystod y flwyddyn nesaf i gyrraedd y nod.

C么r yr Eisteddfod
Un o uchafbwyntiau unrhyw Eisteddfod, wrth gwrs, yw sefydlu C么r yr Eisteddfod. Mae ymuno 芒'r C么r yn brofiad bythgofiadwy - mae'n gyfle i gael perfformio ar lwyfan pafiliwn yr Eisteddfod gydag unawdwyr byd enwog a cherddorfa broffesiynol.

Bydd croeso i bawb, yn gantorion profiadol neu yn gantorion newydd sbon, i ymuno.Os hoffech ymuno 芒'r C么r, yna cysylltwch Heulwen yn Swyddfa'r Eisteddfod yng Nghaerdydd. Rhif ff么n: 029 20 763 777.

Llety
Bob blwyddyn, mae'r Eisteddfod yn denu tua 170,00 o ymwelwyr. Tra bo rhai'n teithio o'u cartref bob diwrnod, neu'n aros ar faes carafannau'r Eisteddfod, mae nifer fawr yn aros mewn cartrefi preifat yn yr ardal, rhai am yr wythnos gyfan, eraill am ddiwrnod neu ddau. Mi fydd y gwesteion wrth gwrs yn talu cydnabyddiaeth briodol.

Os oes gennych ystafell neu ddwy'n wag ac yn barod i gynnig llety, yna cysylltwch 芒 Sioned yn Swyddfa'r Eisteddfod yng Nghaerdydd. Rhif ffon 029 20 763 777.

Digwyddiadau Wythnos y Cyhoeddi
Nos Sadwrn, Mehefin 18, 2005
Cyngerdd y Cyhoeddi yn Neuadd y Brangwyn gyda; Shan Cothi, C么r Meibion Pontarddulais, Band Pres; Penclawdd ac Abigail Sara. 7.00pm
Tocynnau: 拢8 拢10, 拢12 ar gael trwy ffonio 01792 475 715.

Nos Fawrth, Mehefin 21, 2005
Noson yng nghwmni Hywel Teifi Edwards yn s么n am hanes Eisteddfodau ardal Abertawe a'r cylch. 8.00pm
Tocynnau: 拢5 yn cynnwys Caws a Gwin - ar gaei o T欧 Tawe.

Nos Fercher, Mehefin 22, 2005
Noson o adloniant a drama gan Gwmni Drama'r Gwter Fawr, yn cynnwys "Salon Sal" gan Nans Pritchard yn Aelwyn Amanw, Brynaman.

Nos Iau, Mehefin 23, 2005
Talwrn y Beirdd yng Nghlwb Rygbi Pontarddulais 7.30pm

Prynhawn Sadwrn, Mehefin 25, 2005
G诺yl y Cyhoeddi. Gorymdeithio o'r Grand am 1.15 prynhawn i gyrraedd Cylch yr Orsedd ym Mharc Singleton erbyn 3 o'r gloch.

Nos Sadwrn, Mehefin 25, 2005
Gig y Cyhoeddi, T欧 Tawe, Abertawe gyda Frizbee ac Alun Tan Lan.
Tocynnau: 拢5.

Nos Sul, Mehefin 26, 2005
Cymanfa Ganu yn Eglwys y Santes Fair, Abertawe am 7.30pm
Tocynnau: 拢4 o D欧 Tawe.
Rhif ff么n: 01792 460906.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy